Agenda item

Estyniad ochr unllawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

  • Dyluniad a deunyddiau yr estyniad yn estronol
  • Effaith ar yr AHNE a Statws Awyr Dywyll

 

Cofnod:

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x 3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig

·         yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau

·         parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol;

·         defnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio meddal;

·         gwella rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig;

·         cyfyngu rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd;

·         cyflawni dyluniad cynhwysol

·         galluogi mynediad i bawb

·         helpu creu amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.

Amlygwyd bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros  yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol.  Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Cais ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn.

·         Pwrpas yr estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.

·         Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd.

·         Trwy agor pen y talcen  a gosod gwydr, y gobaith yw cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen.

·         Byddai'r estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr adeiladwaith gwreiddiol.

·         Bod y cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu â llawer o estyniadau tebyg

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Atgoffwyd yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE

·         Bod bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd

·         Dim angen gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd

·         Bod tri llwybr cyhoeddus yn dod ynghyd ar fuarth yr eiddo

·         Effaith goleuadau llachar ar statws awyr dywyll – y golau yn tynnu sylw

·         Er o faint bychan gall amharu yn sylweddol

·         Bod y bwthyn yn uned gwyliau

·         Erfyn ar y Pwyllgor i wrthod y cais

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:

·         Angen gwarchod adeiladau traddodiadol

·         Angen ystyried statws awyr dywyll

·         Byddai’r addasiad yn newid cymeriad y bwthyn - debyg o osod cynsail beryglus

 

d)    Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Rheolwr Cynllunio bod maint yr estyniad yn ddatblygiad a ellid ei adeiladu heb ganiatâd cynllunio, ond bod y deunyddiau y bwriedir eu defnyddio (gwydr yn yr achos yma) yn gorfodi cyflwyno cais gerbron Pwyllgor. O ran materion dylunio a’r effaith ar yr AHNE, derbyniwyd y rhain fel rhesymau gwrthod teg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau Swyddog yr AHNE, cadarnhawyd mai sylwadau’r Swyddog  oedd wedi eu cynnwys ac nid sylwadau’r Cyd bwyllgor AHNE

 

dd)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Estyniad bychan oedd gerbron

·         Angen ystyried sylwadau proffesiynol y swyddogion

·         Nad oedd uned gwyliau yn fater cynllunio

·         Derbyn yr angen am fwy o oleuni mewn tŷ tywyll

 

·         Bod angen defnyddio amodau cynllunio a rheolau cynllunio i reoli’r bwriad

·         Bod dyletswydd o warchod ‘golwg traddodiadol y tŷ’ i’r dyfodol

·         Bod talcen y tŷ i’w weld yn glir o Nefyn

·         Ni fyddai’n cyd-fynd a gweddill y tai sydd ar Fynydd Nefyn

·         Bydd yr estyniad yn ymddangos fel ‘bwlb’ - yn cael ei weld o bob cyfeiriad

·         Bydd talcen o wydr yn estronol - yn sefyll allan gan greu effaith ar yr awyr dywyll

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen am ganiatâd ar gyfer stafell haul o gerrig a tho gwydr, nodwyd na fyddai angen caniatâd ar gyfer maint yr ystafell ac un o wneuthuriad gorffenedig rendr i gadw edrychiad y tŷ presennol, ond byddai angen caniatad cynllunio ar gyfer un o wneuthuriad gwydr.

 

            PENDERFYNIAD

Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

           Dyluniad a deunyddiau'r estyniad yn estronol

           Effaith ar yr AHNE a Statws Awyr Dywyll

 

 

Dogfennau ategol: