Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

0

Addysg

(100)

Economi a Chymuned

(100)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

0

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(64)

Tai ac Eiddo

(75)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(100)

Cyllid

(86)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(100)

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u

egluro yn Atodiad 2) –

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,261k i

ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn

ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu

her 2021/22.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu

i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y swm

uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn

2020/21.

·         Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k) cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r dyfodol.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol:

¾    defnyddio (£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.

¾    fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.

¾    fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor.

¾    (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.

¾    (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid19.

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir

yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1.1 Nodwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.  

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant  

Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –  

 

ADRAN 

£’000 

Oedolion, Iechyd a Llesiant  

(100) 

Plant a Theuluoedd 

Addysg 

(100) 

Economi a Chymuned 

(100) 

Priffyrdd a Bwrdeistrefol 

Amgylchedd 

(100) 

Ymgynghoriaeth Gwynedd  

(64) 

Tai ac Eiddo 

(75) 

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol 

(100) 

Cyllid 

(86) 

Cefnogaeth Gorfforaethol 

(100) 

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u  

egluro yn Atodiad 2) –  

  • Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,261k i  

ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn  

ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu  

her 2021/22.  

  • Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu  

i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y swm  

uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn  

2020/21. 

  • Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k) cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r dyfodol.  
  • Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21. 
  • Ar gyllidebau Corfforaethol: 

¾    defnyddio (£926k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.  

¾    fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.  

¾    fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor.  

¾    (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.  

¾    (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid19.  

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir  

yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21. 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2020/21. Tynnwyd sylw at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol yr holl adrannau a oedd i’w gweld yn yr adroddiad gyda’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn y golofn Gor / Tan Wariant Addasedig.

 

Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble gwelwyd gwahaniaethau sylweddol. Nodwyd fod effaith ariannol Covid wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda £20m wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn. Esboniwyd yn dilyn derbyn nifer o grantiau sylweddol eraill cysylltiedig â Covid-19 yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, golyga hyn fod y sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn. Cyn dyrannu'r grantiau digolledu am Covid19 gan Lywodraeth Cymru nodwyd fod 5 adran yn gorwario, ond yn dilyn y dyraniad dim ond yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sydd yn gorwario yn derfynol. Er hyn amlygwyd fod y lleihad yn y gorwariant i £1.3m yn dilyn i werth £688k o arbedion nad oedd modd eu gwireddu gael eu dileu ynghyd a derbyniad grant covid.

 

Esboniwyd fod gwelliant sylweddol yn sefyllfa’r Adran Oedolion yn dilyn arbedion nad oedd modd eu cyflawni yn cael ei dileu a’u llithro ynghyd a derbyniad grantiau cyffredinol ym misoedd olaf y flwyddyn. Amlygwyd fod effaith Covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr Adran Oedolion sydd werth dros £4.5m erbyn diwedd y flwyddyn.

 

O ran yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd fod y cynnydd yn gyfuniad o gwtogi gwariant, derbyniadau grant covid ynghyd a grantiau cyffredinol a dileu arbedion. Pwysleisiwyd fod y maes gwastraff yn parhau i fod y prif bwysau ar yr adran. Ymhelaethwyd drwy nodi fod yr adran wedi wynebu costau ychwanegol sylweddol yn ymwneud â Covid19 er mwyn cydymffurfio a’r rheoliadau ynghyd a cholledion incwm yn y maes gwastraff masnachol. 

 

Mynegwyd wrth edrych ar falansau ysgolion fod cynnydd o £4.3m yn 2019/20 i £10.7m yn 2020/21 yn sgil effaith Covid19 ynghyd a derbyniad grantiau amrywiol. Esboniwyd fod adolygiad digonolrwydd ar gronfeydd penodol yn y Cyngor wrth gau’r cyfrifon a llwyddwyd i gynaeafu £170k o adnoddau. Nodwyd y penderfyniad.

 

Diolchodd y Pennaeth Cyllid i’r staff am sicrhau fod y cyfrifon wedi eu cau yn amserol a wrth weithio o adref. Pwysleisiwyd fod y sefyllfa tanwariant sydd i’w gweld ar draws yr adrannau yn cael ei gweld ar draws awdurdodau Cymru yn ogystal. Nodwyd fod y Cyngor y llynedd wedi bod yn ffodus o’r arian oedd tu ôl iddynt i ariannu cynlluniau yn ystod y pandemig heb sicrwydd am arian grant. Ond, yn dilyn derbyn yr arian grant mae modd bellach i'r’ Cabinet flaenoriaethu cynlluniau o’r gronfa trawsffurfio er mwyn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau ac i drigolion Gwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolch i staff yr adran am eu gwaith am y cadernid ariannol sydd gan Wynedd.

 

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: