Agenda item
I adrodd ar ddatblygiadau’r
prosiect ers iddo gychwyn yn
2016
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad i’r Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth yn y Gweithgor Craffu (10/05/21),
yn amlinellu’r ymdrechion a fu ers 2016 i gynyddu’r ddarpariaeth ryngweithiol
ar y wefan i geisio sicrhau bod modd cysylltu yn rhwydd gyda’r Cyngor 24 awr
o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Nodwyd bod cynnydd sylweddol yn nifer y
trigolion sydd yn defnyddio’r gwasanaeth sy’n gadarnhaol ac yn cadarnhau gwerth
y buddsoddiad. Ategwyd bod y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu a chydweithio
gyda Gwasanaethau ac yn ymgynghori gydag Awdurdodau eraill i geisio gwella’r
ddarpariaeth. Nodwyd posibilrwydd o sefydlu swyddfa wrth gefn i gefnogi’r
ddarpariaeth, ac er nad yw’r prosiect ei hun yn gallu hawlio arbedion
uniongyrchol, mae wedi cynorthwyo i greu arbedion mewn Gwasanaethu ee. Galw Gwynedd i arbed £23,000 trwy
ddatblygu system fewnol.
Amlygwyd bod y
pandemig wedi arwain at gyflwyno gwasanaethau ar-lein mewn meysydd lle nad oedd
rhai yn bodoli yn flaenorol a hynny wedi arwain at gynnydd mewn ceisiadau am y
gwasanaethau ar-lein yn gyffredinol. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau i’r dyfodol
oedd yn cynnwys sefydlu sgwrs fyw, rhannu manylion mynediad ysgolion,
ffurflenni morwrol ynghyd a cheisiadau pellach i gyflwyno, e.e., rhestr aros Tai,
cyfarpar ailgylchu, slotiau i ymgymerwyr mewn amlosgfa, ceisiadau rhieni maeth.
Ystyriwyd bod hyn i’w groesawu ac yn gosod her arall o flaenoriaethu’r holl
geisiadau mewn modd sydd yn dod â budd i’n cwsmeriaid a’r gwasanaethau dan
sylw.
Ategodd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet yn llwyr gefnogol i’r prosiect ac
yn ymfalchïo yn y gwaith da sydd yn cael ei wneud. Nododd bod y dewis i
ddefnyddio technoleg i gysylltu 24awr yn fanteisiol a bod Gwynedd yn torri tir
newydd drwy gynnig y gwasanaeth yn ddwyieithog.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y gwasanaeth yn
gwneud gwaith gwych – yn sicr y ffordd ymlaen
·
Bod
dyfalbarhad a brwdfrydedd y Tîm i’w longyfarch
·
Bod
angen adolygu’r camau ‘tynnu sylw at dyllau yn y ffordd’ – rhy gymhleth
·
Bod angen sicrhau profiad
da os am gyflwyno ‘sgwrs ar lein’ - rhaid sicrhau bod staff wrth gefn gyda
gwybodaeth gyfredol ac ystyried yn ofalus pa Wasanaethau sydd yn addas i’w
cynnig. Angen osgoi sefyllfa rwystredig ac amhersonol i’r cwsmer.
·
Angen sicrhau bod cod post Powys yn cael ei dderbyn
yn ‘Lle Dwi’n Byw’ - rhai o’r codau post hyn yn berthnasol i drigolion Gwynedd
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag ymateb i adborth gwael ac os oedd patrymau i’r sylwadau
hynny, nodwyd pe byddai’r mater yn un
technegol bydd Tîm y Wefan yn ymdrin â’r mater gyda chefnogaeth y Gwasanaeth
TG. Os mai un o Wasanaethau eraill y Cyngor sydd yn derbyn adborth gwael, yna
mae’r ymateb yn debygol o amrywio o Wasanaeth i Wasanaeth, ond bod pob ymgais
yn cael ei wneud i sicrhau ymateb. O
safbwynt patrwm i sylwadau, nodwyd bod y Tîm Prosiect yn edrych ar feddalwedd
dadansoddi i ymgymryd â’r gwaith yma.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen ymateb i sylwadau, nodwyd
y byddai’r Tîm Prosiect yn gweithio gyda’r Gwasanaethau i gytuno ar amserlen
gan fynnu bod cyfnod ymateb yn cael ei osod er mwyn sicrhau rheolaeth o’r
sefyllfa
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chwblhau cais ar ran rhywun arall ac o ganlyniad yn
gorfod cyflwyno manylion banc personol, tynnwyd sylw bod llinell bwrpasol i
gynnwys cyfeiriad gwahanol, ond bod cais am fanylion banc yn parhau. Cytunwyd i
edrych i mewn i hyn.
Mewn ymateb i
bryder bod y gwasanaeth ar-lein yn peryglu swyddi yng Ngalw Gwynedd, nodwyd, er
bod y gwasanaeth wedi arbed £23,000 i Galw Gwynedd, nid oedd wedi arwain at
unrhyw ddiswyddiadau. Ategwyd mai arbediad mewn amser gweinyddol oedd y fantais
fwyaf drwy ryddhau amser i gyflawni gwaith arall megis cyfeirio adnodd i
‘sgwrs’. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda staff Galw Gwynedd a’u
bod yn ymrwymedig i’r prosiect.
Mewn ymateb i
awgrym y gellid cynnig y gwasanaeth i sectorau ehangach, mynegwyd bod y
posibilrwydd yn ddymunol ond yn gynamserol - angen datblygu’r safon cyn rhannu
ymhellach.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: