Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r
pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd
mwy o fanylder ar gael.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, ynghyd â
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd y craffwyr i gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth arfaethedig
ar gyfer cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu
hwnt.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
nodi mai bwriad y weledigaeth newydd oedd adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd
gan y canolfannau iaith dros y degawdau diwethaf, cydnabod gwaith caled y
staff, a chyfoesi a moderneiddio’r ddarpariaeth.
Nododd y Pennaeth Addysg:-
·
Y
credai fod hon yn weledigaeth gyffrous, oedd yn gosod seiliau i wasanaeth sydd
wedi’i glodfori i fod yn gwneud rhagor o waith da, gan gyfoesi’r gwasanaeth i
fod yn rhan o gyfundrefn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgolion.
·
Bod
yr Adran a staff y canolfannau iaith yn awyddus i beidio colli gafael ar y
gwersi a ddysgwyd yn sgil ail-bwrpasu’r gwasanaeth a chyrraedd mwy o blant mewn
ffordd wahanol yn ystod cyfnod y pandemig, ac y dymunid adeiladu ymhellach ar y
cryfderau a’r dulliau gweithredu hynny.
·
Bod
yr aelodau eisoes wedi derbyn copi o lythyr Estyn at y Prif Weithredwr oedd yn
amlygu gwaith yr Awdurdod yn cefnogi ysgolion a phlant yn ystod cyfnod y
pandemig, ac yn rhoi canmoliaeth arbennig i waith y canolfannau iaith wrth
iddynt fynd ati i ail-bwrpasu’r gwasanaeth.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Rhoddwyd
cydnabyddiaeth i lwyddiant y canolfannau iaith dros y blynyddoedd i sicrhau bod
dysgwyr yn caffael y Gymraeg.
·
Cytunwyd
gyda’r bwriad i gryfhau’r atebolrwydd fel rhan o’r weledigaeth newydd.
·
Cefnogwyd
y bwriad i arfogi gweithlu’r ysgolion i gefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd
pellach i feithrin hyder a chaffael y Gymraeg.
·
Cefnogwyd
y bwriad i sefydlu darpariaeth addysg drochi ym Mangor.
·
Gofynnwyd
i’r Adran Addysg gyflwyno rhagor o fanylder am y gyfundrefn addysg drochi pan
fydd ar gael.
·
Cafwyd amrywiaeth barn ar ffynhonnell gyllido’r
gyfundrefn addysg drochi, gyda rhai aelodau yn gefnogol i’r bwriad y byddai
ysgolion yn cyfrannu gan gynyddu atebolrwydd a chydberchnogaeth o’r gyfundrefn
rhwng yr Adran Addysg a’r ysgolion, ond mynegwyd hefyd ddymuniad i’r Cyngor yn
gorfforaethol fod yn ariannu’r bwlch cyllidol yn sgil y ffaith fod y Gymraeg yn
un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
O
safbwynt mewnbwn a chyfraniad yr ysgolion i’r weledigaeth a’r gwasanaeth ar ei
newydd wedd, y bwriedid ymgysylltu’n anffurfiol â phenaethiaid yr ysgolion ar y
weledigaeth newydd. Hefyd, petai’r
gyfundrefn newydd yn dod i rym, roedd yn debygol y byddai bwrdd rheoli yn cael
ei sefydlu ar gyfer y gyfundrefn newydd, fyddai’n cynnwys cynrychiolaeth o
blith y gyfundrefn ysgolion. Golygai
hynny y gallai’r ysgolion gyfrannu a chyd-berchnogi a siapio’r ddarpariaeth, er
mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn ymateb i anghenion yr ysgolion, ac yn cyfoesi
ar yr un pryd â datblygiadau addysgol sy’n digwydd ar lawr dosbarth.
·
O
safbwynt addysg gydol oes, a’r cyfleoedd allai godi o ran cynnig gwasanaethau
i’r gymuned, bod bwriad i edrych ar gyfleoedd y tu hwnt i addysg drochi yn
unig, megis gofal plant a chyfleoedd i rieni ac oedolion ddysgu Cymraeg, wrth i
fwy o fanylder ynglŷn â’r safleoedd newydd ddod i fodolaeth.
·
O
safbwynt mesurau llwyddiant, bod y targed i bob plentyn 5 oed dderbyn addysg
cyfrwng Cymraeg wedi’i osod ar bob awdurdod fel mesurydd, a dyna’r cyfrwng yn y
cyfnod sylfaen yn yr ysgolion yng Ngwynedd.
Cytunid y gallai plant gael eu colli wrth fynd o un cyfnod allweddol i’r
llall, ond byddai’r ffocws ar ddilyniant yn cael sylw penodol o fewn y Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg newydd, yn ogystal â’r defnydd anffurfiol o’r
Gymraeg a chyfleoedd y tu hwnt i’r gyfundrefn addysg i blant a phobl ifanc
ddefnyddio’r Gymraeg. Roedd yna hefyd
fesurau penodol ar gyfer mesur cynnydd y dysgwyr dros eu cyfnod o 8-10 wythnos
ar safle’r gyfundrefn drochi, ac roedd angen sicrhau bod y cynnydd yma’n parhau
wedi i’r disgyblion drosglwyddo’n ôl i’r gyfundrefn ysgolion.
·
O
ran atebolrwydd, byddai’r ysgolion yn ganolog i’r gyfundrefn newydd hon. Roedd yr adborth gan y penaethiaid yn ystod y
cyfnod clo yn clodfori’r cyswllt agosach fu rhwng y canolfannau a’r ysgolion,
ac wrth i’r sector ysgolion gyfrannu tuag at gyllido’r weledigaeth drochi
newydd, byddai’r atebolrwydd, ynghyd â llais yr ysgolion yn rhediad a
chyfeiriad strategol y gwasanaeth yn cynyddu.
Golygai hefyd fod y gwasanaeth yn gallu bod yn fwy ymatebol wrth i
sefyllfaoedd lleol o ran proffil iaith ein cymunedau newid. Dymunid sefydlu cyfundrefn lle byddai’r plant
yn cael y manteision gorau o’r system drochi ac arbenigedd y staff, ond bod
hynny’n digwydd fwy ar y cyd hefo’r ysgolion, a bod y plant yn cael y cyfle yn
ystod y cyfnod yma i ddychwelyd i’r ysgol o bryd i’w gilydd, ac i gymhathu a
defnyddio’u sgiliau iaith newydd gyda’u cyfoedion. Credid y byddai’r penaethiaid yn gafael yn y
cyfrifoldebau hyn a’r atebolrwydd yma, ac wrth symud ymlaen, y gellid sefydlu
cyfundrefn o lywodraethiant gyda phennaeth y gwasanaeth trochi newydd, yr Adran
Addysg a’r ysgolion yn bartneriaid allweddol yn hynny.
·
Ei
bod yn gynamserol i ddod i gasgliad ynglŷn â phwy fydd yn cyfrannu at
gyllido’r ddarpariaeth. Gellid dadlau y
byddai system lle byddai’r holl gyfundrefn yn cyfrannu yn gytbwys ar draws y
gwasanaeth, ond gellid hefyd gweld mantais o gael cyswllt ariannol agosach
gyda’r ysgolion hynny sydd â phlant yn mynychu’r gyfundrefn drochi, gan fod
hynny’n sicrhau mwy o atebolrwydd a mwy o gyfrifoldeb gwirioneddol gan yr
ysgolion hynny tuag at lwyddiant y system drochi. Fodd bynnag, y cam cyntaf ar hyn o bryd oedd
sefydlu’r weledigaeth, cael cydsyniad gwleidyddol a chorfforaethol ar hynny, a
chael cydsyniad y Cabinet maes o law. Yn
dilyn hynny, gellid symud ymlaen i weithio drwy’r manylder, a phwysleisiwyd y
byddai’r Adran yn hapus iawn i gynnwys yr aelodau etholedig yn y drafodaeth ar
hyd y daith.
·
Nad gweddnewid y gyfundrefn yn llwyr oedd y nod, eithr
adeiladu ar y cryfderau presennol, gan anelu tuag at ragoriaeth a chyrraedd mwy
o blant.
·
Er
y deellid y ddadl y gallai dysgwyr sy’n mynychu eu hysgol leol am un diwrnod
bob wythnos newid iaith yr ysgol honno, bod gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal
tuag at y plant yma, a rhan annatod a phwysig o’r gwasanaeth newydd fyddai
sicrhau bod y plant hynny’n gallu dychwelyd i’r fam ysgol ar y pumed diwrnod,
ac yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yno.
·
Na ellid ymhelaethu ar y materion staffio ar hyn o
bryd oherwydd yr angen i ymgynghori yn y lle cyntaf ar y weledigaeth, a derbyn
sêl bendith gwleidyddol ar hynny. Nid
oedd gan y Cabinet rôl uniongyrchol mewn materion o gyflogaeth, a byddai’n
rhaid i’r Adran ystyried ac ymgynghori ar y materion staffio maes
o law. Gan ei bod yn debygol y byddai’r
staff fyddai’n gweithredu’r weledigaeth newydd yn perthyn i un
endid, yn hytrach na chanolfannau unigol, byddai angen mwy o hyblygrwydd yn y
system staffio fel bod modd dargyfeirio staff, o bosib’, er mwyn targedu union
anghenion y plant.
·
Y
derbynnid y sylw bod angen athrawon sy’n arbenigwyr ar gaffael iaith ymhob un
o’r canolfannau, ac y byddai’r Adran yn sicrhau staffio priodol.
·
Bod y pwysau ar y gwasanaeth trochi wedi cynyddu yn
ystod cyfnod y pandemig wrth i fwy o bobl o’r tu allan
symud i Wynedd, a bod rhaid darparu system drochi sy’n ein galluogi i gyrraedd
y plant ychwanegol yma sydd wedi symud i mewn i’r sir, ac a fydd yn symud i
mewn yn y dyfodol. Deellid y pryder
ynglŷn â diffyg parhad y ganolfan iaith ym Mhenrhyndeudraeth, ond yr hyn
oedd yn allweddol oedd bod yna ddarpariaeth ar gael o
hyd i blant yr ardal honno, ac ardaloedd newydd yn derbyn buddsoddiad o’r
newydd, sef Tywyn a Bangor, sef lleoliadau strategol lle’r oedd yr Adran yn
rhagweld y byddai rhai o’r anghenion mwyaf i’r dyfodol.
·
O ran y rhesymeg dros ffurfio canolfannau blynyddoedd
5-9, gan adael y rhai cynradd yn flynyddoedd 2-4 yn unig, y ceisid targedu’r
gwasanaeth a’r arbenigedd staff a’r dull o ddysgu tuag at adrannau
penodol. Roedd anghenion y plant
ieuengaf yn dra gwahanol i anghenion y plant hŷn, a’r dulliau o ddysgu a
mewnoli gwybodaeth, cymhathu sgiliau ayb, yn dra gwahanol wrth i ddatblygiad
niwrolegol plentyn symud yn ei flaen. Y
bwriad yma oedd ceisio atgyfnerthu’r cysyniad o’r datblygiad sy’n digwydd o
ganol yr oedran cynradd tuag at ganol yr oedran uwchradd. Roedd yr Adran yn grediniol bod targedu’r
oedran canol yma yn ffordd effeithiol o bontio i’r addysg mwy ffurfiol y tu
hwnt i flwyddyn 9, ac hefyd yn fodd o gynyddu'r nifer o blant a phobl ifanc yng
Ngwynedd sy’n parhau i astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at TGAU, Lefel
A a thu hwnt.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod
Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn
derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd mwy o fanylder ar gael.
Dogfennau ategol: