Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng nghyswllt cefnogaeth i aelodau.

 

Diolchodd y Pennaeth i holl aelodau’r pwyllgor, ac i swyddogion y Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith, am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Cyfeiriodd yn arbennig at ymdrechion arwrol Arweinydd a staff y Tîm Cyfieithu i sicrhau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol, nid yn unig o fewn y Cyngor hwn, ond ar draws y rhanbarth hefyd gyda sefydliadau cyhoeddus eraill.  Roedd gwaith y swyddogion Technoleg Gwybodaeth wedi bod yn allweddol hefyd, ac wedi galluogi i bawb gymryd y dechnoleg mor ganiataol bellach.  Diolchodd hefyd i swyddogion y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r Sefydliad am gydgordio’r hyfforddiant, ac i aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Cynghorwyr Dewi Owen ac Anne Lloyd Jones fel cadeiryddion y pwyllgor dros gyfnod yr adroddiad dan sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd pryder y gallai’r gost ychwanegol o weithio’n rhithiol o gartref fod yn rhwystr i rai sefyll etholiad i fod yn gynghorydd, ac y dylid sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyngor cynhwysol.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth yn fyw i’r bygythiad hwn, ac y byddai’n destun trafodaeth bellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym Mehefin.

·         Holwyd a roddwyd ystyriaeth i gynnig gwasanaeth cyfieithu i awdurdodau eraill, fel ffordd o ddod ag incwm ychwanegol i goffrau’r Cyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfieithu eisoes yn darparu gwasanaeth cyfieithu i nifer o sefydliadau eraill.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd y gwasanaeth hefyd wedi cynorthwyo nifer o awdurdodau lleol eraill, ayb, er mwyn cyflwyno systemau sy’n caniatáu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol.  Roedd incwm yn dod i mewn eisoes gan sefydliadau am y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan Wynedd, ond roedd lle i ystyried ymestyn hynny ymhellach.

·         Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn flaengar yn symud i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf, a’i fod yn esiampl i gyrff eraill ar draws Cymru.

·         Nodwyd bod cynnal cyfarfodydd yn rhithiol yn arbed llawer o gostau teithio i’r Cyngor ac amser teithio i’r aelodau, ac y dylid ystyried hyn fel y ffordd ymlaen i’r dyfodol.

·         Mynegwyd y farn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cynnal ei statws fel pwyllgor teg a chadarn.  Nodwyd hefyd na fu’n bosib’ i’r aelodau fynd ar ymweliadau safle, oedd mor bwysig o safbwynt gwneud y penderfyniadau cywir ar geisiadau cynllunio.

·         Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor llawn a’r Pwyllgorau Craffu gyfarfod wyneb yn wyneb, ond y dylid rhoi’r dewis i aelodau fynychu cyfarfodydd eraill yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ymgorffori’r drefn rithiol o weithio, yn ogystal â hybrid a chyffredin, ac y byddai’n ofynnol i’r Cyngor fabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn.  Gan hynny, byddai cyfle i’r aelodau gyfrannu i’r drafodaeth ynglŷn â ffurf a siâp y pwyllgorau i’r dyfodol yn fuan.

·         Nodwyd bod y drefn hybrid wedi bod yn llwyddiannus mewn llefydd eraill.  Roedd y Cyngor hwn wedi bod yn flaenllaw yn sefydlu trefn rithiol, a gallai wthio eto i fod ar y blaen o ran trefn hybrid.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y Cyngor eisoes yn buddsoddi mewn darpariaeth fyddai’n caniatáu’r hyblygrwydd yna yn y dyfodol agos, a diau y gellid symud ymlaen a chytuno ar hynny’n fuan iawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth am ei gyflwyniad.

 

Dogfennau ategol: