skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

Penderfyniad:

·                Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.

·                Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

·                Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw a’r gofynion cysylltiol.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ar y wybodaeth gefndirol.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod angen cywiro’r trydydd argymhelliad yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at ddirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r ‘Pwyllgor Trwyddedu Canolog’, i ddarllen ‘Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol’.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd yr adroddiad, a diolchwyd i’r Adran sydd wedi bod yn gweithio ar frys ar y mater polisi hwn.

·         Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cael hawl i reoleiddio’r maes yma, ac er mai sefydliadau lefel isel y sonnir amdanynt yma, a phrin iawn ydynt yn y sir, os o gwbl, rhaid sicrhau bod siopau rhyw yn parhau i fod yn llefydd modern, sy’n gyfeillgar i ferched ac i gyplau, ac nid i ddynion yn unig, fel yn yr oes a fu.

·         Nodwyd, er na ragwelid y byddai’r Cyngor yn derbyn cais i drwyddedu sinema oedolion yn yr oes ar-lein ddigidol sydd ohoni, bod y gallu i reoli'r math o gynnyrch allai gael ei ddangos mewn lle felly yn hollbwysig.

·         Nodwyd, er na ragwelid y byddai yna sefydliadau adloniant rhyw yn dod i Wynedd, ei bod yn allweddol bod gennym bwerau mewn grym er mwyn gallu gwarchod lles a diogelwch merched sy’n gweithio mewn llefydd fel hyn, gan eu bod ymhlith y mwyaf bregus mewn cymdeithas, ac yn aml yn ifanc iawn. 

·         Nodwyd, er bod y drafodaeth bresennol wedi’i sbarduno gan gais i agor siop ryw, roedd yn bwysig cofio bod yr un ddeddf sy’n berthnasol yma yn cynnwys mannau adloniant rhyw.  Gan hynny, roedd yn ofynnol ystyried goblygiadau pellgyrhaeddol y drafodaeth, rhag ofn i ni wynebu ceisiadau o’r math yn y dyfodol.

·         Nodwyd bod sefydliadau rhyw yn atgyfnerthu agweddau diwylliannol niweidiol o ferched, ac yn normaleiddio gwneud merched yn wrthrychau rhyw, a bod y cysylltiad rhwng gwneud merched yn wrthrychau rhyw, eu dad-ddyneiddio a thrais yn erbyn merched wedi ei gydnabod.  Roedd llawer o bryder hefyd am y modd mae merched sy’n gweithio yn y busnesau yma’n cael eu trin a’u hecsbloetio.  Cyfeiriwyd at waith ymchwil oedd yn dangos bod merched yn teimlo’n fwy diymgeledd a bregus mewn gofodau cyhoeddus pan mae yna ddelweddau rhywiol o ferched wedi’u harddangos yna, ynghyd â gwaith ymchwil arall oedd yn dangos bod yr achosion o aflonyddu’n rhywiol ac o drais yn erbyn merched yn cynyddu yng nghyffiniau’r busnesau yma.

·         Awgrymwyd petai’r Cyngor yn gwahardd y busnesau yma, y byddai hynny’n danfon neges glir i bobl Gwynedd, neges a fyddai’n gallu lleihau agweddau niweidiol bechgyn tuag at ferched, a byddai’r polisi hyn yn gyson ag ymdrechion y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gyson gyda’r neges sy’n cael ei chyfleu yn ein hysgolion, sef y dylai bechgyn barchu merched.

·         Nodwyd bod mwyafrif y merched sy’n gweithio yn y busnesau yma yn gwneud hynny oherwydd tlodi, diffyg gofal ac anghenion gofal plant, a bod busnesau rhyw yn gwneud elw o ddifreintedd o fewn ein cymdeithas.

·         Nodwyd ei bod yn bwysig hefyd bod addysg rhyw a pherthnasau yn ein hysgolion yn trafod y pynciau dwys yma a’n bod yn cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac yn gweithio ar gynlluniau sy’n dod â llwybrau amgen ar gyfer merched bregus, er mwyn atal merched rhag gorfod mynd i weithio i’r busnesau yma yn y lle cyntaf.

·         Pwysleisiwyd bod rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu fel Cyngor i atal pob math o ragfarn a thrais yn erbyn merched, a dylem ddilyn esiampl rhai cynghorau eraill drwy weithio tuag at Achrediad y Rhuban Gwyn, sef datganiad bod y Cyngor yn ymroi i weithio tuag at daclo trais yn erbyn merched.

·         Holwyd beth fyddai’r drefn o ran trafod ymhellach a chynnig camau pellach i reoli niferoedd posib’ busnesau rhyw, neu ddatgan gwrthwynebiad llwyr i fusnesau o’r math yma, yn dilyn y rheoleiddio?  Mewn ymateb, eglurwyd mai argymhelliad i’r Cyngor fabwysiadu trefn sy’n caniatáu trwyddedu neu beidio oedd gerbron, ac o gael y disgresiwn statudol yna, ni ellid rhoi safbwynt sy’n dweud na fyddai’r Cyngor yn caniatáu unrhyw un.  Mater i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol fyddai ymdrin ag unrhyw geisiadau.

·         Nodwyd na fyddai cau’r sefydliadau hyn yn sicrhau diogelwch unrhyw ferch na pherson, ac y dylid eu rheoleiddio, yn hytrach na’u sgubo dan y carped.

 

PENDERFYNWYD

·           Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.

·           Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

·           Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol.

 

 

Dogfennau ategol: