skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn diweddaru’r Cyngor yn dilyn cymeradwyo trefniadau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ar 8 Gorffennaf, 2021 ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar gynnydd y gwaith yn y cefndir gan nodi, er bod yr amserlen wreiddiol wedi llithro ychydig, bod y gwaith o uwchraddio Siambr Dafydd Orwig a Siambr Hywel Dda ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid i’r dyfodol bellach wedi’i gwblhau.  Nododd hefyd fod profion cychwynnol o’r dechnoleg yn argoeli’n dda, ond bod mân bethau angen sylw pellach.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd nifer o aelodau at fanteision ac anfanteision trefn gyfarfodydd hybrid.

 

O safbwynt y manteision, nodwyd y byddai’n:-

 

·         Lleihau costau ac amser teithio i gyfarfodydd.

·         Lleihau allyriadau carbon.

·         Hwyluso cyfranogiad pob mathau o wahanol bobl, megis pobl sy’n gweithio, pobl anabl, gofalwyr, ayb.

 

O safbwynt yr anfanteision, nodwyd:-

 

·         Bod aelodau yn gweld gwerth mewn cyd-gyfarfod wyneb yn wyneb, a’u bod yn colli’r ymgom a’r rhannu profiadau sy’n digwydd yn naturiol cyn ac ar ôl cyfarfod.

·         Bod trefn rithiol neu hybrid yn newid dynameg y cyfarfod, ac nad oes modd adnabod iaith y corff, ayb.

·         Bod ymuno â chyfarfod o bell yn gallu bod yn brofiad unig.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Cwestiynwyd yr angen i wario £130,000 ar ddatblygu’r system hybrid.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y swm yma ar gyfer uwchraddio 17 ystafell bwyllgor ar draws y sir, a bod angen sicrhau bod gennym system fodern a dibynadwy yn ei lle.  Nodwyd hefyd bod y mwyafrif o gynghorau eraill yn wynebu’r un lefel o gostau.

·         Holwyd, os yw bellach yn iawn i athrawon a phlant fynd i’r ysgolion, pam nad yw’n iawn i gynghorwyr fynd i’r Siambr i gyfarfod wyneb yn wyneb?  Mewn ymateb, eglurwyd bod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn eithaf clir y dylem weithio o adref os yn bosib’, a hyd oni fyddai’r cyfarwyddyd hwnnw’n newid, ni fyddai’n bosib’ cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

·         Nodwyd bod Senedd Cymru a Senedd San Steffan yn cyfarfod yn hybrid eisoes, a phwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen â’r trefniadau yng Ngwynedd cyn gynted â phosib’.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn gynnar iawn yn ystod y cyfnod, gyda nifer fawr o swyddogion yn gweithio yn y cefndir.  O ran cynnydd y gwaith technegol, roedd Gwynedd tua’r canol ymysg cynghorau Cymru, ond gorau po gyntaf y gellid symud ymlaen â’r gwaith treialu, ayb, fel ein bod mewn sefyllfa i weithredu’n gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, petai cyfarwyddyd y Llywodraeth yn newid.

·         Gan dderbyn mai cyfarwyddyd presennol y Llywodraeth yw i bawb barhau i weithio o adref os yn bosib’, holwyd a ydym yn wir yn anelu at gael cyfarfod hybrid neu gyfarfod wyneb yn wyneb o’r Cyngor llawn ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf?  Mewn ymateb, nodwyd ein bod wedi llwyddo i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn effeithiol ers 18 mis, a chan fod y niferoedd achosion Covid ar gynnydd yn ein hardaloedd, roedd cyfrifoldeb arnom, fel arweinwyr cymunedol, i ddangos esiampl nes bydd y sefyllfa wedi tawelu.

·         Awgrymwyd y byddai modd i’r mwyafrif o gyfarfodydd fod yn hybrid, ond y dylai’r Cyngor llawn a chyfarfodydd lle mae cyfrinachedd yn bwysig, megis pwyllgorau penodi, fod wyneb yn wyneb.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y newidiadau a ddaeth yn sgil y cyfnod clo wedi galluogi i swyddogion y Cyngor ddysgu llawer drwy gynnal nifer mwy o gyfarfodydd cenedlaethol nag erioed o’r blaen, gan hefyd ddylanwadu mwy nag erioed o’r blaen drwy gynnal cyfarfodydd rhithiol gyda’r Llywodraeth, ayb.

·         Holwyd faint o arbedion costau teithio a wnaed ers cychwyn y pandemig.  Mewn ymateb, cadarnhawyd bod ffigurau costau teithio 2020-21 wedi’u cyhoeddi ar y safle we, a chredid bod yr arbediad yn agos at £40,000.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Dogfennau ategol: