Agenda item

Ystyried diweddariad o adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor fis Ionawr 2020 oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr Dementia ac yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd a’r waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg o’r hyn sydd ar waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad gan yr Aelod Cabinet am y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a’r cyflwr dementia yng Ngwynedd, gan amlygu ei bod yn gyfnod hynod brysur. Amlygwyd fod niferoedd a’r cyflwr dementia ar gynnydd ac er bod cyfnod Covid wedi bod yn heriol, eglurwyd fod gwaith datblygol wedi parhau.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion fod y cyfnod Covid wedi gorfodi’r Adran i ail edrych ar sut maent yn cynnig y gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a rheoliadau Covid, ynghyd a chynnig y gwasanaethau angenrheidiol i’r unigolion. Cadarnhawyd fod Asesiad Anghenion Poblogaeth ar y gweill a fydd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i’r Adran am yr anghenion a’r ddarpariaeth fydd eu hangen yn lleol am y blynyddoedd i ddod. 

 

Cadarnhawyd mai y camau nesaf fydd i ail edrych ar y cynlluniau gwaith sydd yn cynnwys y gwaith sydd yn cael ei wneud gan Dementia Actif, y gwaith cefnogi a’r gwaith addasu cartrefi y Cyngor. Amlygwyd pryderon am gyllid craidd a fydd yn sicrhau y bydd modd ariannu’r gwaith i’r dyfodol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

O ran argaeledd ac addasrwydd staff, cadarnhawyd bod cyflogi staff addas gyda’r sgiliau cywir yn her, ond bod y Cyngor yn gwneud llawer o ymdrech i ddenu staff addas gan ddatblygu rhaglen hyfforddiant priodol.  Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi yn y maes, ond bod angen parhau i  ddenu staff i’r maes ar gyfer unrhyw ddatblygiadau y dyfodol. 

 

O ran argaeledd gwlâu preswyl arbenigol i unigolion a Dementia, eglurwyd fod mwyafrif o wlâu cartrefi’r Cyngor yn llawn a bod rhestrau aros yn bodoli. Oherwydd cyfyngiadau Covid, bu’n rhaid oedi agor uned arbenigol dementia gydag 8 gwely mewn un cartref gyda’r gobaith y bydd yn bosib agor yr uned yn raddol yn y dyfodol agos.  

 

Wrth drafod materion ariannol eglurwyd fod yr Adran yn manteisio ar bob cyfle posib am arian o wahanol ffynonellau. Amlygwyd pryderon am arian tymor hir gan fod grantiau’r Llywodraeth yn dueddol o fod am gyfnod o 2 i 3 blynedd.

 

Nodwyd ei bod yn sefyllfa anodd pan mae unigolyn yn gorfod symud o’r ardal i dderbyn gwasanaeth.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion bod yr Adran yn y broses o gwblhau darn o waith ar leoliadau all sirol sydd yn amlygu i le mae unigolion yn symud i dderbyn gofal. Gall hyn fod o ganlyniad i'r ffaith nad oes darpariaeth addas ar gael yn lleol neu yn ddewis personol.    

 

O safbwynt cynlluniau y Cyngor i gynyddu Unedau Dementia arbenigol yng Ngwynedd, cadarnhawyd bod cynlluniau i ehangu, ynghyd a rhai cynlluniau cyffelyb yn y sector breifat. Amlygwyd Cynllun Hwb Dyffryn Nantlle a Safle Penrhos fel cynlluniau i’r dyfodol gan bwysleisio fod angen rhoi sylw i ardaloedd eraill yn ogystal.  Eglurwyd y bydd y Gwasanaeth yn parhau i weithio ar gynlluniau blaengar gan ail-edrych ar y rhaglen buddsoddi mewn 12-18 mis.

 

PENDERFYNWYD  : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg o’r hyn sydd ar waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.

 

Dogfennau ategol: