Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siecyn

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8 Gorffennaf 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8 Gorffennaf 2021.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser ei gyflwyno. Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn un clir, darllenadwy sy’n rhoi darlun clir o waith yr holl gyngor. Eglurwyd fod un rhan a’r ddechrau’r adroddiad yn rhoi disgrifiad o’r gwaith a wnaethpwyd ar ddechrau’r cyfnod clo pan fu i waith y Cyngor gael ei gyfyngu o ganlyniad i’r rheoliadau covid. Eglurwyd fod staff y Cyngor wedi ymateb yn ystwyth a hyblyg i gyfarch y sefyllfa ac wedi gweithio i greu ffordd newydd o weithio. Diolchwyd i’r holl staff am fod mor barod i addasu ac i ymateb mor gyflym ac effeithlon i’r cyfnod clo.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu blaenoriaethau’r Cyngor gan bwysleisio'r angen i barhau i drafod y maes twristiaeth gynaliadwy. Nodwyd y bydd yr Adran Addysg yn parhau i  weithio i wella’r ddarpariaeth addysg o fewn y sir, gan nodi fod gwaith wedi ei wneud yn Ysgol Godrau’r Berwyn ac Ysgol y Garnedd a bod ysgol newydd ar ei ffordd yng Nghricieth.

 

Mynegwyd yn wyneb yr argyfwng tai fod y Cynllun Gweithredu Tai yn ei le. Nodwyd fod y cynllun hwn yn uchelgeisiol ac arloesol a bod  ymrwymiad o  £77miliwn o arian ar gyfer cyfnod y cynllun.

 

Esboniwyd fod rhai adrannau yn anweledig gan drigolion y sir ac wedi ei effeithio dros y blynyddoedd gan doriadau. Amlygwyd adran Gwarchod y Cyhoedd sydd wedi delio gyda nifer o newidiadau o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Diolchwyd i staff am ymroi i’r drefn Profi, Olrhain a Diogelu sydd wedi amlygu gallu Llywodraeth Leol i wneud y gwaith heb wastraffu arian ar gwmnïau allanol.

 

Mynegwyd mai dyma Adroddiad Blynyddol olaf y tymor yma  ac y bydd trefn newydd i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod y drefn herio perfformiad mewnol o fewn y Cyngor yn ail gychwyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar ei gwendidau ac yn gwella yn barhaus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i staff yr adran Blant a Chefnogi Teuluoedd am barodrwydd a hyblygrwydd yn ystod y cyfnod. Diolchwyd i’r holl rieni maeth sydd wedi bod mor barod i lenwi’r bwlch. Ychwanegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’u heriau wrth symud yn eu blaenau a bod y cynllun awtistiaeth am fod yn un o’r flaenoriaeth am eleni.

¾    Diolchwyd i staff yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant am ddyfalbarhau mewn blwyddyn anodd. Nodwyd fod eleni wedi amlygu cryfder y staff.

¾    Tynnwyd sylw at un cywiriad bychan i’w addasu, fod 8 blaenoriaeth gwella bellach nid 7.

¾    Cydnabuwyd y gwaith arbennig sydd wedi ei wneud yn yr ysgolion i ymateb i’r her o ddysgu o adref.

¾    Diolchwyd i staff yr adran gyllid a technoleg gwybodaeth am ei gwaith i gefnogi yr adrannau eraill.

¾    Diolchwyd i staff yr adran Economi am siarad gyda busnesau yn ystod yr holl gyfnod ac i ddyrannu grantiau cofid.

Awdur:Dewi Wyn Jones

Dogfennau ategol: