Agenda item

I hysbysu’r Aelodau o gasgliadau’r Archwiliwr Dosbarth ac adrodd ar y camau nesaf arfaethedig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cytuno sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen er mwyn cydweithio gyda’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad o sut ac i ba raddau y mae egwyddorion y  ‘Ffordd Gwynedd’ o weithio wedi gwreiddio ar draws y Cyngor
  • Ethol yr Cynghorwyr John Pughe Roberts, Medwyn Hughes, Selwyn Griffiths, Peredur Jenkins a Sharon Warnes yn aelodau o’r Grŵp Tasg a Gorffen
  • Bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn cyflwyno adroddiad o ddarganfyddiadau’r adolygiad i’r Pwyllgor pan fydd wedi ei gwblhau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cefnogaeth Corfforaethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cyflwyno casgliadau Archwilio Cymru i adolygiad a wnaed o Ffordd Gwynedd. Adroddwyd bod Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ym maes gofal cymdeithasol oedolion o fewn y Cyngor yn 2019 ac o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw cytunwyd y byddai’n fuddiol cynnal adolygiad dilynol o gynnydd Ffordd Gwynedd ar draws holl wasanaethau’r Cyngor

 

Ategwyd bod y Pwyllgor Archwilio hefyd wedi amlygu dymuniad i sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i adolygu’r cynnydd sydd wedi ei gyflawni yn enw Ffordd Gwynedd ac yn dilyn trafodaeth mewn Gweithgor Craffu (4/5/21) cytunwyd amseru’r gwaith yn ystod yr Hydref eleni.

 

Yn unol  â dymuniad y Prif Weithredwr i gynnal adolygiad fydd yn adnabod sut ac i ba raddau mae egwyddorion y Ffordd Gwynedd o weithio wedi eu gwreiddio ar draws y Cyngor, ystyriwyd bod sefydlu’r Grŵp Tasg a Gorffen yn amserol gyda’r Prif Weithredwr yn cydweithio gyda’r Aelodau i lunio briff ar gyfer yr adolygiad. Ystyriwyd bod y llythyr a dderbyniwyd gan Archwilio Cymru, a oedd yn crynhoi casgliadau eu hadolygiad, yn gosod rhaglen waith cychwynnol i’r Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Cyfeiriwyd at rai o gasgliadau’r adolygiad. Er bod y Cyngor wedi trawsnewid elfennau o’r ffordd y mae’n gweithio, ystyriwyd bod rhai camsyniadau cyffredin ynghyd a rhwystrau sydd yn atal cynnydd pellach ac yn cyfyngu’r gallu iddo wreiddio fel ffordd reddfol o weithio.

 

Ategodd Alan Hughes (Archwilio Cymru) ei fod yn croesawu ymateb y Cyngor i’r adolygiad ac i’r bwriad o sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen fel modd o adolygu ymhellach.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod canlyniad adolygiad yr Archwilwyr yn crynhoi yn dda'r materion ymarferol sydd angen ailymweld a hwy

·         Croesawu’r adroddiad a’r ymateb positif i hyrwyddo’r camau nesaf

·         Bod modd gwneud gwell defnydd o ddata

·         Bod angen cefnogi swyddogion i ymroi i’w gwaith

·         Bod angen sicrhau bod y ‘Ffordd Gwynedd’ yn cael ei wreiddio

·         Bod darganfyddiadau’r Grŵp Tasg i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio wedi iddynt gwblhau’r adolygiad

·         Bod pryder mewn ymateb rhai staff i ymholiadau trigolion Gwynedd

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod yn croesawu’r sylwadau gan dderbyn bod Ffordd Gwynedd yn waith parhaus ac y dylid cyfeirio unrhyw bryderon am ddiffyg gweithredu fel bod modd gwella’r sefyllfa. Ategodd bod bwriad cynnal sesiwn rhannu gwybodaeth gyda aelodau’r Grwp Tasg a Gorffen fel eu bod yn gwbl gyfarwydd ag hanfodion Ffordd Gwynedd. Nodwyd bod enghreifftiau da diweddar o ddefnyddio data yn effeithiol ond adroddwyd bod cydnabyddiaeth eisoes gan Dim Rheoli’r Cyngor bod lle i wella a bod ychwaneg o waith i wreiddio’r egwyddorion sylfaenol ar draws y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

·      Derbyn yr adroddiad

·      Cytuno sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen er mwyn cydweithio gyda’r Prif Weithredwr i gynnal adolygiad o sut ac i ba raddau y mae egwyddorion y  ‘Ffordd Gwynedd’ o weithio wedi gwreiddio ar draws y Cyngor

·      Ethol y Cynghorwyr John Pughe Roberts, Medwyn Hughes, Selwyn Griffiths, Peredur Jenkins a Sharon Warnes yn aelodau o’r Grŵp Tasg a Gorffen

·      Bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn cyflwyno adroddiad o ddarganfyddiadau’r adolygiad i’r Pwyllgor pan fydd wedi ei gwblhau

 

Dogfennau ategol: