Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21, a’i fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 20120/21 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21.

 

Diolchodd i bob aelod o staff oedd wedi cyfrannu at y gwaith, ac yn arbennig i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor a’r Swyddog Cefnogi Busnes am gasglu’r holl wybodaeth, ac am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor ddealladwy a diddorol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, sy’n nodi y bydd Cais Twf Gogledd Cymru yn arwain at £1.1bn o fuddsoddiad yn rhanbarth y Gogledd dros y deg mlynedd nesaf, gan greu hyd at 4,000 o swyddi ledled y Gogledd, holwyd faint o’r buddsoddiad hwn fyddai’n debygol o ddod i Wynedd.  Mewn ymateb, nodwyd na chredid bod yna dargedau penodol ar gyfer Gwynedd, ond y bwriedid cadw golwg ar y sefyllfa, gan adrodd yn ôl i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar yr hyn sy’n digwydd.  Eglurwyd bod nifer o brosiectau yn mynd ar draws y rhanbarth, megis y prosiectau digidol sy’n ymestyn a gwella cysylltedd digidol ar draws yr holl ranbarth.  Roedd niferoedd swyddi wedi’u pennu ar gyfer prosiectau penodol ym Mhrifysgol Bangor a Glynllifon, a gellid darparu mwy o fanylion i’r aelodau am rheini i’r dyfodol.

·         Yn wyneb y ffaith bod Wylfa B yn annhebygol iawn o ddigwydd bellach, gofynnwyd o ble fyddai’r miloedd o swyddi newydd a addawyd yn dod, a phwy fyddai’n dod i’r 8,000 o dai ychwanegol fyddai’n weddill yng Ngwynedd a Môn.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd Wylfa B yn rhan o brosiectau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, nac wedi’i gynnwys yn eu ffigurau swyddi.  Byddai’r newidiadau o ganlyniad i beth bynnag fyddai’n digwydd i safle Wylfa B yn dod i mewn i’r adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol, ynghyd ag unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i ail-edrych arnynt, megis niferoedd tai a niferoedd swyddi.

·         Gan gyfeirio at dudalen 49 o’r rhaglen, sy’n cyfeirio at sicrhau arian Ewropeaidd i wireddu cynlluniau fel rhan o’r prosiect Creu Swyddi Gwerth Uchel, holwyd beth fyddai effaith Brexit ar y buddsoddiadau presennol, a buddsoddiadau i’r dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd bod nifer o brosiectau yn eu lle yn barod sy’n manteisio ar gronfeydd Ewrop, a chredid y byddai'r rheini’n parhau tan 2023.  Fodd bynnag, byddai’r arian i’r dyfodol yn llawer llai na’r £350m yr wythnos a addawyd gan Lywodraeth Prydain, ac er bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fod i wneud iawn am hynny, roedd yn rhaid i’r holl gynghorau sir ar draws Prydain gystadlu am y symiau pitw oedd ar gael. 

·         Gan gyfeirio at dudalennau 122-123 o’r rhaglen, mynegwyd anfodlonrwydd bod ceisiadau cynllunio wedi cymryd 89 diwrnod ar gyfartaledd i gyrraedd penderfyniad yn ystod 2020/21, a bod un cais wedi cymryd blwyddyn gyfan.  Ychwanegwyd, yn sgil codi’r mater gyda’r Adran, y daeth i’r amlwg bod y swyddog oedd yn delio â’r cais yn sâl, a holwyd i ba raddau roedd rheolwyr yn goruchwylio swyddogion sy’n gweithio o adref o safbwynt eu lles a’u hiechyd meddwl.  Mewn ymateb, eglurwyd na ellid rhoi sylw ar achos unigol, ond gofynnwyd i’r aelodau gyfeirio unrhyw bryderon o’r fath i sylw’r Prif Weithredwr.  Ychwanegwyd ei bod yn bwysig cydnabod bod y staff wedi bod trwy gyfnod o newid anferthol yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac wedi gallu ymdopi’n wych gyda hynny i raddau helaeth iawn.  Ni chredid bod y staff angen goruchwyliaeth yn y mwyafrif o achosion, gan eu bod yn bobl ymdrechgar a chydwybodol sy’n gwneud eu gorau bob amser.  Fodd bynnag, roeddent angen cefnogaeth, yn arbennig wrth weithio’n bell o adref, ac ar wahân i’w timau o ddydd i ddydd, ac roedd trefniadau a chefnogaeth mewn lle i sicrhau bod hynny’n digwydd ym mhob rhan o’r Cyngor.

·         Croesawyd y cyfeiriad at sefydlu Cynllun Awtistiaeth yng Ngwynedd yn adroddiad yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, ond nodwyd nad oedd son am y cynllun yn adroddiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y cynllun yn ymddangos yn adroddiad yr Adran Plant a Theuluoedd gan mai’r Adran honno sy’n arwain ar y gwaith ac yn herio perfformiad y Grŵp Prosiect traws-adrannol (sy’n cynnwys swyddogion o’r Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ynghyd â phartneriaid megis Cyngor Ynys Môn a’r Bwrdd Iechyd).  Eglurwyd bod y cynllun yn gorwedd o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd oherwydd yr angen i’r gefnogaeth gychwyn o blentyndod yr unigolyn, ond roedd yn gynllun gydol oes wrth i’r unigolyn drosglwyddo o’r Gwasanaeth Plant i’r Gwasanaeth Oedolion.  Nodwyd ymhellach, petai aelodau yn dymuno gwybod mwy am y gweithgaredd a’r prosiect, a chael cyfle i rannu barn a phrofiadau personol mewn ambell achos, y gellid trefnu iddynt gyfarfod y ddau Aelod Cabinet a’r swyddogion perthnasol.

·         Holwyd a oedd Gwynedd yn barod am y don o broblemau iechyd meddwl fydd yn dod yn sgil Cofid.  Mewn ymateb, nodwyd bod trafodaethau ar y gweill rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn ceisio rhagweld beth fydd maint y galw i’r dyfodol.  Ychwanegwyd y byddai’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn fodlon iawn trefnu cyfarfod rhwng yr aelodau a’r swyddogion perthnasol i gael gwell dealltwriaeth.  Nodwyd ymhellach bod y cynnydd mewn achosion yn amlygu ei hun drwy wasanaethau’r Cyngor gyda chwsmeriaid yn troi at y Cyngor o bob cyfeiriad.  Er enghraifft, yn y maes tai, gwelwyd cynnydd difrifol dros y deunaw mis diwethaf yn y niferoedd o bobl sy’n colli tenantiaethau oherwydd problemau iechyd meddwl, ond llwyddodd y Cyngor i gyllido aelod newydd o staff yn y Tîm Iechyd Meddwl yn y Gwasanaeth Iechyd fyddai ar gael yn benodol i helpu tenantiaid tai cymdeithasol i warchod eu tenantiaethau. 

·         Gan gyfeirio at dudalen 61 o’r rhaglen, llongyfarchwyd yr Adran Addysg ar gwblhau’r gwaith o sefydlu adeilad newydd ar gyfer Ysgol y Garnedd ym Mangor.

·         Gan gyfeirio at dudalen 103 o’r rhaglen, holwyd sut y gellid bod yn sicr mai llwyddiant strategaeth y Cyngor, yn hytrach na phlant yn cael eu colli o dan y radar oherwydd Covid, oedd yn gyfrifol am y peth gostyngiad yn nifer y plant mewn gofal yn 2020/21.  Mewn ymateb, nodwyd y bu’r Cyngor dan bwysau gan Lywodraeth Cymru i osod targedau ar y niferoedd plant mewn gofal, ond y gwrthodwyd gwneud hynny gan na chredid bod targed yn addas, a bod y Cyngor yn darparu yn ôl yr angen, yn hytrach nag er mwyn cyrraedd unrhyw dargedau.  Canmolwyd y cydweithio rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Plant a Theuluoedd, a diolchwyd yn arbennig i staff yr ysgolion am adnabod a chyfeirio plant allai fod wedi mynd o dan y radar oherwydd Covid ymlaen i’r Gwasanaeth Plant.  Nodwyd ymhellach bod trefniadau’r Adran yn gadarn iawn o ran asesu’r data yng nghyswllt y cyfeiriadau, e.e. ydi’r cyfeiriadau yn debyg i’r flwyddyn ddiwethaf, ac i flynyddoedd tebyg?  Hefyd, roedd llawer o waith triongli yn digwydd er mwyn gweld beth mae’r data yn ddweud wrthym.  Er hynny, roedd yn anodd gwybod i sicrwydd bod popeth yn dod i mewn fel y dylai oherwydd y bu’r cyfnod yn un na welwyd ei debyg o’r blaen.  Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd sawl ymgyrch i sicrhau bod pawb yn y gymdeithas, y staff ac aelodau yn cadw llygaid agored, ac yn cyfeirio unrhyw fater o bryder i’r Tîm Cyfeirio, a thrwy gydweithio gyda’r heddlu, a phartneriaid allweddol eraill, hyderid bod y Cyngor yn gwneud popeth y gallai i sicrhau bod y materion diogelu hyn yn dod i sylw’r Adran.  Hefyd, fel rhan o’r strategaeth cadw teuluoedd hefo’i gilydd, roedd cyfraddau uchel iawn o blant yn gallu aros gyda’u rheini, neu deulu estynedig, yn hytrach na mynd i ofal.

·         Gan gyfeirio at dudalen 124 o’r rhaglen, holwyd beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf o ran ail-gychwyn y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a dorrwyd yn ystod y cyfnod Covid, a chynllun Llywodraeth Cymru o ran gwella trafnidiaeth gyhoeddus.  Mewn ymateb, nodwyd y bu i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, AS ddod â chynllun trafnidiaeth uchelgeisiol iawn gerbron, oedd yn diystyru anghenion yr ardaloedd gwledig.  Yn dilyn gwneud sylw ynglŷn â hyn, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog gynllun gwledig rhyfeddol, er nad oedd yn glir sut y byddai’n cael ei gyflawni.  Nid oedd y sefyllfa o ran y gwasanaeth presennol yn eglur, ond pryderid bod y Llywodraeth a’i bryd ar ganoli’r gwasanaeth bysiau gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac nid oedd hynny’n codi llawer o obaith am wella’r gwasanaeth yng Ngwynedd.  Nodwyd ymhellach bod yr Adran Amgylchedd wedi gwneud darn o waith cyn y pandemig yn edrych ar y ddarpariaeth, megis pryd fyddai’n bosib’ defnyddio tacsi neu fws mini, yn hytrach na bws sy’n dal 50 o bobl.  Roedd y pandemig wedi taro’r Adran yn galed iawn a bu’r Llywodraeth yn sybsideiddio’r ochr yma o’r gwaith yn fawr iawn yn ystod y pandemig.  Roedd y Llywodraeth, drwy Drafnidiaeth Cymru, wedi bod yn ceisio gwthio ymlaen gyda chynlluniau newydd, ond nid oedd y darlun cyflawn o ran yr hyn oedd ganddynt dan sylw yn eglur hyd yma.  Gofynnwyd i unrhyw aelodau oedd yn cael trafferthion yn lleol ddod â thystiolaeth o hynny i sylw’r Adran.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21, a’i fabwysiadu.

 

 

Dogfennau ategol: