Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny

 

      i.        Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol sarn Bach o 1 Ionawr 2022

    ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams 

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny 

 

      i.Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022 

    ii.Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad yw adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod ymgynghori statudol ar yr opsiwn i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Mynegwyd nad oedd y penderfyniad i ddod a’r adroddiad i’r Cabinet wedi bod yn rhwydd ond fod yr adran yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn anodd iawn cyflwyno’r adroddiad hwn, ond fod  dyletswydd sicrhau addysg a phrofiadau ac amgylchedd gorau posib i blant. Mynegwyd fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r holl opsiynau posib i’r ysgol. Diolchwyd i’r holl unigolion, disgyblion, athrawon a llywodraethwyr ar roi eu hamser i ymateb i’r ymgynghoriad statudol.

 

Mynegwyd fod yr angen wedi codi i edrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch y dilyn gostyngiad yn nifer y disgyblion Nodwyd fod niferoedd Ysgol Abersoch wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf a bellach fod 76% o gapsiti’r ysgol yn wag gyda rhag amcanion am y blynyddoedd nesaf yn dangos fod y niferoedd am barhau yn isel.

 

Bu i’r Pennaeth Addysg nodi yn ôl yn Mai 2019 y bu i’r Cabinet gytuno i gefnogi cynnal trafodaeth ffurfiol gyda chorff llywodraethol yr Ysgol i drafod opsiynau posib yn dilyn lleihad yn y nifer y disgyblion. Bu i 3 cyfarfod ei gynnal a oedd yn gyfle i egluro’r angen i drafod opsiynau, i gyflwyno a thrafod yr opsiynau cyn dod i benderfyniad ar yr opsiwn ffarfredig.

 

Yn ôl ym Medi 2020 nodwyd y bu i’r Cabinet ymgymryd â’r proses ymgynghori statudol ar gynnig i gau Ysgol Abersoch Awst 2021, gan gynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Bu i’r penderfyniad gan ei gadarnhau yn y Cabinet ar y 5ed o Dachwedd wedi i’r penderfyniad gael ei alw mewn i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref.

 

Amlygodd y Pennaeth Addysg y prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol a oedd yn cynnwys niferoedd disgyblion wedi gostwng ers 2016. Mynegwyd fod 8 disgybl yn yr ysgol yn llawn amser ar hyn o bryd gyda 2 ddisgybl yno rhan amser. Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi y bydd 10 disgybl yn 2021, a 12 yn 2022 a 2023. Esboniwyd fod data yn amlygu fod 21 o blant yn nalgylch Abersoch yn mynychu ysgolion arall a bod 3 disgybl o du hwnt i ddalgylch Aberoch yn mynychu’r ysgol. Mynegwyd fod niferoedd isod yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr ysgol yn derbyn arian ychwanegol o ganlyniad i niferoedd isel i sicrhau staff. Mynegwyd fod Ysgol Abersoch yn derbyn £50,000 ychwanegol ar ben eu cyllidebau a olygai fod cost y disgybl oddeutu £17,000 y plentyn o’i gymharu ag oddeutu £4,000 y plentyn yn sirol.

 

Nodwyd fod y Cabinet yn Rhagfyr 2019 wedi ymrwymo i Egwyddorion Addysg i Bwrpas sydd yn sail i weledigaeth yr adran i sicrhau cyfundrefn addysg. Mynegwyd yn ogystal fod ysgolion cynradd yn dilyn Strategaeth Addysg Gynradd a bod yr egwyddorion ar strategaeth wedi bod yn wreiddiol yn yr holl broses.

 

Bu i’r Swyddog Addysg amlygu’r opsiynau a gafodd ei ystyried a oedd yn cynnwys addasu’r ystod oedran i 3-9 oed neu 3-11oed. Mynegwyd y buasai manteision i wneud hyn ond nad oedd yn gynaliadwy i’r dyfodol.  Amlygwyd fod 3 math o ffedereiddio wedi eu cynnig fel opsiynau i sicrhau presenoldeb o fewn yr ardal ond pwysleisiwyd nad oedd hyn yn cyfarch yr her o niferoedd yn lleihau. Cyflwynwyd yr opsiwn o gau a darparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn bach a oedd yn cynnig cyfleoedd cyson i’r disgyblion ac addysg o’r ansawdd uchaf ynghyd a chysondeb o ran niferoedd o fewn dosbarthiadau. Ychwanegwyd fod y pellter daearyddol yn bellter teg ac y buasai gan rieni'r gallu i ddewis ysgol i’w plant.

 

Yn dilyn hyn bu i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal rhwng y 12 Ionawr a 23 Chwefror. Bu i ddogfennau ymgynghorol gael ei anfon ar e-bost ynghyd a chopïau caled a bu i sesiynau galw mewn rhithiol gael eu cynnal. Derbyniwyd 154 ymateb. Mynegwyd fod mwyafrif o’r ymatebion yn gwrthwynebu gyda'r opsiwn i gau ac amlinellwyd y prif bwyntiau.

 

Mynegwyd fod nifer o ymatebion yn nodi anfodlonrwydd gyda chynnal yr ymgynghoriad o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19. Pwysleisiwyd o ran gofynion rheoliadau yn nodi nad oes gofyn cynnal cyfarfodydd cyhoeddi ac felly fod y drefn a ddilynwyd yn briodol. Amlygwyd fod pryderon wedi codi o ran amserlen ac nad oedd cau ar 31 Awst 2021 yn rhoi digon o amser i rieni benderfynu ar yr ysgol i anfon eu plant iddo, o ganlyniad i hyn mae’r Adran Addysg wedi gwthio’r dyddiad ymlaen i Ragfyr 2021. Tynnwyd sylw at y sylwadau nad oedd y Mudiad Meithrin a’r Cylch Meithrin wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Mynegwyd fod yr adran wedi sylwi nad oedd yr e-bost wedi eu hanfon atynt a bu i’r adran ymestyn y cyfnod ymateb i’r mudiad hyd Ebrill 21 ond ni dderbyniwyd unrhyw ymatebiad.

 

Nodwyd fod nifer o sylwadau wedi ei derbyn am yr opsiynau amgen. Tynnwyd sylw at y sylwad am oedi’r broses i roi cyfle i’r ysgol gynyddu’r nifer, mynegwyd nad oedd modd ymrwymo i oedi gan fod niferoedd wedi disgyn yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac nad oedd yn hyfyw i’r dyfodol. Wrth ymateb i’r ymatebiadau oedd yn holi pam nad oedd adolygiad dalgylch, esboniwyd nad yw adolygiad dalgylch yn rhan o’r strategaeth ac mai ymateb i heriau penodol un ysgol yw’r penderfyniad hwn.

 

Eglurwyd fod nifer o ymatebion yn nodi fod gormod i bwyslais ar niferoedd yn yr ysgol ac yn cwestiynu’r rhagamcanion. Eglurwyd nad oedd y rhagamcanion yn rhai gwyddonol ond fod yr adran yn credu y buasai'r niferoedd yn parhau yn isel dros y 5 mlynedd nesaf. Nodwyd yn ogystal y buasai safon yr addysgu yn disgyn drwy symud i ysgol arall, ond pwysleisiodd yr adran fod ymateb Estyn yn amlygu fod safon y ddwy ysgol yn debyg iawn ac felly na fuasai gwahaniaeth arwyddocaol i addysg y plant.

 

Tynnwyd sylw at ôl ddefnydd o adeilad yr ysgol yn dilyn cau, mynegwyd fod gan y cyngor Bolisi Ôl Ddefnyddio Ysgolion ac y bydd trafodaethau cyfreithiol yn cael ei chynnal i sicrhau na fydd ymrwymiadau addysg i’r adeilad.

 

Amlygwyd pryderon nad yw’r llwybr teithio i Ysgol Sarn Bach yn addas i blant gerdded i’r ysgol, ond nodwyd fod bws ysgol yn weithredol ar hyn o bryd ac y bydd lle i’r disgyblion ychwanegol ar y bws hwn. Eglurwyd fod ymatebion yn amlygu fod bywyd y pentref yn cael ei ddylanwadu gan yr ysgol. Nodwyd y bydd disgwyliad i Ysgol Sarn Bach drin Abersoch fel rhan o’i hardal gan sicrhau fod y gwaith agos gyda’r pentref’ yn parhau. Ychwanegwyd fod nifer o ddisgyblion Abersoch yn mynychu Ysgol Sarn Bach fod cyswllt gyda’r pentref i’w gweld yn barod.

 

Mynegwyd fod pryderon amlwg wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad ar Iechyd a Lles y disgyblion a phwysleisiwyd ei bod wedi bod yn gyfnod anodd ac y bydd y cyfnod y trosglwyddo yn anodd yn ogystal. Ond pwysleisiwyd   bydd yr adran yn gweithio gyda’r ddwy ysgol i weithio gyda hwy ar y cyfnod pontio.

 

Derbyniwyd nifer o ymatebion yn amlygu effaith negyddol ar yr iaith a diwylliant gan fod yr ysgol yr adnodd pwysicaf o fewn y pentref’ ar gyfer yr iaith. Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud yn yr ysgol ond fod disgwyl i bob ysgol fod yn gweithio i hybu defnydd o’r iaith yn yr ysgol ac yn gymdeithasol ac o ganlyniad bydd disgwyliad i Ysgol Sarn Bach barhau gyda’r gwaith da sydd yn cael ei wneud.

 

Nodwyd fod ymatebion wedi holi be fydd yn digwydd i’r Cylch Meithrin a Ti a Fi os yr ysgol yn cau. Mynegwyd ei fod o ddwylo’r adran ond y gall gael ei ystyried ar gyfer ôl ddefnydd yr adeilad. Pwysleisiwyd ar y cyfan fod plant Ysgol Abersoch yn anhapus ac yn codi pryderon am y profiadau y gallent eu colli fel ymweliadau i’r traeth a’r Pendref a bod disgyblion Ysgol Sarn Bach yn cydymdeimlo ond yn awyddus i groesawu’r disgyblion i’w hysgol.

 

Tynnodd y Swyddog Addysg at yr opsiynau amgen gan nodi eu bod wedi edrych ar Ysgol Aml Safle a dau fath o ffederasiwn ysgolion. Esboniwyd fod yr opsiynau wedi bod yn fodel all weithio os y pellter daearyddol yn sylweddol. Ond, mynegwyd gan nad oedd y pellter yn un helaeth eglurwyd nad oeddent yn ddatrysiad i’r dyfodol ac na  fuasai yn ateb i’r heriau sydd yn wynebu Ysgol Abersoch.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn siomedig iawn nad oedd modd i’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd ymuno a’r cyfarfod. Mynegwyd fod yr adroddiad yn helaeth a gofynnwyd pa mor annibynnol yw’r adolygiad gan ei fod yn cael ei arwain gan yr adran addysg. Pwysleisiwyd fod yr ymateb yn gryf yn erbyn y penderfyniad, a bod y gymuned yn unfrydol yn erbyn cau’r ysgol. Eglurodd y buasai ychwanegu un flwyddyn ysgol i gynnwys blwyddyn 3 yn gwneud llawer o wahaniaeth i Ysgol Abersoch a gofynnwyd pam nad oedd yr adran wedi cymryd unrhyw gamau yn gynt i ddatrys y broblem o gapasiti.

 

Ychwanegodd nad oedd unrhyw sylw wedi ei wneud i’r ymgyrch i gael tai i bobl leol o fewn y pentref, ac y buasai cau'r ysgol cyn y cynlluniau hyn yn gynamserol. Eglurwyd fod y Cylch Meithrin a Ti a Fi wedi llwyddo i dynnu plant i mewn ac nad oedd digon o amser wedi mynd heibio i weld pe bai yn gwneud gwahaniaeth i’r niferoedd. Eglurwyd fod disgyblion yr ysgol gyda pherthynas agos gyda’r pentref ac o’i gau buasai yn cau'r berthynas yma gyda’i chynefin. Ychwanegwyd fod nifer o deuluoedd wedi nodi eu bod yn awyddus i droi ei ail gartref i fod yn gartref llawn amser yn dilyn y cyfnod cofid ac felly buasai posibilrwydd y byd niferoedd yn codi. Gofynnodd i’r Cabinet i ohirio'r penderfyniad am flwyddyn i weld os bydd newid i’r niferoedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i athrawon, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned am fod yn barod i ymateb i’r ymgynghoriad.

¾    Tynnwyd sylw at y broses sydd wedi ei dilyn ers 2019 a'i bod wedi bod yn dryloyw ac yn dilyn prosesau cywir. Eglurwyd y bydd effaith ar gymuned ond fod y plant yn barod yn symud i Ysgol Sarn Bach pan yn 8 oed ac felly fod cysylltiad yno yn barod. Mynegwyd mai safon addysg i blant Gwynedd yw’r flaenoriaeth.

¾    Mynegwyd fod y ffigwr o £17,000 y plentyn yn drawiadol i gymharu £4,000 dros y sir i gyd. Amlygwyd fod yr Asesiad Ardrawiad Ieithyddol wedi ei herio yn yr ymatebion a gofynnwyd am ymateb yr adran i hynny. Yn ogystal holwyd beth fydd yr adran yn ei wneud i sicrhau’r cyswllt gydag Ysgol Sarn Bach a’r pentref. Nododd y Swyddog Addysg fod sail y pryderon yn deillio o’r ffaith nad yw’r adran yn cymharu tebyg wrth debyg, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn credu fod yr adroddiad yn gywir. O ran ymarferoldeb y gwaith i ddod ar ddwy gymuned at ei gilydd bydd angen edrych ar y cynllun yn y siarter iaith a gafael yn y strategaethau sydd wedi gweithio yn Abersoch a’i pharhau yn Ysgol Sarn Bach.

¾    Nodwyd fod ymatebion wedi amlygu teimladau cryf am yr ysgol a bod angen eu hystyried. Tynnwyd sylw at yr effaith ar y gymuned a’r iaith ond mynegwyd mai ansawdd addysg a llesiant plant sydd yn flaenoriaeth. Gofynnwyd am gadarnhad os bydd yr ysgol yn cau y bydd llesiant plant yn cael sylw mewn Ysgol newydd. Yn ogystal o ran ddyfodol y safle, eglurwyd fod yr adnodd yn bwysig i’r gymuned a bod y gymuned a llais cryf dros ddyfodol y safle. O ran y symud, nododd y Swyddog Addysg fod angen cynllunio gofalus i sicrhau fod profiadau yn digwydd yn y ddwy ysgol cyn i’r ysgol gau i ddisgyblion ddod i adnabod eu hunain. Ychwanegwyd y buasai gwasanaethau arbenigol ar gael yn ogystal i sicrhau llesiant y plant.

¾    Nodwyd rôl ysgol o fewn cymuned fel hwb ac yn lle ble mae rhieni yn cymdeithasu a phlant yn magu gwreiddiau ac yn gweld gwerth ei gael yn ganol cymuned. Ond, nodwyd fod nifer uchel o blant yn mynychu ysgol tu allan i’r dalgylch yn drawiadol, a holwyd a yw ysgol un ystafell ddosbarth am roi datrysiad llawn i’r problemau sydd yn wraidd i broblemau'r ysgol. Gofynnwyd i’r adran gysidro llwybr saff i Ysgol Sarn Bach, er mwyn tynnu'r gymuned i mewn drwy gysylltu’r pentref a’r ysgol newydd. Eglurwyd y bydd y Cyngor yn drawsadrannol yn edrych i mewn i’r posibiliadau o greu llwybr cerdded.

¾    Diolchwyd i’r aelod lleol am fanteisio ar bob cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth ac i leisio barn dros y trigolion.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart

Dogfennau ategol: