Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Datganiad ac i’r Cadeirydd lofnodi’r Datganiad

 

Cofnod:

Amlygodd y Pennaeth Cyllid bod etholwyr ym Môn, Conwy a Gwynedd wedi cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor yn ymwneud a buddsoddi cyfrifol. Croesawyd derbyn y cwestiynau ymlaen llaw a gwerthfawrogwyd presenoldeb yr etholwyr yn y cyfarfod. Penderfynwyd ymateb i’r cwestiynau cyn trafod yr adroddiad.

 

1.    Pa dystiolaeth sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd bod eu polisi ymgysylltu mewn gwirionedd wedi newid ymddygiad y cwmnïau maent yn gyfranddalwyr ynddynt?

 

Eglurwyd, fel Cronfa, y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr y gronfa gan dderbyn adroddiadau cynnydd ar eu gweithgareddau ymgysylltu. Nodwyd bod rheolwyr y gronfa yn weithgar iawn a’r cynnydd diweddar wedi bod yn foddhaol iawn gyda thrafodaethau agored yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth hinsawdd rhai cronfeydd. Amlygwyd bod gan Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu sy’n cynorthwyo gyda’r broses ymgysylltu.

 

Cyfeiriwyd at yr enghreifftiau canlynol o addasiadau ystyriol gan gwmnïau sydd o fewn portffolios y Bartneriaeth.

 

a)    Archer Daniels Midland (ADM). Gwelwyd diffygion ym mholisïau ADM oedd yn cyfrannu at ddatgoedwigo parhaus a diffyg amddiffyn llystyfiant brodorol. Nodwyd bod Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu) wedi cynnal trafodaethau gydag ADM ers 2020 ac wedi cyflwyno cynnig ar ran y cyfranddalwyr ynglŷn â’u cyfraniad at ddatgoedwigo a chlirio llystyfiant brodorol yn Ne America. Ym mis Mawrth 2021, tynnwyd y cynnig yn ôl gan fod y cwmni wedi ymrwymo i:

 

·         osod ymrwymiadau â therfyn amser i ddileu datgoedwigo erbyn 2030

·         olrhain y gadwyn gyflenwi soi yn llawn erbyn 2022

·         gynnwys llystyfiant brodorol yn eu Polisi Dim Datgoedwigo

·         gyhoeddi protocol ymgysylltu â chyflenwyr

 

b)    Enel Spa. Adroddwyd bod Enel Spa (cwmni ynni rhyngwladol o'r Eidal) yn weithgar yn y sectorau cynhyrchu a dosbarthu trydan. Wrth arwain ar ymgysylltu cydweithredol o dan y fenter Climate Action 100+, nodwyd bod Robeco wedi ymgysylltu sawl gwaith â rheolwyr gweithredol ac anweithredol y cwmni sydd wedi arwain at ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i ddatblygu egni adnewyddol a digideiddio rhwydweithiau dosbarthu. Fel rhan o’r ymdrechion i gryfhau llywodraethiant cwmnïau ar faterion hinsawdd, llwyddodd Robeco i enwebu cyn Prif Swyddog Gweithredol Wind Power yn DONG Energy, i Fwrdd Enel, ynghyd â grŵp o fuddsoddwyr sefydliadol. Bydd y camau nesaf yn eu trafodaethau ymgysylltu yn ceisio mynd i’r afael ar fwriad y cwmni i gyflawni targed net-sero erbyn 2050, a gosod targed tymor hir ar gyfer Allyriadau Scope 3

 

c)    ING. Adroddwyd bod Banc ING (darparwr gwasanaethau ariannol yn yr Iseldiroedd), yn gosod ffocws cryf ar wasanaethau digidol ar gyfer gwasanaethau bancio safonol. Nodwyd, yn 2018 y cyhoeddodd ING setliad dirwy o 775 miliwn euro oherwydd eu methiant i ganfod materion gwyngalchu arian rhwng 2012 a 2016, ac yn gynharach yn y flwyddyn diddymodd y bwrdd goruchwylio eu cynnig i gynyddu lefelau tâl gweithredol ar ôl pwysau cymdeithasol. Amlygwyd bod Robeco wedi cynnal cyfarfodydd gyda Chadeirydd y Bwrdd i asesu cryfderau a gwendidau ING ac wedi cysylltu gyda’r Buddsoddwyr i geisio adolygu fframwaith rheoli risg. Awgrymwyd penodi cyfarwyddwr annibynnol i’r Bwrdd yn 2019, a pharhau i ganolbwyntio ar oruchwyliaeth annibynnol bellach.

 

Yn ogystal, nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gweithio gyda Chronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol eraill trwy LAPFF sydd yn hyrwyddo'r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol i amddiffyn gwerth tymor hir cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol. Adroddwyd bod y Fforwm yn ymgysylltu'n uniongyrchol â channoedd o gwmnïau drwy adeiladu perthynas iach a chynnal deialog agored ynghylch cyfrifoldeb corfforaethol yn y meysydd o stiwardiaeth, risg hinsawdd, risg gymdeithasol a risg llywodraethu. Ategwyd bod LAPFF yn cydnabod bod 'newid yn yr hinsawdd yn risg buddsoddi sylweddol a brys', ac ystyriwyd LAPFF yn fforwm defnyddiol iawn i sicrhau effaith gadarnhaol - enghreifftiau diweddar o ymgysylltu gyda Shell, Mitsubishi UFJ Financial Group a Sainsbury.

 

Gwnaed sylw pellach bod ymddwyn fel ‘cyfaill beirniadol’ yn fodd o ysgogi newid ac ystyriwyd ymgysylltu fel y dull gorau o geisio newidiadau.

 

2.    A yw Cronfa Pensiwn Gwynedd wedi edrych yn fanwl ar fuddsoddi cyfran o'r gronfa mewn prosiectau lleol?

 

Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid, er yn aelod weddol newydd ar y Pwyllgor Pensiynau, bod y mater o fuddsoddi mewn prosiectau lleol yn un sy’n codi yn rheolaidd mewn cyfarfodydd. Adroddwyd, fel cronfa bensiwn unigol ac yn genedlaethol fel PPC bod nod cyffredin o fuddsoddi'n lleol, ac yn genedlaethol yng Nghymru. Cyfeiriwyd at gyfleoedd posib sydd yn cael eu hystyried ynghyd a derbyn y gellid gwneud mwy o fuddsoddi effeithiol yng Nghymru.

·         prosiectau adnewyddadwy a chymunedol ledled Cymru

·         prosiectau cais twf eraill (bargen y ddinas).

 

Sylwadau pellach i’r ymateb:

·         bod buddsoddi yn lleol yn agos at galonnau yr Aelodau

·         bod angen diffiniad o’r gair ‘lleol’ - angen gwahaniaethu rhwng lleol a phlwyfol. Y byd yn llai, cysylltiadau yn well ac felly ‘lleol’ yn anodd ei ddiffinio

·         bod ymuno a chronfa PPC wedi cryfhau’r gobaith o fuddsoddi yn lleol

 

3.    A yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ystyried risgiau ‘stranded assets’ o ystyried bod datganiad diweddar gan yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn nodi’r angen i atal pob datblygiad tanwydd ffosil newydd eleni?

 

Mewn ymateb, eglurwyd y cyfyngiadau i geisio osgoi cynhesu byd-eang ynghyd a sut mae’r economi yn symud o ynni fel glo, olew a nwy i ddefnyddio ynni adnewyddol gyda llywodraethau yn argymell cwmnïau i leihau allyriadau carbon. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn llwyr ymwybodol o'r risgiau hyn a gyda chymorth ymgynghorwyr y Gronfa, yn ceisio sicrhau bod y rheolwyr asedau, sy'n dewis y stociau, yn buddsoddi mewn cwmnïau sy'n arallgyfeirio eu busnesau tuag at ynni adnewyddol, fel bod y Gronfa yn llai agored i risg. Nodwyd bod y dewis o gwmnïau y mae’r Rheolwyr Buddsoddi yn buddsoddi ynddynt yn cael ei fonitro yn barhaus a’i herio pan fydd angen  gan y Pwyllgor a’r ymgynghorwyr.

 

Yn ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau bod gan PPC Gronfa Global Opportunities, strategaeth datgarboneiddio sy’n eithrio glo, oherwydd fe’i hystyrir fel “stranded asset” - glo ydi'r ffynhonnell ynni lleiaf effeithlon o ran CO2, felly ceisir osgoi glo.

 

4.    A fydd Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gosod amserlen ar gyfer dargyfeirio llwyr cyn

            Cynhadledd Hinsawdd COP26 ym mis Tachwedd 2021

 

            Adroddwyd mai prif nod Cynhadledd COP26 yw:

 

Sicrhau sero net byd-eang erbyn canol y ganrif a chadw o fewn cyrraedd 1.5 gradd’ gan ‘ofyn i wledydd ddod ymlaen â thargedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau 2030 sy’n cyd-fynd â chyrraedd sero net erbyn canol y ganrif’

 

            Er mwyn cyflawni'r targedau estynedig hyn, bydd angen i wledydd:

·         gyflymu'r cyfnod diddymu glo

·         lleihau datgoedwigo

·         gyflymu'r newid i gerbydau trydan

·         annog buddsoddiad mewn ynni adnewyddol.

 

Eglurwyd, fel ymddiriedolwyr cronfeydd pensiwn ei bod yn hanfodol cynllunio'n briodol, gan weithredu a dylanwadu lle bo hynny'n bosibl er budd yr amgylchedd. Nodwyd bod gan Gronfa Bensiwn Gwynedd ddyletswydd ymddiriedol i holl gyflogwyr y cynllun, eu staff a'u pensiynwyr ac felly nid yw'n gwyro am resymau anariannol yn unig. Golygai hyn y bydd penderfyniadau i fuddsoddi neu beidio mewn cwmni penodol neu fath o ased yn seiliedig ar y gallu i gynhyrchu enillion tymor hir cynaliadwy ar gyfer y gronfa, neu rywbeth a fyddai’n cael ei ddylanwadu gan ddull y bydd cwmni'n ei gymryd tuag at newid yn yr hinsawdd.

 

Nodwyd fod y mater ynglŷn â bod yn berchen ar gwmnïau tanwydd ffosil yn fwy cymhleth ei naws na dadfuddsoddi uniongyrchol. Tra bod dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn lleihau’r sylw ar y gronfa bensiwn, nid yw dadfuddsoddi yn ei hun yn cyfarch problemau carbon byd-eang. Ystyrir rhai y bydd tanwydd ffosil y parhau fel rhan hanfodol o’r gymysgedd ynni drwy gefnogi twf economaidd ac incwm drwy’r byd i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at enghraifft lle mae eu defnydd mewn cynhyrchu a gosod tyrbinau gwynt - byddai gwaredu cwmnïau tanwydd ffosil yn debygol o waredu’r cwmnïau ynni gorau sy’n buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddol. Dyma’r cwmnïau sydd yn cefnogi ac yn gosod cyfeiriad a gyrru'r rhaglen trawsnewid ynni. Nodwyd bod ymgysylltu yn fodd mwy effeithiol o annog newidiadau yn hytrach na dadfuddsoddi yn llwyr gan ei fod yn caniatáu i berchnogion asedau megis Cronfa Bensiwn Gwynedd a PPC ymgymryd â pherchnogaeth weithredol a chynnal perthynas tymor hir ar faterion fel hyn.

 

Bydd y Gronfa yn herio’r rheolwyr buddsoddi yn rheolaidd ar y camau maent yn cymryd ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu gan geisio dargyfeirio o danwydd ffosil yn gyffredinol fel rhan o’r strategaeth gyffredinol i leihau allyriadau carbon ar draws pob sector. Ategwyd bod y Gronfa'n datblygu ei strategaeth tymor hwy ar gyfer lleihau allyriadau carbon sydd yn gyson â gofynion disgwyliedig y Task Force for Climate-Related Disclosures (Tasglu Datgeliadau Hinsawdd Cysylltiedig) (TCFD).

 

Cyfeiriwyd at y camau sydd eisoes wedi ei cymryd i leihau allyriadau carbon:

 

·         Cronfa Carbon Isel Black Rock (12% o Gronfa Gwynedd) - cronfa carbon isel pellach wedi ei ddatblygu sydd yn sgrinio tanwydd ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel, ac felly yn lleihau allyriadau carbon ymhellach o 44% (penderfyniad Pwyllgor Pensiynau, 14/10/2020).

·         Cronfa Global Growth (17% o Gronfa Gwynedd) - ymdrechion gan reolwyr buddsoddi o fewn y gronfa i leihau ôl traed carbon. Baillie Gifford wedi datblygu cronfa sydd yn dadfuddsoddi o gwmnïau echdynwyr tanwydd ffosil a darparwyr gwasanaeth tanwydd ffosil (penderfyniad Pwyllgor Pensiynau, 21/01/2021) a Pzena wedi penderfynu gwerthu stociau mewn cwmni a oedd yn cyfrannu i 35% (31/12/20) o allyriadau carbon y gronfa benodol yma.

·         Cronfa Global Opportunities (17% o Gronfa Gwynedd) – PPC wedi gweithredu ‘decarbonisation overlay’ gan Russell Investments sy’n lleihau’r ôl-troed carbon o 25%. Bydd posib gweithredu’r un ‘overlay’ ar drosglwyddiad nesaf i gronfa marchnadoedd datblygol PPC (3% o gronfa Gwynedd) yn Hydref 2021.

·         Russell Investments (Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau PPC) – wedi datgan eu bod am gyflawni safon o allyriadau carbon net-sero yn eu portffolios buddsoddi yn fyd-eang erbyn 2050.

·         Meincnod ESG GRESB – meincnod byd eang ar gyfer ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol o fewn y maes eiddo. Cronfa Gwynedd gyda dyraniad 10% i fuddsoddiadau mewn eiddo gyda rheolwyr eiddo perthnasol, UBS a Black Rock wedi cadw safle rhif 1 a 2 yn ei grŵp o gyfoedion ar gyfer eu sgôr ‘ESG GRESB’ yn 2020.

·         Ymgysylltu â rheolwyr - y Gronfa'n ymgysylltu â rheolwyr, e.e. yn gwirio eu cofnodion pleidleisio, i geisio dylanwadu ar newid yn y cwmnïau y mae'r Gronfa yn buddsoddi ynddynt, yn enwedig PPC a Black Rock

 

Er nodwyd bod Russell Investments (Darparwr Datrysiadau Rheoli Buddsoddi PPC) wedi datgan eu bod am gyflawni safon o allyriadau carbon net-sero yn eu portffolios buddsoddi yn fyd-eang erbyn 2050, nid yw Cronfa Gwynedd wedi ymrwymo i’r datganiad yma nac yn argyhoeddedig y dylid gosod targed mor uchelgeisiol a diffiniol.

 

Amlygwyd bod camau positif wedi eu gwneud o fewn y Gronfa ynglŷn â materion yn ymwneud a’r hinsawdd a’u bod wedi ystyried yr opsiynau o ddifrif. Derbyniwyd y gellid gwneud mwy, ond camau positif eisoes wedi eu cymryd gyda bwriad i barhau fel yn briodol, drwy bwyso a mesur yn ofalus. Ategwyd bod egwyddorion Ffordd Gwynedd yn cael eu gweithredu sy’n annog newid meddylfryd i geisio’r canlyniad gorau.

 

Diolchwyd am y cwestiynau ac am eu cyfraniad i’r Pwyllgor. Diolchwyd am y diweddariad i’r datganiad - drwy gynllunio yn briodol bydd modd cymryd camau amserol wrth fuddsoddi’n gyfrifol fydd, o ganlyniad yn dylanwadu buddion ein hamgylchedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r datganiad ac i’r Cadeirydd lofnodi’r datganiad

 

Dogfennau ategol: