Agenda item

I adrodd ar y sefyllfa gyfredol.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd

b)    Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y pwyllgor i’w diweddaru ar y sefyllfa.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair gan y Cynghorydd Catrin Wager yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn atgoffa’r Pwyllgor o’r toriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd ag arweiniodd at Gynghorau cymuned yn cymryd cyfrifoldeb dros y biniau halen.

Eglurwyd bod gwaith wedi ei gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth gan fod ymdeimlad ei fod yn annheg ar gynghorau cymuned fwy gwledig neu ar dirwedd wahanol sydd angen fwy o ddarpariaeth.

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adroddiad yn amlygu trefniadau graeanu sydd eisoes yn bodoli a threfniadau ynghylch ffyrdd prif flaenoriaeth ac ail flaenoriaeth.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

- Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar eu hetholiad.

- Gofynnwyd a fydd modd ystyried cydweithio gydag amaethwyr a chontractwyr lleol yn yr ardal fel bod ganddynt gyflenwad i’w ddefnyddio ac o ganlyniad ni fydd angen biniau halen o amgylch yr ardal.

- Holwyd os oes gan gynghorau cymuned a thref yswiriant ar gyfer damweiniau wrth i bobl nôl halen ynteu ydi hyn yn gyfrifoldeb ar yr Awdurdod.

- Nodwyd mewn rhai ardaloedd bod rhai ffermwyr yn cydweithio efo’r Cyngor ers blynyddoedd a holwyd a fyddai hyn yn parhau yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag lonydd serth o gymharu â threfi mwy gwastad.

- Awgrymwyd y buasai’n tecach i’r gost cael ei rhannu’n gyfartal rhwng cynghorau tref a chymuned fel bod llai o bwysau ar bentrefi llai sydd angen ei ddefnyddio fwy.

- Atgoffwyd un aelod nad oes gaeaf caled wedi bod ers i’r ddyletswydd hwn ddisgyn ar gynghorau cymuned a thref a gofynnwyd beth fyddai’r gost o’r holl ddamweiniau allai ddigwydd petai ddim cyflenwad. Bod angen ail ystyried y trefniadau, dylid rhoi ystyriaeth i ail-sefydlu’r gwasanaeth fel yr oedd gyda’r gwariant yn cael ei ariannu drwy Dreth y Cyngor.

- Cwestiynwyd y targed arbed arian o £100,000 gan nad oedd wedi ei wireddu a holwyd os oes opsiynau gwell i osgoi trafferth i gynghorau cymuned a thref.

- Holodd aelod faint o gynghorau cymuned a thref oedd wedi ymrwymo ac os yw’r Cyngor yn parhau i lenwi biniau mewn cymunedau sydd heb ymrwymo.

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y canlynol:-

- Cytunwyd, os fyddai’r Cyngor yn edrych ar y ddarpariaeth, bod angen cyfle i gydweithio a chadw’r budd yn lleol drwy roi cytundebau i gontractwyr neu ffermwyr lleol.

- O ran yswiriant, nodwyd bod biniau halen yna i’w ddefnyddio ar sail risg yr unigolyn ac felly does dim oblygiad dilynol yn erbyn y cyngor cymuned neu dref.

- Nodwyd os fydd perygl o risg, bod cyfrifoldeb yn parhau ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel.

- Cytunwyd bod angen cysoni’r dull gyfathrebu er mwyn trefnu ail lenwi biniau â halen.

- Nodwyd bod yr adran am edrych ar ffyrdd blaenoriaeth/ ail flaenoriaeth er mwyn sicrhau diogelwch y defnyddwyr.

- Mewn perthynas â’r arbediad arian, eglurodd y Pennaeth ei fod yn awyddus i glywed barn y pwyllgor ar y camau nesaf gyda’r drefn biniau halen.

- Cyfeiriwyd at yr atodiad sy’n nodi bod 46 o gynghorau, sef dros hanner y cynghorau cymuned a thref, wedi ymrwymo i’r cynllun presennol.

PENDERFYNWYD

a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd

b) Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y pwyllgor i’w diweddaru ar y sefyllfa.

 

Dogfennau ategol: