Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Mae llawer o aelodau’n teimlo eu bod wedi eu camarwain yn llwyr pan gawsom ein gorfodi i dderbyn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn 2017.  Ar y pryd dywedwyd wrthym fod y cynllun yn ddogfen fyw y gellid ei diweddaru ar unrhyw adeg.  Dywedir wrthym nawr na ellir diwygio’r cynllun am dair blynedd.  O ystyried yr argyfwng tai difrifol a’r prinder tai aruthrol sy’n ein hwynebu, pa gyfarwyddyd a roddir i swyddogion cynllunio i fod yn fwy hyblyg ac yn llai draconaidd wrth ddehongli canllawiau cynllunio er mwyn caniatáu mwy o ddatblygu?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wyf yn derbyn fod aelodau wedi eu camarwain yn 2017 pan fu iddynt fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol Ar y Cyd.  Roedd yr adroddiad cynhwysfawr yn gosod allan y trefniadau monitro blynyddol sydd wedi eu cynnal ers iddo gael ei fabwysiadu.  Mae’r cysyniad o fonitro ac adolygu parhaus wedi ei adeiladu i’r drefn Cynllun Lleol, trefniant nad oedd yn rhan o drefniadau cynlluniau datblygu blaenorol.

 

Mae adroddiadau monitro blynyddol wedi eu paratoi ers mabwysiadu’r Cynllun a’u hystyried yn erbyn y fframwaith fonitro.  Cyflwynwyd yr adroddiad monitro cyntaf i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, pwyllgor y mae’r Cynghorydd Mike Stevens yn aelod ohono, yn 2019, ac ar y pryd trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer pob aelod er cyfleu canfyddiadau’r adroddiad.  Yn 2020 llaciwyd y gofyn statudol i gyflwyno adroddiadau monitro blynyddol ffurfiol gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig.  Fodd bynnag bu i’r Cyngor barhau i baratoi adroddiad monitro blynyddol drafft, sydd ar wefan y Cyngor, ac eto trefnwyd sesiynau briffio ar gyfer yr holl Aelodau.  Nid oedd y dystiolaeth o’r adroddiadau monitro blynyddol hynny yn cefnogi’r angen am adolygiad buan o’r cynllun.  Mae bellach yn bedair blynedd ers mabwysiadu’r Cynllun ac felly mae gofyn cyfreithiol i gynnal adolygiad llawn.  Bydd y dystiolaeth o bob adroddiad monitro blynyddol yn cael ei bwydo i mewn i’r broses yma.

 

Fel yr adroddwyd i’r Cyngor ym Mehefin 2021, mae camau sydd rhaid eu dilyn fel rhan o’r broses adolygu er cytuno ar newidiadau i’r Cynllun.

 

Boed yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio neu’n Swyddogion yn gwneud penderfyniadau dirprwyedig, mae’n rhaid i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, oni bai fod ystyriaethau cynllunio materol yn dangos fel arall.  Mae hyn yn ofyn cyfreithiol.

 

Mae’r syniad bod cyfarwyddyd yn cael ei roi i ymdrin â’r penderfyniadau yma mewn unrhyw ffordd arall yn gwahodd aelodau a swyddogion i weithredu mewn modd anghyfreithiol.  Rwyf hefyd yn ymwrthod â’r datganiad fod swyddogion yn anhyblyg neu’n ddraconaidd wrth roi cyngor.  Wrth wneud honiad o’r fath y tu allan i’r sianelau priodol, heb unrhyw gyfeiriad at dystiolaeth, mae’n tanseilio swyddogion mewn ffordd annheg a hefyd yn tanseilio hyder cyhoeddus yn y gyfundrefn gynllunio a rheolaeth datblygu.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Mae’r ffaith bod y Cynllun Datblygu Lleol yn methu pobl Gwynedd yn amlwg o’r argyfwng rydym yn awr yn ei wynebu.  Mae’r cynllun, a fabwysiadwyd yn 2017, wedi dyddio’n ddifrifol oherwydd y ffordd mae’r byd wedi newid.  Gan hynny, a wnewch chi drefnu cyfarfod brys o’r Cyngor, a’n bod yn rhoi’r rheolau sefydlog o’r neilltu er mwyn cael trafodaeth lawn ac agored ynglŷn â’r argyfwng presennol?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad gyda rhwystredigaeth y Cynghorydd Mike Stevens, ond ei gŵyn, mewn difri’, yw cwyn yn erbyn y drefn gynllunio sydd gennym, ac yn bersonol, rwy’n credu bod angen diwygiad radical yn y drefn gynllunio honno.  Ond nid ydi hynny ar raglen y Llywodraeth, a hyd yn oed petai ar raglen y Llywodraeth, byddai’n cymryd blynyddoedd i’w ddatblygu.  Mae’r camau rydym ni’n cymryd i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol yn orfodol arnom.  Maen nhw’n statudol.  Rydych chi wedi gweld y llythyrau rydym ni wedi derbyn yn ôl gan y Gweinidog.  Mae’n rhaid i ni ddilyn y drefn statudol, sef canllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymryd amser.  Mae’n rhaid i ni, a dyma’r pwynt pwysig.  Mae’n ddrwg gen i, ond does gennym ni ddim dewis.  Os na wnawn ni ddilyn y drefn yma, ac mae’r bygythiad yn glir yn llythyr y Gweinidog, yna fe allem fod mewn sefyllfa lle mae’r Gweinidog yn dweud bod ein cynlluniau ni, neu ein haddasiadau, yn ddi-sail, ac ni fyddwn yn gallu gweithredu.  Felly mae’n rhaid i ni wneud hynny, er gwaethaf yr hyn rydym yn feddwl o’r drefn sy’n bod.  Gyda llaw, mae’r adolygiad wedi cychwyn a bydd yna gyfarfodydd ddechrau mis Tachwedd ar gyfer yr holl aelodau i chi drafod mater y Cynllun Datblygu Lleol.  Yn ychwanegol at hynny, rwy’n credu, o safbwynt y broblem tai haf ac ail-gartrefi, nad trwy’r Cynllun Datblygu Lleol mae ateb hynny, ond trwy faterion eraill.  Mae angen adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, ond yn bwysicach na dim, ac rwy’n credu bod hwn yn rhan o’r broses ddemocrataidd, mae’n rhaid i ni gael barn pawb, yr etholwyr, unrhyw fudd-ddeiliaid.  Ni fedrwn wthio rhywbeth trwodd yn unig, neu byddwn mewn peryg’ o fethu adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.  Mae’n ddrwg gen i anghytuno â’r Cynghorydd Mike Stevens ynglŷn â hyn, ac rwy’n siŵr y cawn ni sgwrs aeddfed am y peth i’r dyfodol.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Angela Russell

 

“Hoffwn ofyn cwestiwn am fater yn ymwneud â brechu plant a phobl ifanc yn erbyn Covid-19.

 

Gai ddweud, reit ar y cychwyn fel hyn, nad ydi hyn ddim byd i wneud hefo rhywun yn coelio mewn Covid neu ddim, na chwaith os ydych chi yn coelio mewn brechu neu ddim.  Nid dyma ydw i’n godi drwy ofyn y cwestiwn yma.  A rhaid i ni gofio nad oes yr un ohonom yn y cyfarfod yma yn arbenigwyr meddygol yn y maes dyrys yma.

 

Ond rydw i am ofyn yma am ein cyfrifoldeb ni fel cynghorwyr, a rhai ohonom ni’n llywodraethwyr ysgolion hefyd.  Rydw i’n pryderu, yn fawr iawn, am y mater o frechu plant.  Wrth i blant a phobl ifanc gael cynnig y brechiad Covid mae’r arbenigwyr yn dweud wrthym y bydd hyn yn lleihau amharu ar addysg y plant yn ystod misoedd y gaeaf, ac o fudd i rai sydd yn byw yn yr ardaloedd tlotaf, neu gydag anhwylderau iechyd yn barod.

 

Mae’n fy nychryn fod plant, dan 18 oed, yn medru cymryd y brechiad heb ganiatâd rhieni.  Rhy ifanc i gael rhyw yn gyfreithlon, i briodi, i bleidleisio ... ond mae’n iawn iddyn nhw gymryd y brechiad heb ganiatâd.  Mae hyn yn fy mhoeni yn fawr iawn.

 

Mae yna nifer fawr o rieni wedi dod ataf yn bryderus iawn am y sefyllfa.  Rydw i wedi eu cynghori i ysgrifennu at yr ysgol i ddatgan eu pryderon.

 

Fel Llywodraethwr dwy ysgol, rydw i’n ymwybodol iawn o fy nghyfrifoldebau fel Aelod o Fwrdd Llywodraethol.  Mae athrawon yn gorfod cael caniatâd rhieni i roi tabled i blentyn, i roi eli haul ar y croen, ayb.

 

In loco parentis – yng nghyfrifoldeb yr ysgol.

 

·         Beth yw ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraethwyr, sydd yn Aelodau o Fyrddau Llywodraethol yr ysgolion hyn, a gyda chyfrifoldeb am yr ysgol a’i phlant?

 

·         Beth yw ein cyfrifoldeb ni os bydd rhywbeth, mawr neu fach, yn mynd o’i le os bydd plentyn yn cael ei niweidio gyda brechlyn?

 

·         Beth yw cyfrifoldeb y Bwrdd Llywodraethol amser hynny, a ninnau fel Llywodraethwyr?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

“Nid wyf am ail-ddarllen yr ymateb ysgrifenedig cyfan, ond mae’r paragraff cyntaf yn dweud yn sylfaenol mai rhaglen sydd yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus (GIG) Cymru a Llywodraeth Cymru ydi’r rhaglen frechu.  Eu penderfyniad nhw oedd cyflwyno rhaglen frechu i bobl ifanc 12-15 oed.

 

Mae yna dipyn o wybodaeth gefndirol yn yr ymateb ysgrifenedig, ond yn benodol i ymateb i’r Cynghorydd Angela Russell, mae’r paragraff olaf yn ymhelaethu ar rôl ysgolion a llywodraethwyr, sef er y gall ysgolion, ac yn y cyd-destun yma llywodraethwyr hefyd, wrth gwrs, gytuno i gynnal gwasanaethau imiwneiddio ar y safle a helpu i ddosbarthu gwybodaeth, nid ydynt yn gyfrifol am sicrhau cydsyniad rhiant neu blentyn, asesu cymhwysedd Gillick na chyfryngu rhwng rhieni a phlant sydd efallai yn anghytuno ynghylch a ddylid cydsynio ai peidio.  Rôl nyrsys yr ysgol yw hyn, sydd â'r arbenigedd a'r profiad i ymdrin â materion o’r fath.  Mae nyrsys cofrestredig yn atebol yn broffesiynol.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Angela Russell

 

“Mae meddygon teulu wedi bod yn derbyn dros £25 am y ddau frechlyn Covid a deallaf fod yna £10 ychwanegol am frechu plant.  Felly, ydi hyn yn mynd dros £35 fesul plentyn am y ddau frechiad, a phwy sy’n derbyn y pres am frechu miloedd o blant - y nyrs ysgol, yr ysgol, Cyngor Gwynedd neu Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?  Mae llawer o rieni am gadw plant adref.  Bydd absenoldebau’n uchel.  Faint o bres ychwanegol fydd yna ar gyfer addysgu yn y cartref yn y gyllideb?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

“Cyn belled ag y mae’r gyllideb yn y cwestiwn, nid wy’n ymwybodol bod yna gost ychwanegol i Gyngor Gwynedd.  Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd yn cynnal hyn ac mae gen i wybodaeth bellach am hynny.  Fel i mi nodi mewn ymateb i’r cwestiwn gwreiddiol, nid ydi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bwriadu cyflwyno’r brechiadau yma mewn ysgolion.  Mae’r Bwrdd yn nodi “ar yr adeg hon, nid ydym ni’n bwriadu brechu’r grŵp oedran hwn mewn clinigau mewn ysgolion, ond byddwn yn parhau i adolygu’r penderfyniad hyn. Y bwriad ydi defnyddio canolfannau brechu ar benwythnosau a chyda’r hwyr yn bennaf, a disgwylir i riant fynd gyda’u plentyn i roi cydsyniad”.  Felly, oni bai bod y sefyllfa yn newid, ni fydd unrhyw gyfrifoldeb ar ysgolion na llywodraethwyr am rôl brechiadau, ac fel rydw i wedi nodi’n barod, dim ond y nyrsys hyfforddedig sy’n gyfrifol am sicrhau cydsyniad rhiant neu blentyn.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Yng nghyfarfod llawn o’r Cyngor yn 2017 fe basiwyd y Cynllun Datblygu Lleol o drwch blewyn drwy bleidlais fwrw’r Cadeirydd.  Bryd hynny fe fynegodd sawl aelod a bleidleisiodd o blaid ac yn erbyn ei fod yn wallus.  Mi ddywedodd yr Arweinyddiaeth fod y Cynllun yn un byw a bod posib’ ei newid.  Bryd hynny, oni ddylai fod wedi bod yn hanfodol i aelodau’r Cyngor gael gwybod gan yr Arweinyddiaeth a’r Swyddogion bod y broses adolygu oedd am gymryd lle ymhen 4 blynedd yn mynd i gymryd 3 blynedd a hanner ychwanegol?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae hwn yn gwestiwn digon tebyg i gwestiwn y Cynghorydd Mike Stevens yn gynharach ynglŷn â’r broses creu Cynllun Datblygu Lleol.  I raddau, rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth ein bod mewn trefn gynllunio hynod glogyrnaidd a statudol, a bod yna gymaint o waith mynd trwy’r holl gamau er mwyn cael y maen i’r wal, ac mae hynny’n wir am y broses monitro ac adolygu hefyd.  Mae’n system sydd wedi cael ei gosod mewn statud.  Gobeithio fod pawb wedi cael cyfle i ddarllen yr ateb ysgrifenedig, ac ar wahân i hynny, does 'na fawr fedra’i ychwanegu at hynny, heblaw i rannu’r rhwystredigaeth ynglŷn â’r drefn gynllunio.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“O ystyried bod pob un o’r 65 dangosydd yn yr adroddiad monitro diweddar yn datgan bod dim angen gweithredu pellach, yn hytrach na’r hyn fyddai’n ddisgwyliedig ynghanol argyfwng tai, sef awgrymu newid y polisïau, yna mae’n dilyn na fydd yna unrhyw newid i bolisïau yn ystod y cyfnod adolygu.  Gan hynny, onid cynllun marwaidd ydi hwn sy’n cyfiawnhau ei hun drwy ystadegau amwys ac yn tynghedu ein cymunedau a’r Gymraeg i farwolaeth, ac felly yn wyneb y ffaith bod yr Arweinyddiaeth wedi ein tywys i gors nad oes modd i ni ddianc ohoni, a ddylent ystyried eu sefyllfa ac ymddiswyddo?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Wn i ddim beth fedra’i ychwanegu yn fwy na’r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod.  Nid ydi’r ddogfen yn ddogfen farw.  Mae hi’n ddogfen fyw, ac mae’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd.  Mae yna bethau wedi newid, wrth reswm, yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf - mae yna newidiadau o ran Wylfa newydd, mae effeithiau Brexit i’w gweld, mae effeithiau Covid i’w gweld ac mae newid hinsawdd yn ffactor.  Mae yna newidiadau mawr wedi digwydd, ac mi fydd yna adolygiad, ac mae’n debyg y bydd yn adolygiad fydd yn cymryd peth amser oherwydd y newidiadau sydd wedi digwydd.  Felly nid wy’n derbyn hynny.  Beth sy’n bwysig ydi, wrth i ni fynd i adolygu, ein bod ni i gyd yn cymryd rhan yn yr adolygiad yna, bod pawb ohonom yn mynychu’r sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer aelodau, a’n bod ni i gyd yn cymryd rhan yn y cyfnod ymgynghori, ac rwy’n meddwl bod hynny’n hollbwysig.  Felly nid wy’n derbyn bod 'na gamarwain wedi bod.  Roedd yna ddogfennaeth gynhwysfawr yn 2017, ac mae’n hollol glir yn y fan honno beth ydi’r arweiniad ynglŷn â’r drefn adolygu a’r drefn monitro.  Felly fedra’i ddim siarad dros bobl oedd, efallai, ddim wedi darllen y dogfennau yn llawn ar y pryd, ond yn sicr, rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth ynglŷn â’r drefn, ond dyna ydi’r drefn a gobeithio y byddwn i gyd yn cymryd rhan yn y broses.”