I dderbyn diweddariad ar
raglen waith Chwarter 1 Archwilio Cymru
·
Diweddariad Chwarterol: hyd
at 30 Mehefin 2021
·
Adolygiad Cynnydd Bargen Twf
Gogledd Cymru – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUE)
·
Ymateb Rheolwyr i gynnydd
rhaglen waith BUE
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiadau
Cofnod:
Cyflwynwyd tri adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith
Chwarter 1 Archwilio Cymru.
• Diweddariad
Chwarterol: hyd at 30 Mehefin 2021
• Adolygiad
Cynnydd Bargen Twf Gogledd Cymru – Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru (BUE)
• Ymateb
Rheolwyr i gynnydd rhaglen waith BUE
Croesawyd Alan Hughes (Archwilio Cymru) a Nia Williams (BUE)
i’r cyfarfod i gyflwyno eu sylwadau / ymatebion. Cyfeiriwyd at raglen waith
Archwilio Cymru gan amlygu bod y rhaglen yn grynodeb defnyddiol o’r gwaith
lleol, y gwaith cenedlaethol a’r gwaith sydd yn cael ei weithredu gan arolygwyr
eraill yn ystod y cyfnod.
Yng nghyd-destun adroddiad cynnydd Bargen Twf Gogledd Cymru
(BUE) cyflwynwyd chwe cynnig ar gyfer
ffyrdd y gallai’r cynghorau drwy’r BUE wella eu gallu i gyflawni eu nodau
cyffredinol. Amlygwyd bod BUE wedi sefydlu fframwaith llywodraethu clir, er nad
yw pob elfen yn weithredol, ynghyd a
Swyddfa Rheoli Portffolio gydag adnoddau da i gefnogi a chyflawni’r gwaith.
Cyflwynwyd ymateb i’r chwe maes gwella gan Reolwyr BUE ar
ffurf rhaglen waith gydag eglurhad cryno o’r cynlluniau a’r gwaith sydd wedi ei
osod ar gyfer cyflawni. Trafodwyd y meysydd gwaith yn unigol ac ymhelaethwyd ar
y canlyniadau i sicrhau rheolaeth a chynnydd yn y chwe maes dan sylw.
Diolchwyd am yr adroddiadau
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ymatebion ar heriau
‘byw’ oedd yn wynebu’r Swyddogion, amlygwyd bod llawer o waith yn cael ei wneud
i geisio cadw balans drwy osod amserlen realistig a
pharhau i gynllunio ymlaen. Ategwyd bod achosion busnes pob prosiect yn heriol
iawn a bod sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol rhanbarthol yn cyflwyno heriau
ychwanegol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rheoli risgiau, nodwyd
pwysigrwydd y gofrestr risg ar angen i adnabod risgiau yn fuan ynghyd a
diweddaru ac addasu'r gofrestr yn rheolaidd. Yn ogystal â gorfod sefydlu
prosiectau i adfer yr economi o ganlyniad i covid 19,
cyfeiriwyd at esiampl o ymateb i her o fewn y sector dwristiaeth o fethu cael
staff i weithio yn y sector -cafodd y Prosiect Talent Twristiaeth ei addasu i
ymateb i broblemau’r sector. Yn ychwanegol, amlygwyd bod ffactorau allanol
hefyd yn heriol. Gyda’r prosiectau yn cael eu hariannu gan ddwy lywodraeth
gwelir ofynion y grantiau yn cael eu haddasu ar-hap mewn ymateb i newidiadau ym
mlaenoriaethau’r llywodraethau hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r adnoddau sylweddol
sydd yn cael eu defnyddio i sicrhau llwyddiant BUE a’r angen i Cyngor Gwynedd
(fel yr awdurdod lletya) gael ei ddigolledu yn llawn, nodwyd mai cyfrifoldeb y
swyddogion yw sicrhau bod y symiau cywir yn cael eu hawlio. Ategwyd bod cyllidebau pwrpasol wedi
eu gosod a bod lefelau cyflogaeth yn realistig
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chyngor Busnes Merswy Dyfrdwy yn tynnu allan o’r Bartneriaeth, nodwyd nad
oedd y Cyngor Busnes yn cyfrannu yn ariannol at y Bartneriaeth ac mai pwysau
gwaith un unigolyn oedd y rheswm dros ymadael. Er hynny, amlygwyd bod perthynas dda yn parhau gyda’r
Cyngor Busnes gyda chyfarwyddwr y Cyngor Busnes yn flaengar iawn. Defnyddiwyd
enghraifft o ddigwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ar y cyd i hyrwyddo’r Cynllun
Twf i amlygu partneriaeth iach.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherthynas BUE gyda
Rhaglen Arfor, nodwyd bod perthynas dda rhwng Rhaglen
Arfor a phedwar Cynllun Twf Cymru gyda nifer o
brosiectau tebyg yn cael eu hystyried. Fel modd o osgoi dyblygu gwaith,
amlygwyd bod rhannu ymarfer da am ddatblygiad cynlluniau yn llwyddiannus iawn.
Derbyniwyd yr awgrym y byddai de Gwynedd yn debygol o dderbyn buddion o fod yn
rhan o Gynllun Twf y Canolbarth a bod angen cyfoethogi’r berthynas yma.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiadau
Dogfennau ategol: