I dderbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n deillio o’r gwir wariant ac incwm yn erbyn cyllideb 2020/21, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i Adrannau.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Nodi’r risgiau perthnsaol
Cefnogi penderfyniad y
Cabinet (18 Mai 2021)
Cofnod:
Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr adroddiad
wedi ei gyflwyno
i’r Cabinet 18 Mai 2021 a bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol.
Gosodwyd y cyd-destun ac ymhelaethwyd ar gynnwys yr adroddiad
gan yr Uwch
Reolwr Cyllid. Cyfeiriwyd at grynodeb o’r sefyllfa fesul
adran oedd yn amlygu’r symiau
i’w cario ymlaen ar ddiwedd
y flwyddyn ynghyd a’r prif
faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd,
·
Bod
effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor. Gyda dros £20 miliwn wedi ei
hawlio o’r gronfa caledi a ffyrlo erbyn diwedd y
flwyddyn, oedd yn gyfuniad o gostau ychwanegol o £11.6 miliwn, colledion incwm
o £7.3 miliwn a £1.5 miliwn ffyrlo.
·
O
ganlyniad i dderbyn nifer o grantiau sylweddol eraill cysylltiedig â Covid-19
yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, amlygwyd bod sefyllfa ariannol 2020/21 wedi ei
drawsnewid erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r grantiau yn cynnwys grantiau i
gyllidebau ysgolion, ar gyfer trawsnewid digidol, diffyg gwireddu arbedion ac
ôl groniad Treth Cyngor.
·
Bod
5 adran ar ddiwedd y flwyddyn yn gorwario cyn dyrannu grantiau digolledu am
Covid19 gan Lywodraeth Cymru, gan adael dim ond un adran yn gorwario yn
derfynol, sef Adran Plant a Theuluoedd.
·
Pwysau
sylweddol yn wynebu’r Adran Plant a Theuluoedd, ond lleihad yn y gorwariant i
£1.3 miliwn yn dilyn dileu £688k o arbedion nad oedd modd eu gwireddu a
derbyniad grant covid.
·
Bod gwelliant
sylweddol yn sefyllfa’r Adran Oedolion - gwerth £1 miliwn o arbedion nad oedd
modd eu cyflawni
wedi eu dileu
a’u llithro yn ogystal â derbyniad
grantiau cyffredinol ym misoedd olaf
y flwyddyn.
·
Bod cynnydd
yn sefyllfa ariannol Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd yn gyfuniad o gwtogi
ar wariant, derbyniadau grant covid a grantiau cyffredinol a dileu arbedion. Y maes gwastraff,
yn parhau i fod yn
bryder gyda’r adran wedi wynebu
costau ychwanegol sylweddol yn ymwneud
â chydymffurfio gyda chanllawiau covid 19. Nodwyd hefyd golledion
incwm yn y maes gwastraff
masnachol, oedd yn ei gyfanrwydd
werth £2.4 miliwn am flwyddyn.
·
Bod
nifer o resymau tanwariant un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol
·
Bod balansau’r ysgolion wedi cynyddu
o £4.3 miliwn yn 2019/20 i £10.7 miliwn yn 2020/21 yn sgil
effaith Covid19 a derbyniad
grantiau amrywiol.
·
Bod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wrth
gau’r cyfrifon, lle llwyddwyd i gynaeafu £170 mil o adnoddau.
Cyfeiriwyd at benderfyniad y Cabinet i,
·
nodi
sefyllfa’r adrannau ar ddiwedd 2020/21 a chymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen
·
cymeradwyo’r
holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
Adroddwyd bod y datganiadau ariannol
statudol 2020/21 wrthi’n cael eu cwblhau
gyda’r bwriad o’u cyflwyno i’r
Archwilwyr cyn y dyddiad statudol o 31 Mai 2021. Ategwyd y byddai’r cyfrifon yn cael
eu harchwilio dros yr haf
gan Archwilio Cymru ac nid gan
gwmni Deloitte fel y gwelwyd yn y gorffennol.
Ategodd y Pennaeth Cyllid
bod grantiau wedi rhoi hwb ariannol
sylweddol i’r sefyllfa sydd bellach
yn cyfleu sefyllfa iach a chadarn. Er gwaethaf
y gost, sicrhawyd diogelwch trigolion Gwynedd yn ystod y pandemig
drwy ariannu gwasanaethau a sefyllfaoedd heb sicrwydd grantiau.
Ategwyd bod yr arian yn
cael ei ‘barcio’ yn y gronfa
trawsffurfio am y tro ac y byddai ceisiadau am yr arian i’w
gwneud yn y drefn arferol.
Diolchwyd i’r
staff am eu gwaith trylwyr a’u hyblygrwydd
dros y cyfnod heriol
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
Nodi’r risgiau perthnasol
Cefnogi penderfyniad y Cabinet (18 Mai 2021)
Dogfennau ategol: