Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Catrin Wager

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.

Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol  un tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.  Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager.

PENDERFYNWYD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn ôl ym mis ai y bu i’r Cabinet gytuno i fynd i ymgynghoriad statudol ar y broseso o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas o rheoli cŵn. Eglurwyd bellach fod yr ymgynghoriad wedi cau ac fod dros 1300 o ymatebion wedi eu derbyn. Diolchwyd i bob unigolyn a gymerodd amser i ymateb a bod yn rhan o’r ymgynghoriad. Tynnwyd sylw at y prif sylwadau o’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys 95% o blaid gwahardd cŵn o lefydd chwarae plant, 93% o blaid gwahardd cŵn o feysydd chwarae a 99% yn credo y dylai perchnogion lanhau ar ôl i’w ci faeddu mewn mannau cyhoeddus, a’i waredu mewn ffordd gyfrifol.

Eglurwyd mai cais i symud ymlaen gyda cyflwyno y GDMC oedd yr adroddiad hwn ond eglurwyd fod yr adran yn awyddus i fynd gam ymhellach. Amlygwyd fod yr ymgynghoriad wedi amlygu fod 80% o’r ymatebwyr yn credu fod baw ci yn broblem o fewn eu cymunedau ac eglurwyd fod hyn yn tystiolaethu beth mae mwyafrif o Gynghorwyd yn clywed ar lawr gwlad. Pwysleisiwyd yr angen i weithredu felly eglurwyd fod yr adroddiad yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella arwyddion, darparu mwy o finiau ac i benodi dau swyddog a fydd yn cael ei cyflogi i fynd i wraidd y broblem. Eglurwyd fod rhain ym awgrymiadau gan drigolion ac felly fod yr ymgynghoriad wedi cynorthwyo i lunio’r rhaglen waith.

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd fod baw ci yn broblem Genedlaethol ac y bydd llawer o waith yn cael ei wneud ar godi ymwybyddiaeth yn benodol ym mis Hydref. 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Datganwyd gefnogaeth i’r adroddiad gan amlygu fod y problem wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu 10 cynghorydd a ymatebodd i’r ymgynghoriad, nodwyd eu bod yn gobeithio fod y niferoedd yn uwch ond heb glicio’r bocs cynghorydd.

¾    Pwysleisiwyd mai problem perchnogion anghyfrifol ydi hwn ac nid y cŵn nac y Cyngor ond unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid. 

¾    Holwyd sut mae’r adran am ddal yr unigolion, eglurwyd y bydd y swyddogion yn mynd allan i’r cymunedau tu hwnt i oriau arferol gwaith, pwysleisiwyd yn ogystal bwysigrwydd newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd gyda mudiadau megis Cadw Cymru’n Daclus. Eglurwyd y bydd yn anodd ond nodwyd fod yr adran yn ffyddiog y byddant yn llwyddiannus dwy adnodd ychwanegol a fydd yn defnyddio cyfuniad o wahanol dechnegau.

¾    Mewn ymateb i gwestiwn am ddefnyddio camerâu mynegwyd fod camerâu personol wedi cael eu defnyddio mewn rhai achosion ac fod modd gosod camerâu os unigolion yn mynd a’i cŵn i’r un lle bob tro.

¾    Nodwyd fod y bid hwn am arian yn flaenoriaeth gan fod y weithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhag ddyfarnwyd y 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23. 

Awdur:Steffan Jones

Dogfennau ategol: