I graffu rhaglen y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth digonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu nawr ac i’r dyfodol.
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i gynnwys rhaglen a chamau nesaf y
Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth ddigonol o dai addas yn y
gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu gan ystyried yr heriau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet a
chadarnhaodd mai nod y Gwasanaeth yw cynorthwyo unigolion gydag anableddau
dysgu i fyw mor annibynnol â phosib. Eglurwyd fod gwaith ymchwil wedi ei wneud
sydd yn rhagweld y bydd galw ychwanegol am dai a chefnogaeth yn ystod y blynyddoedd
nesaf. Cadarnhawyd bod rhaglen waith cynhwysfawr yn ei lle sydd yn cynnwys
llawer o waith ar y cyd i ymdrin â’r niferoedd fydd angen cymorth.
Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Anableddau Dysgu at yr argyfwng tai ac yr heriau mae hyn yn
ei roi i’r unigolion sydd eisiau byw yn annibynnol. Eglurwyd fod cyfnod Covid wedi amlygu’r angen
am ddarpariaeth dai a bod yn Adran yn edrych i roi camau yn ei lle i gyfarch yr
angen. Cyfeiriwyd at y system blaenoriaethu anghenion unigolion gan bwysleisio
bod y sefyllfa yn newid yn barhaus.
Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :
Cyfeiriwyd
at y system blaenoriaethu sydd yn bodoli ar draws y Sir, gan nodi
blaenoriaethau
‘Coch’ - yn
ddigartref neu angen tŷ ar unwaith, yn sicr dros y flwyddyn ddwy nesaf
‘Amber’ – yn
byw gyda rhieni/gofalwyr, neu mewn tŷ, ac angen tŷ addas o fewn y
tymor canolig, sef y 3-5 mlynedd nesaf
‘Gwyrdd’ –
angen paratoi ar gyfer yr amser pan fydd angen tŷ yn y tymor hir (5+
mlynedd).
Cadarnhawyd
bod cydweithio da rhwng y Cyngor a’r Cymdeithasau Tai, yn enwedig Adra a
Cynefin, er bod Gwynedd yn fodlon mynd ar ei liwt ei hun, megis y cynlluniau
prynu tai sydd eisoes ar y gweill.
Eglurwyd bod
angen darn o waith pellach i edrych ar y graddau mae rhagweld anghenion
unigolyn yn cael ei ystyried o ran opsiynau tai, er mwyn ‘bandio’ unigolion yn
decach. Adroddwyd ymhellach bod peth
gwaith tracio yn digwydd, o oed 15 i 16 yn unig gan nodi’r angen i wneud gwaith
pellach gydag ystod oedran iau.
O ran y
pryder am brinder byngalos yng nghyd-destun y Grant Cymdeithasol o £9 miliwn,
nodwyd bod trafodaethau wedi cychwyn, ond bod angen ei ddatblygu ymhellach.
Derbyniwyd y
sylw nad oedd dyddiad targed wedi ei
osod yn erbyn y camau gweithredu yn yr
adroddiad a chytunwyd i osod amserlen.
Mewn ymateb
i’r pwyntiau uchod, adroddodd y Pennaeth
Gwasanaeth bod perthynas dda gyda'r Cymdeithasau Tai a bod eu mewnbwn i’r
Strategaeth yn adlewyrchu y galw yn yr asesiad anghenion.
I gloi,
cadarnhaodd yr Aelod Cabinet bod cydweithio da gydag eraill ond bod anghenion
pob unigolyn yn wahanol a bod yr awydd a’r parodrwydd yno i wneud beth sydd ei
angen. Nododd y bwriad i droi hwn yn
Gynllun Gweithredu a diolchodd am y gefnogaeth i symud i’r camau nesaf.
PENDERFYNWYD : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i
gynnwys y rhaglen a chamau nesaf y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, i sicrhau
darpariaeth ddigonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd
Dysgu gan ystyried yr heriau.
Dogfennau ategol: