Agenda item

Ystyried yr adroddiad, derbyn a nodi Datganiad o’r Cyfrifon drafft

 

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2020/21

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y llynedd, wedi eu harwyddo gyda pharagraff ‘emphasis of matter’ oherwydd yr ansicrwydd gyda phrisiadau eiddo. Amlygwyd bod y 4 Rheolwr Eiddo wedi datgan nad oes ansicrwydd eleni. Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi blwyddyn arferol i gyfraniadau a buddion heb newid sylweddol. Er hynny, adroddwyd newid sylweddol mewn costau rheoli a cyfeiriwyd at nodyn 12a sy’n egluro mai cynnydd yn ffioedd perfformiad Ecwiti Preifat (Partners) oedd yn gyfrifol am y newid gyda pherfformiad cryf mewn 3 cronfa yn benodol. (Derbyniwyd eglurhad llawn gan y Rheolwyr pan heriwyd eu ffioedd).

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd yn yr Incwm Buddsoddi (nodyn 13) o ganlyniad i incwm o fuddsoddiadau Ecwiti wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddechrau talu incwm a enillwyd ers sefydlu ar holl is-gronfeydd y Bartneriaeth y mae’r gronfa wedi buddsoddi ynddynt. Cyfeiriwyd hefyd at y ffigwr o £565.5 miliwn sef y cynnydd yng ngwerth yr asedau ar y farchnad yn dilyn blwyddyn lewyrchus iawn (nodyn 14a).

 

Yng nghyd-destun y datganiad asedau net, tynnwyd sylw at y newid yn yr asedau buddsoddi (Nodyn 14a) sydd bellach wedi cyrraedd £2.5 biliwn gyda chynnydd sylweddol ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru wedi i gyfran o Fidelity ac Insight drosglwyddo i’r cronfeydd incwm sefydlog yn y flwyddyn.

 

Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few yr amserlen. Nododd ei fod eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fydd treuliau ariannol yn ymddangos yn gyson ymhen 2 flynedd (hynny yw ffioedd yn adlewyrchu nifer treuliau), nodwyd, gan fod nifer o gyfuniadau prynu a gwerthu anodd fyddai cymharu blwyddyn v blwyddyn, ond disgwylir gweld cysondeb yn y tymor hir.

 

Mewn ymateb i gynnydd sylweddol net o 0.6 biliwn, gofynnwyd petai modd adolygu’r strategaeth i ystyried pecynnau / buddion atyniadol i staff e.e., ymddeol yn gynnar. Nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd hawl gan y Gronfa na’r Cyflogwr i addasu’r buddion gan eu bod wedi eu gosod yn unol â chyflogau a nifer blynyddoedd gwaith. Ategwyd, yn Ebrill 2022 bydd gwaith yn dechrau ar adolygu’r prisiad teirblynyddol nesaf lle bydd modd, yn ddibynnol ar y canlyniad, addasu cyfranddaliadau cyflogwyr.

 

Mewn ymateb i sylw bod y llywodraeth yn addasu oed ymddeol gyda phobl yn talu i mewn yn hirach yn cael effaith ar yr arian sydd yn cael ei dalu i mewn i’r Gronfa, nododd y Pennaeth Cyllid bod y ffaith yn cael ei ystyried wrth drafod y prisiad teirblynyddol, ond mai’r farchnad yw’r ffactor fwyaf dylanwadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2020/21

 

Dogfennau ategol: