Agenda item

I gymeradwyo y Rhaglen Waith a gofyn am ddiweddariad i gyfarfod y Pwyllgor yn Hydref 2021

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Rhaglen Waith

Cais am ddiweddariad i gyfarfod y Pwyllgor Hydref 2021

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i raglen waith drafft mewn ymateb i Ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno newidiadau a grymoedd llywodraethiant Llywodraeth Leol yng Nghymru. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor Llawn (Mawrth 4ydd 2021) wedi penderfynu mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fyddai’n cadw trosolwg o’r gwaith sy’n ymateb i ddarpariaethau a gofynion y Ddeddf a'r rhaglen waith arfaethedig sydd yn ei lle i gyfarch y camau mewn modd amserol a phriodol.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor o’r rhaglen waith bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Llywodraethu Corfforaethol yn tynnu sylw at y risgiau posib ynghyd a chyfres o adroddiadau pellach i’r Cyngor, Y Cabinet, Y Pwyllgor Safonau a Phwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ynglŷn â darpariaethau’r Ddeddf a’r elfennau perthnasol. Ategwyd bod elfennau o’r gwaith eisoes ar y gweill a bod gweithgor o swyddogion wedi eu hadnabod i weithredu’r gwaith.

 

Yng nghyd destun y Pwyllgor Archwilio, nodwyd bod sawl newid i gyfrifoldebau’r Pwyllgor, gyda chydnabyddaieth y bydd ambell un yn bell gyrhaeddol. Rhoddwyd trosolwg cryno ar yr agweddau fydd angen eu blaenoriaethu:

-       cymryd trosolwg o swyddogaethau monitro perfformiad penodol y Cyngor - bydd canllawiau yn cael ei gosod allan gan y Ddeddfwriaeth gyda threfn ffurfiol i’r broses.

-       enw’r Pwyllgor  Deddf yn nodi’r angen i sefydlu Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

-       cadw trosolwg ar drefn gwynion y Cyngor gan sicrhau system gwynion effeithiol

-       adolygu aelodaeth y Pwyllgor Archwilio erbyn Mai 2022 - bydd yr aelodaeth yn gwedd newid y Pwyllgor yn ei gyfanrwydd ac amlygwyd yr angen i gynnal trafodaeth fanwl ynglŷn â goblygiadau llywodraethiant y Pwyllgor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â swyddogaeth y Pwyllgor dros drefniadau cwynion ac os byddai hyn yn gwneud y broses yn haws i unigolion gyflwyno cwynion, nodwyd mai sicrhau bod y drefn a pherfformiad y drefn honno yn gweithio fydd cyfrifoldeb y Pwyllgor. Mewn ymateb, mynegwyd bod y Pwyllgor Safonau eisoes yn edrych ar y broses gwynion ac y byddai cael dau bwyllgor yn rhoi trosolwg yn dyblygu’r gwaith.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro bod y ddau bwyllgor yn ddwy gyfundrefn wahanol - monitro cwynion o’r côd ymddygiad yw cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau tra byddai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gyfrifol am drosolwg o gwynion am wasanaethau a threfniadau corfforaethol y Cyngor.

 

Mewn ymateb i sylw y byddai penodi Aelodau lleyg yn anodd o ystyried agweddau megis cefndir, balans gwleidyddol, agwedd di-duedd, taliadau, dylanwad ac addasrwydd nododd y Swyddog Monitro bod canllawiau yn cael eu paratoi i roi arweiniad ar y trefniant a derbyniwyd yr awgrym bod angen cynllunio ymlaen yn ofalus ar gyfer hyn. Awgrymwyd  bydd trefn debyg i’r hyn sydd gan y Pwyllgor Safonau yn cael ei mabwysiadu, lle sefydlir Panel Cyfweld i fod yn gyfrifol am y penodiadau. O safbwynt taliadau, eglurwyd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol eisoes yn amlygu mai tal fesul diwrnod fydd i bob aelod lleyg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chaniatáu rhannu swyddi a sut bydd hyn yn gweithio, nododd y Swyddog Monitro bod angen cwblhau darn o waith i ystyried os yw hyn yn realistig. Pwysleisiodd  yr angen am drefn briodol a thryloyw.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod cydweithio gan Brif Gynghorau yn codi amheuaeth o golli pwerau

·         Bod cyflwyno Cydbwyllgorau Corfforedig (CBC) yn ymosodiad ar ddemocratiaeth

·         Bod CBC yn tanseilio'r grymoedd lleol

·         A fydd hawl peidio sefydlu / ymuno a CBC?

 

Mewn ymateb i bryderon am y CBC nodwyd bod 3 cydbwyllgor eisoes wedi ei sefydlu yn y Gogledd a bod rhaid cydymffurfio ac adeiladu fframwaith o gwmpas gofynion y Ddeddfwriaeth..

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo'r Rhaglen Waith

Cais am ddiweddariad i gyfarfod y Pwyllgor Hydref 2021

 

Dogfennau ategol: