skip to main content

Agenda item

I ystyried a chynnig sylwadau ar gynnwys y Cynllun Strategol drafft a chynnig sylwadau ar y cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu hwnt.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Cofnod:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Eglurwyd bod hyn yn gychwyn ar bennod newydd o safbwynt cynllunio'r Gymraeg mewn addysg ac y bydd y cynllun strategol ar ei newydd wedd yn weithredol o Fedi 2022 ymlaen. Ategwyd mai trochi i’r Gymraeg drwy’r system addysg yw’r model mwyaf dibynadwy ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg sef diben strategaeth y Llywodraeth; Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. 

 

Rhannwyd gweledigaeth yr Aelod Cabinet dros Addysg ynghyd â gweledigaeth Pennaeth yr Adran Addysg. Trafodwyd y 7 deilliant o ran y CSGA newydd am y ddeng mlynedd nesaf yn ogystal â’r amserlen ymgynghori. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Rhoddwyd sylw bod angen ymestyn ffiniau’r Gymraeg tu hwnt i’r byd addysg fel bod plant yn parhau i’w defnyddio a gofynnwyd sut gallai’r Adran Addysg wneud hyn. 

·       Nodwyd bod dau bwnc yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel iawn ac oes cynlluniau i gynyddu hyn. 

·       Mynegwyd bod angen ysgolion dynodedig Gymraeg. 

·       Diolchwyd am y cyflwyniad. Cydnabuwyd bod Gwynedd yn arwain y ffordd mewn darpariaeth addysg Gymraegfodd bynnag mynegwyd pryder bod nifer uchel o blant sy’n dilyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn gostwng yn CA4. 

·       Holodd aelod beth allai’r Cyngor wneud mewn sefyllfa lle nad yw’r corff llywodraethu’n rhannu’r un gwerthoedd o ran darpariaeth addysg? 

 

Mewn ymateb nodwyd: 

·       Bydd y ddogfen yn statudol ym mis Medi 2022. 

·       Yr angen i sicrhau mwy o athrawon syn hyderus i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i atal nifer disgyblion syn  dewis astudio pynciau drwy gyfrwng y Saesneg yn CA4 a thu hwnt. 

·       Mai isafswm yn unig yw’r 2 bwnc mewn ysgolion sy’n gynnig dim o gwbl yn bresennol. 

·       Bod angen hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd ymhlith rhieni di-gymraeg ac nad yw’r Gymraeg ar draul y Saesneg. 

·       Os bydd ysgolion yn cael eu hadnabod fel rhai sy’n achosi pryder o ran darpariaeth y Gymraeg mae camau gweithredol mewn lle i addysgu Llywodraethwyr ar eu darpariaeth. 

·       Ategwyd bod hyn yn cael ei drafod yn rheolaidd mewn cyfarfodydd a rhan o hyfforddiant ein Llywodraethwyr. 

·       Bod gwaith ymchwil i sicrhau gwybod ymlaen llaw pa iaith fydd y cwrs yn cael ei gynnal os ydynt yn symud o CA4 i goleg addysg bellach. 

 

 

 

 

     ii.Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032: Gweledigaeth newydd ar gyfer Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt  

 

 

Cafwyd rhagair gan y Pennaeth Addysg yn nodi ei fod yn croesawu’r cyfle i ddod â’r eitem gerbron y Pwyllgor Iaith o ran ei phwysigrwydd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg gan gyfeirio at weledigaeth yr Aelod Cabinet dros Addysg a chyflwynwyd yr amcanion ar gyfer cyflawni’r weledigaeth. 

 

Aethpwyd ati i egluro i’r pwyllgor beth yn union fydd y ddarpariaeth newydd a fydd yn cael ei gynnig o ran addysg drochi yn ogystal â sut y bwriedir ei ariannu, sef drwy’r grant GGA, yr Adran Addysg yn ogystal â gan yr ysgolion. 

 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

·       Croesawyd y newyddion bod Bangor yn derbyn uned addysg drochi, a mynegwyd brwdfrydedd at weld uned cynradd ac uwchradd yno. 

·       Holodd aelod pa mor aml fydd plant yn cael mynediad I'r Canolfannau Iaith. 

·       Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y strwythur staffio, beth fydd y gymhareb athrawon a  phlant yn y canolfannau newydd, a beth fydd rôl y cymhorthydd dosbarth. 

·       Mynegwyd balchder fod y Cyngor wedi arloesi wrth fuddsoddi yn sylweddol i allu ehangu nifer y safleoedd fydd ar gael gan fod ardal de Meirionydd yn arbennig, efo heriau sylweddol o ran y Gymraeg. 

·       Mynegwyd pryderon ynghylch â’r bwriad I'r dysgwyr fynychu’r ysgol am 1 diwrnod pob wythnos gan y gallai arwain at sefydlu arferion siarad Saesneg ymhlith cyfoedion all barhau am weddill oes y berthynas. O ganlyniad, nodwyd nad oedd yr aelod yn cefnogi’r weledigaeth . 

·       Holwyd beth oedd y sefyllfa o ran monitro ar gyfer adnabod y newidiadau sy’n cymryd lle.  

 

 

Mewn ymateb: 

·       Nodwyd bod plant yn cael mynediad efo’r gyfundrefn newydd ar ddechrau bob tymor am gyfnod o 8-10 wythnos. Ategwyd bydd dysgu cyfunol ar waith cyn iddynt gyrraedd y safle. 

·       Eglurwyd bod angen gweithio drwy'r manylder gan fod y drefn gorfforaethol yn nodi mai mater i adrannau unigol yw materion cyflogaeth. 

·       Fel unrhyw wasanaeth, bydd yr adran yn adolygu’r gwasanaeth yn barhaus o ran sicrwydd ansawdd ac os yw tystiolaeth yn dangos bod angen gwelliannau neu addasiadau yna bydd mesurau’n cael eu rhoi mewn lle er mwyn sicrhau hynny. 

 

 

Dogfennau ategol: