Agenda item

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Rhoddwyd teyrnged gan y Cynghorydd Selwyn Griffiths i’r diweddar Maldwyn Lewis, Porthmadogcyn aelod o’r Cyngor hwn a chyn-Gyngor Sir Gwynedd.

 

Nododd y Cadeirydd mai, gyda thristwch, y clywyd hefyd am farwolaeth sydyn y cyn-Gynghorydd Dewi Llewelyn, fu’n frwdfrydig iawn wrth gynrychioli pobl leol a’i gymuned ym Mangor.  Mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu a’i ffrindiau.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd i ddweud gair ynglŷn â’r Etholiadau Senedd diweddar.  Nododd:-

 

·         Mai dyma’r Cyfarfod Blynyddol diwethaf o’r Cyngor cyn i’r aelodau wynebu etholiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a daliodd ar y cyfle i ddiolch i bob aelod am eu cyfraniad gwerthfawr i waith y Cyngor.  Nododd hefyd y bu’n bleser ac yn anrhydedd bod yn Arweinydd dros y 4 blynedd ddiwethaf, ac y byddai’n gwneud ei orau eto dros y flwyddyn sy’n weddill o dymor y Cyngor presennol.

·         Y dymunai longyfarch Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor ar gael eu hethol i gynrychioli Arfon a Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiadau Senedd diweddar.  Mynegodd ei obaith y byddai’r ddau, fel cyn-gynghorwyr sir, yn cofio am lywodraeth leol yn eu gwaith, ac yn cefnogi pob ymdrech i rymuso ac amddiffyn llywodraeth leol, ac i sicrhau y byddwn yn derbyn cyllid digonol i ymgymryd â’n dyletswyddau.

·         Y dymunai ddatgan gwerthfawrogiad i’r aelodau hynny o’r Cyngor oedd wedi sefyll yn yr Etholiadau Senedd, gan ddiolch iddynt am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

·         Yr hoffai ddymuno’n dda i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar ei ymddeoliad o’r Senedd ar ôl oes o wasanaeth i Gymru, ac yn arbennig i Feirionnydd.  Nododd y bu ei waith fel Llywydd y Cynulliad yn allweddol i osod sylfeini cadarn ac i roi statws i’r corff, a diolchodd iddo am ei holl waith, ac am ein cynrychioli cyhyd.

·         Bod pobl Cymru wedi rhoi pleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, a bod llawer o’r diolch am hynny i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am y ffordd bwyllog a gonest y bu iddo ein harwain drwy gyfnod hynod anodd.  Roedd y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y gallai Cymru weithio yn fwy effeithiol, ac yn ddoethach, na Llywodraeth San Steffan, a dangoswyd hefyd yn glir yr angen am lawer iawn mwy o bwerau i Gymru.  Roedd her i’r Blaid Lafur ddangos eu bod yn barod i sefyll yn gadarn dros Gymru, gan fynnu mwy o bwerau, ac i sefydlu eu hunain fel plaid annibynnol Gymreig, gan dorri’n rhydd oddi wrth eu cymheiriaid yn Lloegr.  Fel Arweinydd y Cyngor dros y flwyddyn nesaf, byddai’n manteisio ar bob cyfle i fynegi’r her yma iddynt.

·         Y dymunai groesawu Dafydd Gibbard i’w Gyngor llawn cyntaf fel Prif Weithredwr.  Dymunodd iddo bob llwyddiant yn y swydd, gan nodi ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y flwyddyn nesaf.

 

Llongyfarchwyd Andy Dunbobbin ar gael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o waith y Cynghorydd Edgar Owen fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd diwethaf.  Nododd ei fod wir wedi cerdded yr ail filltir a bod parch mawr i’w dymor fel Cadeirydd.  Ychwanegodd y bu’r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o heriol, a bod y Cynghorydd Edgar Owen wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ymdopi â chadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn rhithiol am y tro cyntaf yn hanes y Cyngor.

 

Croesawyd Dafydd Gibbard i’w gyfarfod Cyngor llawn cyntaf fel Prif Weithredwr a diolchwyd i Dilwyn Williams, y cyn Brif Weithredwr, am ei waith yntau dros y saith mlynedd diwethaf, gan ddymuno iddo ymddeoliad hir a hapus.

 

Nodwyd ei bod yn braf hefyd nodi i’r Cyngor gadw ei statws ar Lefel Aur gan asesydd Safon Iechyd Corfforaethol (Llywodraeth Cymru) yn dilyn cyflwyniad a sgwrs ynglŷn â’r hyn a wnaed i gefnogi lles meddyliol a chorfforol yn ystod y deuddeg mis diwethaf.