skip to main content

Agenda item

I dderbyn yr adroddiad fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau fod cofrestr risg gyflawn yn ei le ac yn cael chynnal, ac ystyried y risgiau uchaf mae’r Cyngor yn eu wynebu.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod cofrestr risg gyflawn yn ei lle ac yn cael ei chynnal
  • Derbyn y risgiau uchaf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu gan argymell cysoni’r drefn sgorio ymysg adrannau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau i’r trefniadau rheoli risg a’r camau gweithredu nesaf. Atgoffwyd yr Aelodau mai un o gyfrifoldebau statudol y Pwyllgor yw adolygu ac asesu trefniadau’r Awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol, yn unol â Rhan 81 (1)(c) Mesur Llywodraeth Lleol (Cymru) 2011.

 

Eglurwyd bod y gofrestr risg yn ddogfen fyw ac yn cael ei diweddaru’n briodol er mwyn adlewyrchu gwir sefyllfa’r Cyngor. Gyda chefnogaeth yr Adran TG, lansiwyd Cofrestr Risg Corfforaethol ar ei newydd wedd ym Mawrth 2021 gan hwyluso’r drefn o gadw’r gofrestr ar Sharepoint yn hytrach na thaflen Excel. Adroddwyd bod y system newydd yn cynnig cyfleuster hwylus i ddefnyddiwr ym mhob adran flaenoriaethu, diweddaru ac adolygu’r gofrestr, ond bod gwaith parhaus angen ei wneud i sicrhau bod defnydd y gofrestr yn gyson ar draws y Cyngor. Ategwyd bod esblygiad trefniadau rheoli perfformiad y Cyngor hefyd yn cynnwys trafodaeth ffurfiol ar y gofrestr risg mewn cyfarfodydd rheoli perfformiad adrannol  unwaith y flwyddyn. Ystyriwyd bod hyn yn ysgogiad i adrannau ddiweddaru’r gofrestr a'r camau gweithredu sy’n cael eu datblygu i liniaru risgiau.

 

Eglurwyd cyd-destun y disgwyliad gan nodi bod 300 o risgiau ar y gofrestr gan gynnwys pedwar heb eu sgorio. Trafodwyd y drefn sgorio a’r angen i liniaru’r risg hwnnw mor isel â  phosib o fewn yr adnoddau ar ymdrech sydd ar gael o fewn yr Adrannau.

 

Gwnaed cais i’r Aelodau gyflwyno sylwadau ynglŷn â’r dull gorau o gyflwyno’r adroddiad i’r dyfodol. Amlygwyd bod 23 risg uchel iawn wedi eu cynnwys fel atodiad i’r adroddiad a phwysleisiwyd mai’r Adrannau eu hunain oedd wedi gosod y sgôr. Derbyniwyd yr angen i gysoni’r drefn ac er bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda phob adran i herio pob sgôr uchel iawn, adroddwyd bod yr Adrannau yn gyfforddus gyda’r sgôr a gyflwynwyd ar y gofrestr.  Atgoffwyd yr aelodau mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yw sicrhau bod trefn rheoli risg mewn lle ac nad oedd hynny’n golygu ystyried pob risg unigol mewn manylder. Er hynny, petai’r Pwyllgor yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth am risg benodol, yna byddai modd gwahodd yr Adrannau i gyfarfod i ymhelaethu ar y risg hwnnw.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         angen adolygu effaith ffyrlo

·         angen adolygu sgôr twristiaeth

·         prinder difrifol mewn darpariaeth breswyl a nyrsio a gofal cartref - angen adolygu’r sgôr ac ystyried risgiau ymadawiad staff o’r gwasanaethau hyn

·         diogelwch staff morwrol – angen blaenoriaethu camerâu corff i’r gwasanaeth

 

Sylwadau ynglŷn â chynnwys a fformat yr adroddiad i’r dyfodol:

·         angen cysoni penawdau

·         angen cysoni sylwadau / risgiau cyn cyflwyno i bwyllgor - rhai o’r risgiau ynwaith bob dydd yr adran’.

·         Angen adnabod y rhai sydd wirioneddol yncatastroffig’ a ‘dinistriol

·         Angen data, gwybodaeth, tystiolaeth galed ar sut mae’r sgôr yn cael ei osod

·         Byddai’n ddefnyddiol cynnwys y sgôr ‘tebygolrwydd’ ac ‘effaith’ yn ogystal â’r sgôr risg, fel bod modd i’r aelodau weld sut mae’r sgôr risg wedi ei gyfrifo

·         Awgrym cyflwyno gostyngiad sgôr fyddai’n adlewyrchu cynlluniau lliniaru wedi eu gweithredu yn llwyddiannus ynghyd a chynnydd mewn sgôr oherwydd ffactorau allanol sydd yn cynyddu’r risg - amlygu effaith a thebygolrwydd

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Pennaeth Cefnogaeth Corfforaethol bod cydnabyddiaeth i rai o’r sylwadau yn cael eu hadlewyrchu ym mlaenoriaethau Cynllun Gwella'r Cyngor e.e., cynllunio’r gweithlu ynghyd ac iechyd a diogelwch staff.

 

Mewn ymateb i awgrym gan aelod fod rhai adrannau yn sgorio risgiau yn uchel iawn fel modd o ddenu arian ychwanegol i’r Adran, nodwyd bod trefniadau ffurfiol yn eu lle i adolygu a herio pob bid ariannol sydd yn cael ei gyflwyno.  Felly, hyd yn oed petai adrannau unigol yn gwneud yr hyn a awgrymwyd byddai’r drefn gynhwysfawr o adolygu bidiau yn adnabod hyn.

 

PENDERFYNWYD
         

·         Derbyn yr adroddiad fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod cofrestr risg gyflawn yn ei lle ac yn cael ei chynnal

·         Derbyn y risgiau uchaf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu gan argymell cysoni’r drefn sgorio ymysg adrannau

 

 

Dogfennau ategol: