Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfirg Siencyn

Penderfyniad:

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.  

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.  

. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym mis Rhagfyr.

 

Eglurwyd fod deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud yn barod i daclo’r broblem a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol, gwneud defnydd o godi Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae angen canolbwyntio ar yr argymhellion sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod wedi ei amlygu fel un o brif broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi ddim yn talu treth Cyngor wrth symud i dreth fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro hyn rhag digwydd fel eu bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod dosbarth derbyn penodol er mwyn newid cartref o fod yn annedd i fod yn ail gartref a drwy hyn fod angen cais cynllunio. A'r trydydd er mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od angen cynllun trwyddedu ar gyfer dai gwyliau felly bod modd cadw golwg ar niferoedd o fewn cymunedau, ac yna gwrthod ceisiadau cynllunio os niferoedd yn uchel mewn cymuned. Eglurwyd heb fabwysiadu’r argymhellion rhain ni fydd modd taclo’r broblem. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod y Cyngor mewn argyfwng tai, a bod y Cyngor yn ddyddiol yn edrych ar ôl trigolion Gwynedd. Pwysleisiwyd yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf fod y Cyngor wedi parhau i edrych ar ôl trigolion a pharhau i berfformio yn arbennig o dda. Eglurwyd dros y ddwy flynedd diwethaf fod y Cyngor wedi gwneud pob dim o fewn ei gallu i ddatrys y broblem ond nad oes grym gan y Cyngor i ddatrys y problemau go iawn. Mynegwyd nad yw’r broblem hon yn broblem newydd a bod Llywodraeth San Steffan wedi bod yn ymwybodol ohoni ers y 1970au, ac er bod Tai wedi ei ddatganoli i Gymru dim ond yr adroddiad hwn sydd wedi ei wneud. Pwysleisiwyd fod yr atebion i gyd yn yr adroddiad ond fod angen bellach i'r Llywodraeth weithredu.

¾    Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud adroddiadau ugain mlynedd yn ôl ond heb weithredu ar yr argymhellion. Yn ôl ym mis Rhagfyr, mynegwyd fod yr adroddiad yn gweiddi ar Lywodraeth Cymru i weithredu. Eglurwyd fod yr adroddiad diweddaraf ganddynt yn gweiddi am weithredu.

¾    Pwysleisiwyd fod angen gweithredu gan fod pryderon am ble mae pobl am fyw heddiw, heb sôn am ble fydd plant y sir yn byw. Eglurwyd bob dydd fod achosion y yn amlygu'r argyfwng tai yn codi ar draws Gwynedd.

¾    Eglurwyd nad yw hon yn broblem newydd a chwestiynwyd pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywbeth ynghynt. Codwyd fod gormod o argymhellion yn cael ei amlygu gan yr adroddiad a bod posibilrwydd i’r Llywodraeth ddewis un syml i'w weithredu, ac o ganlyniad ddim yn gwneud gwahaniaeth.

¾    Croesawyd yr adroddiad gan bwysleisio ei bod yn amser i adroddiadau ddod i ben ac i weithredu. Gofynnwyd i fudiadau gydweithio gyda Chyngor Gwynedd i roi'r neges i'r Llywodraeth yn cwyno am ei gilydd.

¾    Amlygwyd fod ail gartrefi bellach i'w gweld yn bob ward yn y sir a bod y broblem bellach yn ehangu o’r adroddiadau traddodiadol ac i ardaloedd difreintiedig.

¾    Pwysleisiwyd fod angen bod yn glir fod talu treth Cyngor yn angenrheidiol. Eglurwyd fod codi premiwm yn amlygu fod y Cyngor wedi ei wneud beth mae yn gallu.

 

 

Awdur:Dafydd Gibbard

Dogfennau ategol: