Cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i
reoleiddio sefydliadau rhyw
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i gychwyn
ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw yn
y Sir. Eglurwyd bod yn ofynnol i Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio
sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (“Deddf 1982”), fel y’i
diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009 (“Deddf 2009”). Mae mabwysiadu Atodlen
3 o Ddeddf 1982 yn ddewisol ac yn digwydd fel arfer pan gyflwynir bwriad i agor
busnes o’r fath am y tro cyntaf.
Yn hanesyddol, dim ond ym Mangor y derbyniwyd
cais ble rhoddwyd trwydded i agor busnes
o’r fath ac felly Cyngor Dosbarth Arfon yn unig sydd
wedi gwneud penderfyniad i fabwysiadu Atodlen 3, a ddaeth yn weithredol
1 Awst 1983. (Nid oes tystiolaeth fod Cyngor Dosbarth Dwyfor na
Chyngor Dosbarth
Meirionnydd wedi penderfynu
mabwysiadu Atodlen 3). Ymddengys, yn sgil
ad-drefnu Llywodraeth Leol 1996 nad oes
tystiolaeth bod Cyngor Gwynedd wedi
penderfynu mabwysiadu Atodlen 3 chwaith. O ganlyniad, ardal Arfon yw'r unig
ardal o’r sir lle mae gan y Cyngor yr hawl i drwyddedu
o dan Atodlen 3 (yr hen Gyngor Bwrdeistref
Arfon). Yn ogystal, ers i
Gyngor Bwrdeistref Arfon fabwysiadu’r atodlen yn 1983, mae’r atodlen bellach
wedi ei diwygio
gan adran 27 o Ddeddf 2009 i gynnwys
y gallu i drwyddedu mangreoedd adloniant rhywiol. Gan fod y diwygiad
yn ddewisol ac wedi ei gyflwyno
ar ôl y penderfyniad
i fabwysiadu, nid yw grym
y Cyngor i reoleiddio yn Arfon o dan
Atodlen 3 yn cynnwys y gallu i reoleiddio mangreoedd
adloniant rhywiol ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd y Rheolwr Trwyddedu at y broses ffurfiol
a’r camau allweddol sydd ynghlwm ar broses o fabwysiadu Atodlen 3 ynghyd ar risgiau
i’r Cyngor o beidio â mabwysiadu’r atodlen. Yn unol â’r
Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cyfeiriwyd hefyd at yr asesiad cydraddoldeb
a gwblhawyd oedd yn ystyried yr
effaith cydraddoldeb i’r cynnig. Adroddwyd
bod yr asesiad yn rhoi cyfle
i’r Awdurdod Trwyddedu hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a’r ddyletswydd
economaidd cymdeithasol, drwy sefydlu cyfundrefn
lle mae
sefydliadau yn cael eu rheoli
a’u gweithredu yn gyfreithlon.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Y byddai gosod cyfundrefn yn
sicrhau rheolaeth a threfn
·
Bod angen sicrhau geiriad
addas ar gyfer hysbysebu yn gyhoeddus
·
Bod angen ail adolygu rhai
cymalau o fewn yr asesiad effaith
·
Bod angen sicrhau mewnbwn gan
yr Heddlu a phartneriaid eraill
·
Bod angen cydweithio gyda’r
gwasanaeth cynllunio
·
Byddai peidio mabwysiadau
trefn yn amlygu risgiau a codi pryderon
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â ffioedd priodol, nodwyd er bod y Siop ym
Mangor wedi cau erbyn hyn,
bod Cyngor Dosbarth Arfon wrth fabwysiadau Atodlen 3 wedi pennu'r ffioedd uchaf posib o dan
ddarpariaethau statudol
y Ddeddf. Er hynny, heriwyd
ffioedd y Cyngor ac yn unol â dyfarniad Llys gorfodwyd y Cyngor i osod ffioedd
fyddai yn adennill costau yn unig. Wrth
ystyried mabwysiadu
Atodlen3 i’r dyfodol a threfniadau gosod ffioedd, awgrymwyd y dylai’r ffioedd adlewyrchu costau gosod cyfundrefn newydd yn ei
lle a chostau prosesu ceisiadau.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ymestyn cyfnod yr ymgynghoriad (28
diwrnod yn ymddangos yn fyr a’r ymgynghoriad i’w ryddhau dros Wyliau’r Haf),
nodwyd nad oedd y Ddeddf yn gosod cyfnod amser penodol ar gyfer ymgynghori.
Ystyriwyd bod y cyfnod a gynigiwyd ar gyfer
ymgynghori ar osod trefn yn ddigonol. Dadleuwyd y byddai oedi o gael proses
mewn lle yn amlygu risg.
Mewn ymateb i gwestiwn pam bod y siop ym Mangor wedi cau, nodwyd bod
gostyngiad yn y galw o werthu o siop wedi ei lleoli ar y stryd fawr a bod
cynnydd mewn manwerthu ar-lein.
PENDERFYNWYD:
·
cymeradwyo ymgymryd â’r broses o ystyried mabwysiadu Atodlen 3 o Ddeddf
1982, fel y’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, fel bod cyfundrefn ar gyfer
rheoleiddio a thrwyddedu sefydliadau rhyw drwy’r sir;
·
awdurdodi’r Pennaeth Amgylchedd i ymgymryd â phroses ymgynghori am 28
diwrnod gan gychwyn ar 26 Gorffennaf 2021, gan ddychwelyd y mater i’r Pwyllgor
hwn am benderfyniad ynghylch ag argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu ynghyd ag
argymhellion cysylltiol ar y rhybudd statudol, y dyddiad y daw'r mabwysiadu i rym
a dirprwyo’r grym i’r Pwyllgor hwn bennu ffioedd, gosod amodau safonol a
chynllun prosesu ceisiadau
Dogfennau ategol: