Agenda item

I dderbyn y datganiad o gyfrifon Statudol (drafft cyn archwiliad) er gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol a’r archwiliad) ar gyfer 2020 / 21

 

Cofnod:

Cymerodd  yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno i Archwilio Cymru sef yr archwilwyr allanol, cyn y dyddiad statudol (31 Mai 2021). Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r staff am gyflawni’r gwaith gan ymateb i amserlen statudol heriol newydd, ynghanol argyfwng Covid19. Diolchwyd hefyd i’r Gwasanaeth TG am alluogi datblygiadau gweithio o adre. Nododd ei fod eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau. Bydd y cyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu cymeradwyo 14/10/21.

 

O ran y Prif Ddatganiadau a’r Nodiadau, eglurwyd bod y Datganiad wedi ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys yn drwsgl a thechnegol gymhleth ac amlygwyd bod y ffigyrau pensiwn yn dueddol o ystumio’r ffigyrau. I ddeall y sefyllfa ychydig yn well cyfeiriwyd at y wybodaeth yn Nodyn 38. Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod ef, ynghyd a Thrysoryddion eraill ar draws y DU,  yn cynnal trafodaethau gyda CIPFA i geisio dwyn perswâd arnynt i ddiddymu’r ffigyrau pensiwn sydd yn arwain at gam argraff ar rai agweddau yn y Datganiad.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid bod chwe set o gyfrifon wedi eu cwblhau ond nad oedd  modd iddynt gael eu harchwilio a’u cymeradwyo tan dymor yr Hydref, gan fod angen   sicrhau bod hawliau’r cyhoedd yn weithredol. Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:

 

·         Datganiad Symudiad mewn Reserfau (tud 22 o’r rhaglen) sydd yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor am 2020/21 - tynnwyd sylw at y colofnau gwybodaeth ychwanegol:

-        colofn 1: balansau cyffredinol y Cyngor wedi cynyddu £1.8 miliwn yn ystod y flwyddyn, £7.5 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £9.4 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021

-        colofn 2: yn cyfeirio at  gynnydd o £20 miliwn yn ystod y flwyddyn yn y cronfeydd, £59 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £79 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021

-        colofn 3  - balansau Ysgolion - cynnydd o £6.4 miliwn o £4.3 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £10.8 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021.

Amlygwyd mai’r prif resymau dros y cynnydd oedd derbyniad grantiau amrywiol      sylweddol.

·         Trefniadau newydd ar gyfer eleni, ar y cyd gyda Chynghorau eraill yn ymwneud â Covid (tudalen 94) gan gynnwys Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfrifon (drafft) yn amodol ar Archwiliad gydag adroddiad gan yr Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru) ynghyd a chyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu cymeradwyo 14/10/21.

 

    Diolchwyd am yr adroddiad

           

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â grantiau yn cael eu derbyn at ddibenion pwrpasol  ac o ganlyniad yn gogwyddo’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cyllid bod rhai o’r grantiau  ar gyfer pwrpas penodol ond bod nifer yn rai sydd heb bwrpas penodol ac o ganlyniad wedi eu gosod yng Nghronfa Trawsffurfio'r Cyngor a Chronfa Adfer Covid. Bydd cyfle yn unol â’r drefn arferol i gyflwyno ceisiadau am yr arian.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol a’r archwiliad) ar gyfer 2020 / 21

 

Dogfennau ategol: