Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr, oherwydd y pandemig, fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i’r blynyddoedd a fu, ac yn flwyddyn na ddymunid gweld ei thebyg fyth eto.  Cydymdeimlodd â phawb oedd wedi colli anwyliaid i’r firws, a diolchodd i bob un o weithwyr gofal y sir, oedd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn i roi’r gofal gorau bosib’ i’r trigolion.  Nododd hefyd fod y cydweithio ar draws Gwynedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb, ac y gwelwyd y gorau o bobl yng Ngwynedd, yn staff, gwirfoddolwyr, pencampwyr yn y cymunedau ac aelodau etholedig.

 

Nododd ymhellach, er gwaetha’r heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, ei bod yn falch o nodi fod perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn a fu wedi bod yn gadarnhaol unwaith eto.   Fodd bynnag, wrth ganolbwyntio ar ymdopi gyda’r argyfwng Cofid, roedd rhai blaenoriaethau wedi llithro rhywfaint, neu wedi eu rhoi o’r neilltuo am y tro.  O ganlyniad, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y ffordd yr ymatebwyd i’r pandemig a’r modd y parhawyd i gynnal a darparu’r gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â datblygu a darparu gwasanaethau newydd.

 

Eglurodd fod llu o staff a rheolwyr gweithgar ac ymroddedig y tu ôl i’r perfformiad yma, yn ogystal â gofalwyr sy’n deulu neu ffrindiau, rhieni maeth a gwirfoddolwyr.  Roedd y pandemig wedi dangos bod gwasanaethau gofal cadarn yn y cymunedau yn hollol hanfodol, a mawr obeithid y byddai polisïau a threfniadau, ayb, i’r dyfodol yn amlygu bod y sector gofal cyn bwysiced â’r gwasanaethau iechyd.

 

Pwysleisiodd y byddai hi a’r penaethiaid yn cadw golwg barcud ar effaith y flwyddyn ddiwethaf ar y staff yn yr hir dymor a’r tymor byr / canolig.  Roedd cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i’r staff, ac roedd rhaid bod yn byw i anghenion staff unigol, a cheisio rhagweld y problemau i’r dyfodol.  Roedd y pandemig hefyd wedi gadael effaith ar boblogaeth y sir o ran cyflogaeth, unigrwydd, iselder, ayb, ac roedd y Bwrdd Cefnogi Pobl yn edrych ar faterion llesiant, ac wedi dysgu o’r profiadau Cofid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd orau bosib’. 

 

Ychwanegodd nad oedd perfformiad da yn bosib’ heb y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol, a diolchodd i bawb o’r aelodau am eu gwaith drwy gydol bob blwyddyn yn cefnogi, herio a chynnig sylwadau a syniadau newydd.  Diolchodd i’r ddau Aelod Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan, ac i’r Arweinydd a gweddill y Cabinet a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu cymorth parhaus a’u cefnogaeth i’r maes.  Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Plant a Theuluoedd a’r uwch reolwyr a’r rheolwyr.  Diolchodd hefyd i adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i gamu i mewn a chefnogi’r gwaith gofal cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf.  Diolchodd yn arbennig i Dilwyn Williams am ei arweiniad a’i gefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr, gan nodi ei bod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Dafydd Gibbard, fel y Prif Weithredwr newydd.

 

I gloi, nododd y byddai 2021 yn sialens hefyd, ond drwy gydweithio a rhannu a chynnig syniadau, roedd yn hyderus y gellid parhau i gynnig y gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod adran Gwynedd o Profi Olrhain Diogelu wedi gwneud gwaith arbennig o dda.

·         Nodwyd, waeth pa mor galed roedd y Cyngor yn gweithio, yn enwedig yn y maes iechyd meddwl, nad oedd modd cael y maen i’r wal os nad oedd gan y Bwrdd Iechyd staff digonol, a phwysleisiwyd yr angen i hyfforddi meddygon a nyrsys ym Mangor, ar y cyd rhwng yr Ysbyty a’r Brifysgol.

·         Diolchodd y ddau Aelod Cabinet yn y maes gofal i’r Cyfarwyddwr am ei chefnogaeth a’i harweiniad, ac i bob aelod o’r staff, yn enwedig y staff rheng flaen, am eu holl waith, a’u haberth bersonol ar adegau, er budd pobl fregus Gwynedd.

·         Diolchwyd i’r staff am eu parodrwydd i gynorthwyo’r aelodau i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd.

·         Nodwyd y byddai effeithiau’r pandemig yn parhau am flynyddoedd, a galwyd ar gyd-aelodau i gynorthwyo gyda’r baich er lles y swyddogion a phobl Gwynedd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti’r Adran i wynebu’r problemau sy’n ein hwynebu yn y dyfodol yn sgil Cofid a Brexit, eglurwyd bod y mater recriwtio yn y maes gofal wedi’i gynnwys yng nghofrestr risg y ddwy Adran.  Nid oedd yna atebion hawdd i hyn, ond byddai’n rhaid gwneud y maes yn flaenoriaeth, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd.  Roedd yn rhaid cael yr ariannu gan y Llywodraeth i sicrhau bod modd talu cyflogau teg yn y sector yn ei gyfanrwydd.  Nid oedd yn glir eto pa fath o wasanaeth fyddai ei angen yn sgil y profiadau gyda Chofid, ond roedd yn bwysig gallu bod yn ymatebol a gallu ateb rhai o’r problemau mewn ffordd mor adeiladol a rhagweithiol ag y gellid. 

·         Gofynnwyd pa fath o ymateb a gafwyd i’r ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol diweddar i recriwtio gweithwyr yn y maes gofal, a holwyd beth allai’r aelodau wneud i hybu hyn.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr ymgyrchoedd wedi gwella’r sefyllfa.  Credid bod modd gwneud mwy, ac efallai bod sgôp i gael mwy o’r ymdeimlad lleol i rai o’r swyddi hefyd, fel bod modd cefnogi unrhyw un sydd braidd yn ofnus o ymgeisio am swydd mewn cyngor neu gyda darparwr.  Gallai rôl yr aelodau fod yn allweddol o ran hynny.  Roedd yn rhaid ystyried y gweithwyr cymdeithasol hefyd, gan sicrhau bod digon yn cael eu cefnogi i gwblhau gradd uwch i ddod i mewn i’r maes.  Diau y byddai’r Pwyllgor Craffu Gofal yn cadw golwg ar y gwaith sy’n digwydd, a gwahoddwyd unrhyw un oedd â syniadau ynglŷn â sut i wella’r systemau recriwtio a’r ymgyrchoedd ddod i gysylltiad â’r Adran i drafod ymhellach.

·         Holwyd sut y gallai’r Cyngor gefnogi’r bobl hynny sydd ar y lein ac yn methu cael arian o unman.  Mewn ymateb, eglurwyd y credid bod gwaith y Bwrdd Cefnogi Pobl yn mynd i’r cyfeiriad yma, gan ei fod yn cynnwys ffrydiau gwaith penodol o ran cyflogaeth, tlodi, iechyd meddwl, llesiant, ayb, ond y gellid trafod hyn ymhellach gyda’r aelod y tu allan i’r cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr am ei chyflwyniad.

 

Dogfennau ategol: