Darparu adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn.
Penderfyniad:
Derbyn y rhaglen waith.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Arweinydd y Cyngor gan nodi bod gweithgareddau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
wedi eu heffeithio’n fawr gan yr haint Covid, ond
wedi ail gydio erbyn hyn. Trosglwyddwyd i’r Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a thywyswyd y Pwyllgor drwy'r adroddiad gan
nodi’r canlynol;
- Bod gan y Bwrdd 4
is-grŵp sy’n cyflawni eu gwaith ar rolau amrywiol, a cynigwyd diweddariad
ar rhain.
- Mewn perthynas â’r
is-grŵp Newid Hinsawdd nodwyd bod gweithdai yn cael eu cynnal ynghyd ag
ymgysylltu o fewn y gymuned.
- Nodwyd bod yr is-grŵp
Cartrefi ar gyfer pobl leol wedi dod i ben gan fod adrannau eraill wedi cymryd
yr awenau a bod gwaith y grŵp bellach wedi ei chyflawni.
- Soniwyd am y ffrydiau gwaith
o dan yr is-grŵp Iechyd Meddwl Oedolion a Phlant a bod y Bwrdd yn
cydweithio efo’r arweinyddion.
- Mewn perthynas â’r
is-grŵp sy’n ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd bod arweinydd erbyn hyn i’r
grŵp yma ac felly bod gwaith wedi ail gychwyn.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Holwyd pam bod yr is
grŵp sy’n ymwneud a thai i bobl leol wedi dod i ben.
- Cynigwyd bod angen ymgysylltu
gyda thrigolion ynghylch newid hinsawdd ag sut i ymdopi a heriau megis
llifogydd.
- Ategwyd at gwestiwn ynghylch
tai i bobl leol a nodwyd bod pryder efo diffyg tai mewn ardaloedd mwy deheuol
yn y Sir, er enghraifft, Tywyn sy’n wynebu argyfwng tai ac sydd efo cymuned
sy’n tyfu.
- Bod swyddi gan Llywodraeth
Cymru yn nodi’r angen am lefel cwrteisi o ran sgiliau Iaith Gymraeg. Angen i’r
defnydd o Gymraeg fod yn naturiol drwy Gymru.
- Bod angen cwota o ran
ail-gartrefi gyda cholli stoc tai a diffyg mewn tai rhent. Holwyd a oedd
cynllun i blannu fwy o goed o fewn Gwynedd fel rhan o’r agenda newid hinsawdd.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nodwyd y canlynol:-
- Bod angen osgoi dyblygu ar
bob cyfrif ac felly dyma pam y penderfynwyd bod y gwaith ar dai i bobl leol
wedi dod i ben. Ategodd arweinydd y Cyngor bod gwaith aruthrol wedi ei wneud o
safbwynt tai.
- Nodwyd bod llawer i ddysgu gan
drigolion a bod bwriad i fynd allan i gynnal deialog o fewn cymunedau i weld
beth sy’n bwysig iddynt. O safbwynt newid hinsawdd, nodwyd bod hyn yn bwnc
trafod i’r dyfodol gyda thrigolion.
- Bod gwaith Is-Grŵp yr
Iaith Gymraeg o ran sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth drwy’r Gymraeg
nid yn unig yn berthnasol i dderbynfeydd ond unrhyw gyswllt gyda’r cyhoedd.
- Bod stoc tai annedd yn
gostwng, dros y pedair blynedd diwethaf roedd oddeutu 600 o dai wedi eu
hadeiladu ac oddeutu 800 wedi eu colli o’r stoc dai. Cynnydd anferthol yn y
nifer yn ddigartref gydag argyfwng o ran lletya, angen rhoi mwy o
gyhoeddusrwydd i’r sefyllfa.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: