Agenda item

(a)     Nodi, yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn galw am gyfarfod o’r Cyngor i drafod yr isod yng nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n bodoli o fewn y sir:- 

 

“Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr. Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.”

 

(b)     Pecyn Gwybodaeth

 

(i)      Adroddiad yn amlinellu’r broses statudol ar gyfer adolygu Cynllun Datblygu Lleol.

 

(ii)      Adroddiad Dr. Simon Brooks – “Ail Gartrefi – Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru”.

 

(iii)     Ymateb i’r adroddiad yn (ii) uchod – adroddiad i’r Cabinet ar 15 Mehefin, 2021.

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath  yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Felly, yn wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb Cyflawni gerbron y Cyngor.  Hefyd, bod y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.

 

Cofnod:

Nodwyd, yn unol ag Adran 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn galw am y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor i drafod adolygu a diweddaru’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg yng nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n bodoli o fewn y sir.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Gruffydd Williams i esbonio’r mater gerbron.  Nododd:-

 

·         Y dymunai ddiolch i bawb fu’n rhan o hwyluso’r cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor.

·         Bod y rheswm dros alw’r cyfarfod yn amlygu ei hun yn ddyddiol yn y papurau a chyfryngau o bob math, yn ogystal â bod yn destun sgyrsiau ledled y sir y dyddiau hyn, sef yr argyfwng cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau.

·         Bod yna ddigon o dai yn y sir, ond bod y prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, a bod hynny, yn ei dro, yn amddifadu’r bobl hynny o’u hawl sylfaenol i fyw yn eu cynefin.

·         Nad oedd neb, ddim hyd yn oed y Cyngor hwn, wedi mynd i’r afael o ddifri â’r argyfwng.  Cafwyd adroddiadau cydnabyddedig dros y blynyddoedd yn cynnig datrysiad i’r broblem, ond ni ddigwyddodd unrhyw beth, a phryderid na fyddai unrhyw beth yn dod o adroddiadau ac argymhellion diweddar chwaith, oni fo’r Cyngor hwn yn mynnu newid.

·         Pan fabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd bedair blynedd yn ôl ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd, lleisiwyd pryderon am effaith y Cynllun ar ein cymunedau lle mae’r iaith Gymraeg yn dal yn iaith hyfyw.  Yn anffodus, roedd y diffygion amlygwyd yr adeg hynny wedi dod yn fwy amlwg, os nad wedi’u gwireddu’n gyfan gwbl erbyn hyn.

·         Er y byddai’r gwaith o adolygu’r polisïau yn cychwyn mis nesaf fel sy’n ofynnol yn ôl y drefn, byddai’n sioc i lawer ddeall pa mor hirfaith yw’r amserlen ar gyfer cynnal adolygiad o’r fath.

·         Yn ystod cyfarfod mabwysiadu’r Cynllun yn 2017, cafwyd addewidion gan yr Aelod Cabinet ar y pryd y byddai modd lleihau unrhyw niwed i’r Gymraeg drwy gryfhau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr Iaith Gymraeg, ac y byddai’r Cabinet yn sefydlu pwyllgor craffu arbennig i fynd i’r afael â’r mater.  Ar ôl 15 cyfarfod a rhagor gyda’r swyddogion, cadarnhawyd y pryderon bod y Canllawiau Atodol yn ddibwrpas, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer ceisiadau ar hap. 

·         Y bu i’r Aelod Cabinet hefyd roi addewid yn y cyfarfod hwnnw y byddai’r Cynllun yn cael ei fonitro’n flynyddol, ac y byddai’n bosib’ newid y polisïau o fewn 4 blynedd, pe gwelid nad oeddent yn gweithio.  Ond cafodd y Cyngor ei gamarwain yn 2017, gan y byddai yna gyfnod ychwanegol o 3.5 mlynedd cyn y byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwireddu.

·         Mai dogfen farw yw’r Cynllun, a bydd yr iaith Gymraeg wedi marw hefyd, oni fo’r Cyngor hwn yn gwneud penderfyniadau radical a phellgyrhaeddol.

·         Mai argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor yn Rhagfyr 2020 oedd i gadw’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi yn 50%, ond drwy bwysau gan aelodau unigol, gorfodwyd y Cyngor i fynd i ymgynghoriad, ac yn y diwedd penderfynodd y Cyngor godi’r premiwm 100%, sef yr uchafswm a ganiateir yn ôl Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.  Gan hynny, roedd y bêl yn ôl yng nghwrt y Prif Weinidog, a disgwylid yn eiddgar am ei adroddiad ddiwedd y mis hwn.

·         Er bod gwaith ymchwil y Cyngor ar y cyd â’r Llywodraeth ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau i’w ganmol, dylid cwestiynu pam bod yr adroddiad hollbwysig yma wedi canolbwyntio ar draean y broblem sy’n wynebu ein cymunedau, gan ddiystyru dwy ran o dair arall y broblem, sef y broblem tai haf.

·         Bod yr aelodau hynny o’r Cyngor nad ydynt yn aelodau Cabinet yn teimlo bod eu llais a’u hawgrymiadau hwy yn cael eu llwyr anwybyddu gan yr Arweinyddiaeth a gan y swyddogion sydd ynghlwm â’r Cynllun.

·         Bod angen i’r Cyngor hwn, yn wyneb yr argyfwng arswydus sydd ohoni, fynd i’r afael â’r gwaith o adolygu’r Cynllun yn ddiymdroi, gan anwybyddu’r cyfarwyddyd 3.5 mlynedd, a neilltuo ei holl egni a’i adnoddau i sicrhau gwireddu’r newidiadau angenrheidiol o fewn chwe mis.

·         Bod yr Arweinydd wedi datgan yn flaenorol mai dymuniad clir a chadarn Cyngor Gwynedd yw defnyddio pob mesur posib’ i geisio ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu trigolion y sir yn eu cymunedau.  Dyma’r cyfle i wireddu hynny, gan fod ein hiaith, ein hunaniaeth a’n cymunedau yn y fantol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath  yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Yn wyneb yr argyfwng cartrefi ac effaith hyn ar Gymreictod cymunedau, gofynnwn i’r Cyngor fel a ganlyn:-

 

1.       cymeradwyo gweithredu’r argymhellion a geir yn adroddiad Dr Simon Brooks;

2.       adolygu ar frys addasrwydd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, yn wyneb yr amgylchiadau presennol, er enghraifft datblygiad Wylfa B a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol;

3.       gwahodd sylwadau perthnasol gan y cynghorwyr a’r cyhoedd ar sut y dylid diwygio ac addasu’r Cynllun erbyn amser penodedig;

4.       sefydlu pwyllgor i gloriannu’r sylwadau a chynnig unrhyw newidiadau i’r Cynllun.

5.       cynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor i drafod cymeradwyo unrhyw newidiadau o fewn 6 mis i heddiw, a gofyn i Gyngor Ynys Môn ystyried gwneud camau cyffelyb i’r uchod.”

 

Ar bwynt o drefn ar y cynnig, eglurodd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod amserlen adolygu’r Cynllun yn fater y byddai’n rhaid i’r Cyngor llawn gytuno arno.  Cam cyntaf y broses fyddai cyflwyno Cytundeb Cyflawni gerbron y Cyngor i’w fabwysiadu.  Roedd y Cytundeb Cyflawni yn offeryn rheoli prosiect, oedd yn gosod yr amserlen ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun yn dilyn y rheoliadau statudol.

·         Bod yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad ar hyn o bryd yn adlewyrchu’r hyn oedd yng nghanllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r amserlen bosib’, ac amcan ydoedd.

·         Na fyddai’n gyfreithiol bosib’ dod i gasgliad ar newidiadau i’r Cynllun o fewn cyfnod o 6 mis, gan nad oedd y gyfundrefn yn caniatáu amserlen mor gyfyng â hynny o safbwynt ystod y gwaith a’r gofynion ymgynghori a’r trefniadau ymgysylltu sy’n rhaid eu dilyn.  Gan hynny, pwysleisiwyd nad oedd gosod cyfnod o 6 mis ar gyfer dod yn ôl i’r Cyngor gydag addasiadau i’r cynllun yn gynnig priodol.

·         Y gallai’r Cyngor roi briff i’r swyddogion cynllunio symud ymlaen gyda’r gwaith cyn gynted â phosib’.

·         Bod y cymal ynglŷn â sefydlu pwyllgor yn ddi-angen gan y byddai’r pwyllgor ar y cyd sy’n bodoli eisoes yn cael ei adolygu fel rhan o’r broses.

 

Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd Gruffydd Williams:-

 

·         Ei fod wedi gofyn am wneud y newidiadau o fewn fframwaith llai o amser gan nad oedd gan ein cymunedau y 3.5 blynedd ddisgwyliedig i fynd i’r afael â hyn.

·         Bod raid i’r Cyngor roi ei holl adnoddau i mewn i hyn, a pheidio cymryd yn ganiataol nad oes modd gwneud y gwaith.

·         Y rhoddwyd addewid ar adeg mabwysiadu’r Cynllun yn 2017 bod modd ei newid o fewn 4 blynedd, ond y deellid bellach ei bod am gymryd 7.5 mlynedd i wneud newidiadau.

·         Efallai bod y 3.5 blynedd o fewn fframwaith cyfreithiol, ond nid oedd o fewn fframwaith moesol i barhau fel hyn am 3.5 blynedd arall, yn wyneb yr argyfwng cartrefi, y pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B. 

 

Nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Bod pawb yn dymuno gweld y broses yn digwydd cyn gynted â phosib’, a’i fod yn cydymdeimlo â’r sylwadau.  Er hynny, cafwyd barn gyfreithiol nad oedd modd cyflawni proses o’r fath o fewn 6 mis, a phetai’r Cyngor yn gweithredu mor gyflym a hynny, gallai fod yn agored i her. 

·         Mai cam cyntaf y broses fyddai cychwyn ar yr Adroddiad Adolygu.  Yr ail gam fyddai dod ag amserlen yn ôl i’r Cyngor ei mabwysiadu, ac roedd y swyddogion cynllunio yn ymwybodol bod cyfarwyddyd gan yr aelodau iddynt geisio gwneud hynny cyn gynted â phosib’.

 

Nododd y Cynghorydd Gruffydd Williams ei ddymuniad i ychwanegu cynffon i’r cynnig, sef bod y Cyngor hefyd yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.

 

Er eglurder, gofynnwyd i’r Swyddog Monitro eirio’r cynnig.  Nodwyd mai’r cynnig oedd:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath  yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Felly, yn wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb Cyflawni gerbron y Cyngor.  Hefyd, bod y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.”

 

Nododd y Cynghorydd Gruffydd Williams ei fod yn fodlon gyda geiriad y cynnig.  Eiliwyd y cynnig.

 

Yna gwahoddwyd yr Aelod Cabinet Amgylchedd i roi ei ymateb.  Nododd:-

 

·         Bod y Ddeddf Gynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn nodi fod angen adolygu Cynllun Datblygu Lleol 4 mlynedd yn dilyn mabwysiadu, ac y mabwysiadwyd Cynllun Gwynedd a Môn ym mis Gorffennaf 2017.

·         Ei bod yn bwysig cofio bod y drefn yn un statudol, a bod rhaid i unrhyw drefn statudol ddilyn llythyren y gyfraith.

·         Fel rhan o baratoi’r Adroddiad Adolygu, ac wrth baratoi Cynllun ar y Cyd diwygiedig, y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth lawn i sefyllfa ddiweddaraf cynllun Wylfa Newydd.

·         Y byddai adolygiad llawn o’r Cynllun yn cymryd 3.5 blynedd, ac adolygiad ffurf fer yn cymryd 1.5 blynedd.

·         Bod ymateb y Cabinet i adroddiad Dr Simon Brooks, ynghyd â gwaith ymchwil y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau (a dderbyniodd gymeradwyaeth unfrydol y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Rhagfyr y llynedd) ynghlwm i’r adroddiad i’r Cyngor. 

·         Ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gychwyn heb oedi ar y gwaith o adolygu’r Cynllun, ond mai’r bwriad oedd i’r drefn adolygu ddechrau mis nesaf beth bynnag. 

·         Er na ellid rhagdybio’r broses o lunio polisïau cynllunio cyn i’r adolygiad gychwyn, ac o gofio bod rhan helaeth o adroddiad Dr Simon Brooks yn seiliedig ar waith Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd, y byddai cynigion Dr Brooks yn derbyn ystyriaeth lawn.

·         Bod y Cabinet eisoes wedi penderfynu cefnogi holl argymhellion adroddiad Dr Brooks, gydag addasiad i argymhelliad rhif 7 – Llety gwyliau tymor byr a threthi busnes.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ddweud gair.  Nododd:-

 

·         Mai adroddiad ffeithiol oedd gerbron y Cyngor a bod y broses yn un statudol.

·         Bod canllawiau’r Llywodraeth yn gosod allan yr amserlen berthnasol, ond petai’n bosib’ gwneud y gwaith yn gyflymach, y byddai’r swyddogion yn sicr yn ceisio gwneud hynny, gan ddod ag amserlen gerbron y Cyngor llawn fel rhan o’r Cytundeb Cyflawni.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan nifer o aelodau.  Nodwyd:-

 

·         Na fyddai’r Cyngor hwn fyth yn trafod mater mor fawr â’r mater oedd gerbron heddiw, a diolchwyd i’r Cynghorydd Gruffydd Williams am godi a chyflwyno’r mater pwysig ac amserol hwn gydag arddeliad.

·         Bod gennym bandemig tai yng Ngwynedd.  Ym Mawrth 2020, newidiwyd deddfau dros nos yn sgil yr argyfwng Covid.  Pam, felly, nad oedd yr un peth yn gallu digwydd yma, gan fod yr argyfwng cartrefi presennol yn ddigonol i fod yn cyfiawnhau galw am hynny yn y ffordd gryfaf bosib’?

·         Bod niferoedd tai, ac yn arbennig niferoedd tai marchnad agored, wedi bod yn destun cynen gyda’r Cynllun hwn o’r cychwyn, a gyda’r farchnad agored a phrisiau tai fel y maent, roedd yn anodd credu y byddai mwyafrif y tai a godir yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf o fewn cyrraedd pobl Gwynedd.

·         Yn unol â Ffordd Gwynedd, dylai’r Cyngor hwn roi pobl Gwynedd yn ganolog i’w benderfyniadau, ond ni ellid bod yn sicr bod hynny’n digwydd yma rŵan.

·         4 blynedd yn ôl, pan fabwysiadwyd y Cynllun, y bu i’r Aelod Cabinet ar y pryd ddweud y byddai’n cael ei fonitro, ac yn cael ei adolygu ar ôl 4 blynedd, ac os nad oedd yr aelodau’n hapus, y byddai modd newid pethau cyn hynny petai raid.  Pam felly na soniwyd am y cyfnod o 3.5 blynedd ar yr adeg hynny? 

·         Na allai to ifanc y sir aros 3.5 blynedd am yr hawl i fyw adref, a gobeithid y byddai modd symud ymlaen ar frys i addasu’r Cynllun.

·         Bod brys hefyd i adolygu’r Cynllun gan fod oes y Cyngor presennol yn dirwyn i ben ymhen tua 10 mis.  Y Cyngor presennol oedd wedi mabwysiadu’r Cynllun, o un bleidlais, ac roedd dyletswydd ar yr aelodaeth bresennol i wneud popeth o fewn eu gallu i’w addasu yn wyneb yr amgylchiadau hollol ddigynsail o ganlyniad i effeithiau Brexit a Covid ar y sefyllfa dai.

·         Bod diffyg cartrefi yn ein hardaloedd yn broblem ers hanner can mlynedd.  Roedd y pwysau mwyaf ar yr ardaloedd mwyaf Cymreig, a bron iawn y gellid mynd mor bell â dweud bod ymgais yma i ladd ein hiaith a’n hunaniaeth.

·         Bod erthygl ddiweddar yn y Guardian yn crynhoi’r sefyllfa drwy ddweud “The underlying reason for Britain’s lack of housing problem is not lack of supply, but that greed has been allowed to displace need.”

·         Y byddai canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg, diolch i ysgolion Cymraeg y De yn bennaf, ond nid oedd y Gymraeg yn iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny, ac roedd yn rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith gymunedol i ffynnu.

·         Bod rhaid perchnogi hyn a gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y broblem cartrefi yn cael ei datrys unwaith ac am byth, gan ofyn i Gyngor Ynys Môn ddilyn yr un trywydd.

·         Bod angen i bawb gefnogi’r cynnig a symud gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad, gan fynd â’r bobl gyda ni er lles ein cymunedau.

·         Bod diflaniad Wylfa B wedi ein gadael gyda chynllun drws agored, gan nad oedd bellach angen yr 8,000 o dai ychwanegol a ganiatawyd ar draws Gwynedd a Môn.

·         Bod angen herio’r cyfyngiadau cyfreithiol o safbwynt yr amserlen.

·         Bod arian mawr yn prynu ein tai a’n capeli fel ail gartrefi ac yn dinistrio ein diwylliant a’n hiaith.

·         Oni ddylai aelodau o’r Cyngor ac Aelodau Seneddol a Chynulliad sy’n berchen ar ail-gartrefi, neu sydd â pherthnasau agos gydag ail gartrefi, ddatgan hynny yn gyhoeddus?

·         Ei bod yn hollbwysig ehangu’r polisi tai marchnad leol i fwy o lefydd, a thros Wynedd a Môn.

·         Bod Cyngor Sir Northumberland yn ymgynghori ar eu cynllun datblygu lleol drafft, ac yn gofyn am amod prif gartref ar dai preswyl mewn rhai ardaloedd.

·         Y deellid bod yna brosesau i’w dilyn, ond bod rhaid bod yn ofalus rhag mynd ar goll mewn cors o brosesau.

·         Bod gennym stoc tai yn y sir, ond Airb&b’s a thai haf yw cyfran sylweddol ohonynt, a’i bod yn amserol i fynd ar ôl y perchnogion hynny sydd wedi trosglwyddo i’r Dreth Fusnes er mwyn osgoi talu Treth Cyngor, gan hefyd wneud lefel y Dreth yn seiliedig ar y nifer y bobl sy’n aros yn y tai.

·         Er bod y Cynllun yn ddogfen o bwys, ac yn gwneud gwahaniaeth i bobl Gwynedd, roedd bellach yn annigonol ac yn anaddas yn sgil diflaniad Wylfa B, y pandemig a’r cynnydd di-gynsail ym mhryniannau ail-gartrefi.

·         Gan fod y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg a chymunedau bregus yma yng Ngwynedd, cam gwag ar ran y Cyngor fyddai oedi a pheidio adolygu’r Cynllun ar frys, waeth beth oedd trefn y protocol swyddogol parthed adolygu cynlluniau datblygu.

·         Bod yna brinder swyddi sy’n talu’n dda yng Ngwynedd, a bod y pandemig wedi gwneud y sefyllfa’n llawer gwaeth, yn arbennig yn yr ardaloedd arfordirol.

·         Bod llety gwyliau yn creu problemau enfawr gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol a sŵn yn effeithio ar eiddo cyfagos.

·         Bod miloedd ar y rhestr aros am dŷ yng Ngwynedd ers blynddoedd, a bod pob pryniant ail-gartref yn tynnu tŷ arall i ffwrdd oddi ar y bobl leol.  Roedd enghreifftiau hyd yn oed, o bobl leol yn byw mewn pebyll, heb obaith o brynu na rhentu tŷ.

·         Bod tai yn gwerthu am grocbris, gyda rhai pobl bellach yn prynu tai heb hyd yn oed fynd i’w gweld yn gyntaf.

·         Bod y mater pwysig hwn yn uno’r holl gynghorwyr, gyda phawb yn cytuno bod y sefyllfa yn anfoesol.

·         Mai rhan bychan o’r ateb oedd y Cynllun Datblygu Lleol, a rhan oedd yn mynd i gymryd amser maith i weithredu arno.  Fodd bynnag, roedd yna 3 argymhelliad y gallai’r Llywodraeth weithredu arnynt y flwyddyn yma i reoli’r argyfwng (sef ymgynghori ynglŷn â’r posibilrwydd o eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad trethi busnesau bach, creu dosbarth defnydd newydd ar gyfer llety gwyliau tymor byr a chyflwyno Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer cartrefi gwyliau) ac roedd angen rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar unwaith.

·         Ei bod yn anodd i bobl leol sydd wedi etifeddu eiddo gael arian i adnewyddu’r tai hynny a thalu’r premiwm treth cyngor ar ben eu morgais / rhent ar eu prif gartref.

·         Pam na ellid rhoi cap yn syth ar y niferoedd o dai haf mewn unrhyw gymuned?

·         Ei bod yn siomedig nad yw’r argyfwng newid hinsawdd wedi’i adnabod fel mater y bydd angen rhoi ystyriaeth lawn iddo fel rhan o baratoi’r Adroddiad Adolygu ac wrth baratoi Cynllun diwygiedig.  Roedd yn bwysig bod hynny’n cael ei gydnabod yn ein polisïau cynllunio rŵan, os am sicrhau’r cymunedau ffyniannus Cymreig y dymunwn eu gweld i’r dyfodol.

·         Nad oedd yr argyfwng tai yn broblem y gallai Cyngor Gwynedd ei datrys ar ei ben ei hun.  Roedd y Cyngor wedi bod yn lobio yn y maes hwn ers blynyddoedd, a bellach wedi casglu tystiolaeth i gefnogi ein safbwynt gyda gwaith ymchwil safonol iawn, ac wedi cael cefnogaeth rhai o gynghorau eraill Cymru.

 

Nododd yr Arweinydd:-

 

·         Bod y cyfarfod hwn yn gyfle i’r aelodau fynegi eu hangerdd a’u pryder ynglŷn â’r sefyllfa sy’n gyffredin i bawb.

·         Bod y drafodaeth wedi amlygu pa mor anystwyth yw’r drefn gynllunio, a chyn lleied o rym sydd gan lywodraeth leol wrth lunio cynllun o’r fath.

·         Ei fod yn hapus iawn i ysgrifennu heddiw at Brif Weinidog Cymru yn gofyn am adolygiad llawn o’r drefn gynllunio.

·         Ei bod yn bwysig cael trafodaeth ynglŷn â pha fath o drefn gynllunio y dymunid ei gweld, a rhan yn unig o’r ateb oedd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

·         Y gellid cael mwy o ddylanwad yn y maes ail gartrefi gyda’r 3 argymhelliad y cyfeiriwyd atynt eisoes yn ystod y drafodaeth, ac sy’n bosib’ gweithredu arnynt yn fuan.

·         Y bu iddo godi’r materion hyn gyda Phrif Weinidog Cymru mewn cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Cymru, ac y bu i’r Prif Weinidog fynegi diddordeb yn y mater, gan roi addewid y byddai’n ymweld â ni yng Ngwynedd rhywdro yn y dyfodol agos i gael trafodaeth bellach ar y mater.

·         Bod y drws yn agored o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac y byddai’n parhau i guro ar y drws hwnnw, nes y byddwn yn cael rhyw fath o ateb yn ôl ganddynt.

·         Ei fod yn barod i gefnogi’r cynnig fel yr addaswyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglŷn â pha bwerau cynllunio sydd gan y Cyngor, eglurodd y Prif Weithredwr fod y cwestiwn yn un anodd, gan ei fod yn torri ar draws nifer sylweddol o feysydd gwahanol.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o adnabod y materion yn y meysydd hyn, ac roedd gallu defnyddio’r rheolau trethi a’r system gynllunio i’w llawn botensial yn rhan o’r atebion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.  Roedd adroddiad diweddar i’r Cabinet yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu llu o argymhellion gwahanol, nifer ohonynt yn deillio’n uniongyrchol o waith yr Adran Gynllunio, drwy gyfrwng adroddiad Dr Brooks.  Er hynny, roedd y grym yn nwylo Llywodraeth Cymru, a rôl y Cyngor oedd pwyso arnynt i gyflawni ac i weithredu ar ein rhan ni, a phob ardal o Gymru, cyn gynted â phosib’.

 

Yn ei sylwadau cloi, diolchodd y Cynghorydd Gruffydd Williams i’r aelodau am y sylwadau a’r gefnogaeth, gan nodi:-

 

·         Ei fod yn dal yn bryderus ynglŷn â’r ffaith na ellid cadarnhau amserlen, ond lle mae ewyllys yn bodoli, bod modd gwyrdroi’r drefn mewn cyfnod byr iawn o amser.

·         Ei bod yn hynod bwysig newid y ddeddf gynllunio fel bod rhaid cael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu ail-gartref, a mawr obeithid, cyn diwedd y mis, y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny.

·         Er hynny, nid oeddem lawer haws ag erfyn ar Lywodraeth Cymru i newid y deddfau a’r polisïau, tra roedd ein drws cefn ni yng Nghyngor Gwynedd yn llydan agored, a’i bod yn cymryd 3.5 blynedd i gau’r drws hwnnw.

·         Bod raid cyflymu’r broses a chwilio am bob ffordd bosib’ i newid y drefn, ac anogwyd y swyddogion i roi ystyriaeth lawn i’r sylwadau, gan fynd law yn llaw â’r aelodau er mwyn gallu newid y polisïau.

 

PENDERFYNWYD

Bod y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg.  Byddai’n ddymunol rhoi blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r fath  yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

 

Felly, yn wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb Cyflawni gerbron y Cyngor.  Hefyd, bod y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.

 

Nododd y Cadeirydd fod y penderfyniad yn unfrydol, a’i fod yn hynod o ddiolchgar i’r Cynghorydd Gruffydd Williams am ddod â’r mater gerbron.  Mynegodd ei obaith y byddai’r Prif Weithredwr, y swyddogion a’r Aelodau Cabinet yn ymateb yn unol â’r dyhead i symud ymlaen cyn gynted â phosib’, ac fel mater o ymarfer da, bod yr aelodau yn derbyn diweddariad ar y sefyllfa yn y Cyngor llawn nesaf ar yr 8fed o Orffennaf.

 

 

Dogfennau ategol: