I ystyried a
chymeradwyo’r Cynllun
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Cymeradwyo’r Cynllun
Cofnod:
Cyflwynwyd cynllun o waith Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2021/22 gan y Rheolwr Archwilio.
Yn unol ag arfer gorau a Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mae'r cynllun Archwilio Mewnol yn destun
adolygiad parhaus i sicrhau ei
fod yn parhau’n
gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y busnes ynghyd
ag ystyried effeithiau sylweddol a chyflym pandemig COVID-19 ar y Cyngor. Er mwyn sicrhau bod rheolaethau allweddol y Cyngor a’r materion cywir yn
cael eu hadolygu, rhoddwyd ystyriaeth i’r Gofrestr Risg Corfforaethol, Cynllun
Cyngor Gwynedd ynghyd ag unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol sydd ar waith. O ganlyniad, paratowyd cynllun cychwynnol
gyda hyblygrwydd fyddai’n rhoi sylw i unrhyw faterion a ddaw i’r amlwg a
newidiadau i risgiau a blaenoriaethau’r
Cyngor a hefyd sicrhau iechyd a diogelwch swyddogion Archwilio Mewnol a
chleientiaid. Trafodwyd y cynllun cychwynnol gyda phob Pennaeth Gwasanaeth lle
bu cyfle i fireinio’r cynllun ymhellach, cyn paratoi’r Cynllun terfynol i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
Nodwyd bod Cynllun Archwilio 2021/2022 yn rhoi ystyriaeth briodol i’r
canlynol:
·
bod
yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gall twyll neu lygredigaeth ddigwydd - manteisio ar y Fenter Twyll Cenedlaethol a
chynnal gwaith Atal Twyll Rhagweithiol
·
parhau
i roi sylw i grantiau penodol, yn enwedig lle mae amodau’r grant yn disgwyl
adolygiad gan Archwilio Mewnol.
·
I
sicrhau hyblygrwydd, bydd Archwilio Mewnol yn defnyddio methodoleg AGILE ble bo
hynny’n bosibl. Prif amcanion cymhwyso egwyddorion AGILE yw:
o
Gwella
ansawdd archwilio
o
Cylchoedd
archwilio byr
o
Cynnydd
mewn rhyngweithio â chleientiaid
o
Darparu
mewnwelediadau
(Nodwyd bod Agile yn darparu modd hyblyg a dynamig i Gynllunio
Archwilio Mewnol o ganlyniad i fonitro risg yn barhaus).
Rhagwelwyd
y byddai oddeutu 715 diwrnod o adnoddau archwilio ar gael i gwblhau cynllun
archwilio 2021/22. Dadansoddwyd yr adnoddau staffio sydd ar gael, gan ystyried
cyllidebau rhesymol ar gyfer gweithgareddau “di-gynnyrch” megis gwyliau,
salwch, hyfforddiant, rheolaeth a chyfarfodydd.
Manylwyd ar fwriad a rheswm
rhai o’r archwiliadau fel bod yr aelodau yn cael rhagflas o gynnwys y cynllun
archwilio
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chynnwys diogelwch seiber ( a adnabuwyd fel
maes blaenoriaeth mewn gweithdy diweddar)
ar y rhaglen waith, nodwyd bod archwiliad i ddiogelwch
systemau TG wedi ei adnabod. Er
hynny, amlygwyd bod cwmni allanol yn
paratoi adroddiadau trylwyr proffesiynol ar ddiogelwch seiber
a bod yr adroddiadau hynny yn cael
eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Archwilio. Ategwyd bod rhain yn drefniadau
cadarn ac i raddau ni
fuasai’r Gwasanaeth Archwilio yn gallu
ategu at yr hyn mae'r cwmni
allanol yn ei wneud. Adroddwyd
bod eitem ‘Gwydnwch Systemau TG - Diogelwch Seiber’ wedi ei
gynnwys fel eitem i’w graffu
yng nghyfarfod 15 Gorffennaf o’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â mesurau diogelu rhyddid a’r bwriad o archwilio
trefniadau newydd sydd yn disodli
DoLS ac os byddai’r trefniadau newydd hyn yn
well i’r Cyngor ynteu i’r unigolion, nodwyd bod hwn yn archwiliad ar
gais Pennaeth Oedolion , Iechyd a Llesiant sydd wedi
argymell bod y Gwasaneth Archwilio yn edrych
ar y drefn newydd i sicrhau
trefniadau cadarn o ganlyniad i broblemau
yn y gorffennol.
Mewn ymateb i sylw
fod effaith covid 19 yn bellgyrhaeddol
ac os oes gan yr Adran
Addysg y capasiti i fynd ar
afael ar effeithiau, nodwyd nad oedd ystyriaeth
wedi ei roi
i’r mater ond nodwyd bwriad i
drafod ymhellach gyda’r Pennaeth Addysg. Pwysleisiwyd bod cyfraniad seicolegwyr ysgolion yn hanfodol
i asesu’r effaith.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chostau i staff o weithio o adre nodwyd bod modd i staff hawlio
lwfans gan yr HMRC (cyfrifoldeb yr unigolyn fyddai
gwneud hyn - y wybodaeth wedi ei gylchredeg). Nodwyd hefyd bod modd gwneud cais
am daliad uwch ond byddai angen
cyflwyno biliau fel tystiolaeth.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad
Cymeradwyo’r
Cynllun
Dogfennau ategol: