Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulu ac amlygwyd y camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg.  

 

Ategwyd bod y gwasanaeth yn cynnwys elfen Gwasanaethau Cymdeithasol, Tîm Cefnogi Teulu, Blynyddoedd Cynnar & Meithrin, ac adran Ieuenctid a Chyfiawnder. Eglurwyd bod gan bob rhan o’r gwasanaeth cyfrifoldebau eang. 

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r adran fel a ganlyn: 

·       Hybu a hyrwyddo gwasanaethau blynyddoedd cynnar wrth gydweithio efo Hunaniaeth. 

·       Annog gweithwyr i ddefnyddio a gwella eu sgiliau iaitha chyflwyno adnoddau a chymorth i ofalwyr plant (childminders). 

·       Cefnogi Cynllun Croesi’r Bont ar gyfer trochi plant meithrin - nodwyd bod 11 cylch y Sir yn derbyn cefnogaeth gan y cynllun hyd hwn. 

·       Darparu cefnogaeth i rieni – sesiynau clwb cwtsh ar lein 35 o unigolion 

·       Darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau bod anghenion iaith bob plentyn wedi ei hystyried. 

·       Eglurwyd er bod Iaith yn ffactor wrth ystyried pecyn gofal a chefnogaeth, mae ambell i blentyn neu blant yn dod i ofal oherwydd risgiau neu anghenion dwys lle bod lleoliad all-sirol yn angenrheidiol. Ategwyd er nad oedd modd i sicrhau dewis iaith yn yr achos yma, bod y Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarch anghenion ieithyddol drwy gadw cyswllt dros y ffon a darparu adnoddau yn eu lleoliad. 

·       Rhannwyd a’r pwyllgor bod 91% o weithwyr adran yn cyrraedd dynodiad iaith a rhoddwyd enghraifft o’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi ymdrechu i ddysgu’r iaith ac erbyn hyn yn rhugl. 

·       Sicrhawyd bod cytundebau trydydd parti yn cynnwys gofynion iaith mewn, ac eithrio rhai cytundebau unigol sy’n ymwneud a lleoliad all-sirol. 

·       Mynegwyd bod heriau recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol sydd yn arwain at recriwtio gweithiwr Di-gymraeg er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth a dyletswyddau statudol diogelu. 

·       Diolchwyd i’r uned gyfieithu am yr holl gefnogaeth yn sicrhau bod cyfarfodydd rhithiol wedi parhau yn y Gymraeg. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Holwyd beth yw cynlluniau’r adran i ymdopi a’r heriau megis recriwtio staff Cymraeg a chynnig dewis iaith ragweithiol. 

·       Gofynnwyd a oes unrhyw beth all yr adran wneud ar y cyd efo’r sector addysg uwchradd i gwrdd â phroblem recriwtio. 

·       Holwyd pa mor gyffredin yw sefyllfa o blentyn Cymraeg yn cael eu lleoli gyda rhieni maeth di-gymraeg? 

·       Gofynnwyd beth yw’meini prawf er mwyn i gylch meithrin cael bod yn rhan yn y cynllun Croesi’r Bont gan mai dim ond 11 o gylchoedd sydd wedi nodi. 

·       Mynegwyd diolch i’r adran am eu holl waith a bod eu hangerdd tuag at ddiogelu plant Gwynedd a’r iaith Gymraeg yn ysbrydoledig. Ychwanegwyd diolch i’r Pennaeth am ddisgrifio’r pwysau a straen sydd wedi bod ar y staff ag am egluro’r sefyllfa ynglŷn â  phrinder gweithwyr cymdeithasol. 

·       Holwyd a oes llai o bobl Cymraeg eu hiaith yn maethu neu fabwysiadu a beth fuasai’r rhwystrau. 

·       Mynegwyd pryder bod plant Cymraeg sydd mewn carchar yn methu a siarad Cymraeg. Cynigwyd y byddai’n syniad ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc gan bwyllgor iaith i geisio cael tegwch i’r sefyllfa. 

Mewn ymateb nodwyd: 

·       Bod y sefyllfa staffio yn bodoli’n rhannol wrth i staff symud swyddi’n fewnol oherwydd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol yn nhermau pwysau. Ategwyd mai  symud i rolau efo llai o bwysau mae’r staff yma’n ei wneud. Eglurwyd bod hyn yn gadael bylchau sy’n dechrau mynd yn bryderus gan fod recriwtio staff dwyieithog yn heriol. 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hyrwyddo’r yrfa o Waith Cymdeithasol, eglurwyd bod pobl ifanc yn tueddu i wneud gradd ac yna cael profiad o fewn y maes ac yna dilyn M.A. Gwaith Cymdeithasol. Ategwyd y gellid edrych i mewn i hyrwyddo Gwaith Cymdeithasol fel gyrfa. 

·       Nad oedd heriau recriwtio gweithwyr oddi ar y cyrsiau ond recriwtio staff sydd â phrofiad sy’n heriol. 

·       Bod llawer iawn o’r gofalwyr/darpar rieni maeth yn ddwyieithog, fodd bynnag ategwyd bod sicrhau hyn ddim yn bosib bob tro. 

·       Bod ymrwymiad efo gweithwyr lleol i ymgymryd â chyfarfodydd yn y Gymraeg gyda defnydd cyfieithydd i’r rhai di-gymraeg. 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar broffil darpar rieni maeth/mabwysiadu, nodwyd mai dewis personol yw gwneud ond bod ymgyrch hyrwyddo yn digwydd yn aml. 

 

Dogfennau ategol: