I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar
wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor
2020/21, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 5/3/20. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd
yn wreiddiol, a derbyniwyd £422,000 o log ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r
£400,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad
oedd unrhyw fethiant i ad-dalu
gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.
Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gyda chyfraddau llog yn
gostwng, cyfyngiadau ar ble i fuddsoddi arian ynghyd a symiau sylweddol yn cael
eu prosesu gyda’r Cyngor yn gweinyddu dros £100 miliwn o grantiau Covid 19 i fusnesau. Er hynny, roedd y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod y
buddsoddiadau yn ddiogel ac wedi cyrraedd y targed incwm buddsoddi.
Tynnwyd sylw at y fantolen ynghyd a manylder y gweithgareddau benthyca gan amlygu bod y benthyciadau wedi parhau o fewn y strategaeth o gadw’r costau benthyca yn isel. Ni wnaethpwyd
unrhyw fenthyciadau tymor hir yn
y flwyddyn ac ni wnaed llawer o ddefnydd o fenthyciadau tymor byr oherwydd
bod lefelau’r arian wedi bod yn uchel
o gymharu â diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf lle cymerwyd
benthyciadau tymor byr oherwydd ansicrwydd
sefyllfa Covid 19.
Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau, Cronfeydd Marchnad Arian, a Chronfeydd wedi’i pwlio, ond bod cynnydd mewn defnyddio Awdurdodau Lleol gan
fod y cyfleoedd gyda’r banciau a’r sefydliadau tebyg yn gyfyngedig iawn, a
chyfraddau marchnad arian yn isel iawn. Ategwyd bod y dychweliadau wedi bod yn isel iawn, ond bod y
cronfeydd wedi’i pwlio wedi achub y sefyllfa gan eu
bod wedi bownsio yn ôl ar ôl cwymp diwedd flwyddyn ariannol 2019/20. Amlygwyd
bod gwerth y buddsoddiadau wedi codi £0.6 miliwn yn y flwyddyn, gyda chyfradd
5.13% wedi cyfrannu at yr incwm llog gan sicrhau nad oedd diffyg yn erbyn y
gyllideb.
Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod cydymffurfio llawn wedi digwydd
ar wahân i’r datguddiad cyfraddau llog. Amlygwyd bod y datguddiad yma yna dangos
effaith refeniw un flwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog gan amlygu
effaith difrifol y mae’r pandemig wedi ei gael
ar enillion buddsoddiadau o gymharu ar hyn a ragwelwyd
ddechrau Mawrth 2020 pan osodwyd lefel y cyfyngiad - cyn pandemig Covid
19. Ategwyd
bod dychweliadau ar y cronfeydd wedi’i pwlio wedi adfer
y gollyngiad llog.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Er balchder o dderbyn grantiau, Cyngor Gwynedd wedi gwneud y penderfyniad o ddefnyddio eu cyllid
fel bod effeithiau covid 19 ar drigolion
Cyngor yn lleihau
·
Bod
angen cywiro tabl Crynodeb Rheolaeth Trysorlys (tud
100 o’r rhaglen) i amlygu £’000 yn lle £m
Mewn ymateb i sylw
yn yr adroddiad
‘bod hyd buddsoddiad a nifer y sefydliadau sydd i adneuo
arian gyda nhw wedi ei
leihau yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd gan Arlingclose’, ac os mai dirywiad
y gyfradd credyd oedd yn gyfrifol
neu’r cyngor a dderbyniwyd, adroddwyd bod y penderfyniad i ddiogelu’r buddsoddiadau yn gyfuniad o’r
ddwy elfen a bod angen cymryd agwedd
gofalus. Mewn ymateb i gwestiwn
ategol o ran lleihad sylweddol yn y sefydliadau, amlygwyd bod sefydliadau tramor wedi cwtogi ynghyd a gostyngiadau
o 90 diwrnod i 35 gan fanciau. Pwysleisiwyd
mai prif amcan y Cyngor wrth fuddsoddi oedd ceisio taro cydbwysedd priodol rhwng risg
a dychweliadau - trwy fuddsoddi yn ddarbodus
bydd sylw yn cael ei
roi ar ddiogelwch
a hylifedd buddsoddiadau cyn chwilio am gyfraddau uwch o ddychweliadau.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth
Dogfennau ategol: