Agenda item
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Rheolwr Harbwr Pwllheli
Chwyddiant Incwm 2022-2023
Ffioedd Morwrol Drafft 2022-2023
Pwyllgor Morwrol – Sefyllfa 28-2-22
Penderfyniad:
I nodi a
derbyn yr adroddiad
Cofnod:
Croesawyd
pawb ac amlygwyd balchder bod cymaint wedi gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. Nodwyd bod y trefniant o
gyfarfod yn rhithiol wedi gweithio yn wych, ac wedi bod o gymorth i’r rhai nad
ydynt yn lleol i fedru mynychu cyfarfodydd yn haws. Serch hynny, cadarnhawyd y bydd yn braf cael
cyfarfod wyneb yn wyneb pan fydd hyn yn cael ei ganiatáu.
Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu ar y cyd
gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Rheolwr Hafan, gan adrodd fel a ganlyn :
Cod
Diogelwch Harbwr
Er mai Y Cynghorydd Gareth Thomas yw Deilydd Dyletswydd y
Cod Diogelwch, mae yn hynod bwysig derbyn mewnbwn Aelodau’r Pwyllgor i gyd i'r
Cod. Cadarnhawyd bod dau archwiliad wedi
eu cynnal gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, oedd yn cadarnhau cydymffurfiaeth
angenrheidiol llawn gyda y Cod.
Crybwyllwyd yr adroddiad am y Ddamwain ar y Fenai fel sail i’r
pwysigrwydd i bawb edrych ar eu Cod ac ystyried pwysigrwydd y Cod a chyfrifoldebau
unigolion er sicrhau cydymffurfiaeth.
Carthu’r
Sianel
Cadarnhawyd bod y gwaith a wnaed gan gwmni ‘Royal Smalls’
wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda oddeutu 20,000 ciwb o ddefnydd llaid yn
llai yn yr harbwr mewnol y flwyddyn hon. Adroddwyd y cafodd rhan fwyaf o’r
llaid ei arllwys fewn y bwnd distyllu a bellach mae’r bwnd yn llawn ac fe fydd
angen cynllunio ar gyfer gwagio’r bwnd distyllu yn fuan. Nodwyd mai’r cam nesaf
fydd carthu basn Hafan ond yn gyntaf bydd angen cwblhau gwaith arbrofi’r llaid
sydd wedi setlo ar waelod y marina. Yn anffodus, nid oedd yr amserlen ar gyfer
2022 yn caniatáu i waith carthu pellach gael ei wneud yn y basn ac felly bydd
yn cael ei raglennu ar gyfer 2023/24.
Cyfeiriwyd at y cyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda ‘Royal Smalls’ i
drafod yr opsiynau o ran beth i’w wneud gyda’r bwnd, gan fod y bwnd gwreiddiol
yn llawn, gan ystyried sut, pryd a faint fydd y gost i wagio y bwnd
distyllu. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y
llaid yn y gorffennol wedi ei gludo i Harlech y tro cyntaf, ac wedi ei adael ar
tir cyfagos yr ail dro, ond erbyn hyn bod lefelau wedi cyrraedd uchder ble na
fyddai modd gwneud hyn eto. Rhagwelir byddai angen gwaredu 20,000 ciwb allan
o’r bwnd distyllu. Cyfeiriwyd hefyd at
opsiynau eraill megis cymysgu tywod a llaid at ddefnydd masnachol, ond wrth
gwrs mae hyn yn dod gyda ei heriau ei hun.
Yn y cyfarfod gyda ‘Royal Smalls’ trafodwyd yr opsiwn o leoli bagiau ar
y tir, ei brosesu a’i sychu ar y safle ac yna ei waredu. Bydd trafodaethau
pellach i ddilyn ar y mater.
Ceg
yr Harbwr
Atgoffwyd y Pwyllgor fod y gwaith carthu ar geg yr Harbwr
yn digwydd pob blwyddyn, o gwmpas mis Mawrth a mis Ebrill. Eleni, mae’r
Gwasanaeth wedi penderfynu byddai mis Mai yn llawer mwy effeithiol i ymgymryd
a’r gwaith. Cadarnhawyd bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy ddefnyddio peiriannau
o’r tir gan storio’r tywod ar y safle bresennol. Nodwyd y bwriedir buddsoddi £60,000 i £70,000
eleni..
Mae maint y domen dywod wedi lleihau yn sylweddol yn
ddiweddar gan werthwyd 20,000 tunnell o dywod er mwyn maethu rhan arfordir ger
Hafan y Mor. Cadarnhaodd y Cadeirydd ei ddymuniad bod unrhyw arian sydd yn dod
yn ôl i gronfa Morwrol drwy werthiant tywod yn cael ei fuddsoddi yng nghronfa
carthu Harbwr Pwllheli, ond adroddwyd gan y Rheolwr Morwrol na fydai modd rhoi
sicrwydd o hyn.
Mewn ateb i gwestiwn am y Strategaeth cadarnhaodd y
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned fod y Strategaeth Garthu yn dal yn fyw
ac yn mynd rhagddi a’r angen ynglŷn â’r grwyn wedi ei adnabod fel bod
angen sylw cyson a rheolaidd.
Cadarnhaodd bod trafodaethau ynglŷn â’r gwaddod, a’r defnydd ohono,
yn parhau i fod ar y gweill.
Cadarnhaodd ymhellach y bydd gwaith peilot yn cychwyn ym Mhwllheli o ran
gwaith atal llifogydd.
Mewn ymateb i sylw am y pryder bod oes y pontŵn yn
dod i ben, adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth
Morwrol eu bod wedi eu cynnal a’u cadw i safon uchel ac yn cael eu hadnewyddu
yn ôl yr angen, a’u bod i’r safon angenrheidiol, ond y bydd angen buddsoddi
ymhellach maes o law.
Mewn ymateb i sylw am garthu, nodwyd nad oes llawer o
gychod wedi ei tynnu allan o’r harbwr yn 2021/22 a bod y dyfnder dwr yn y
marina ac yn y sianel fordwyo yn edrych yn dda.
Diolchwyd am argaeledd canlyniadau yr arolwg a chydnabuwyd y gwaith da a
wnaethpwyd gan y Gwasanaeth.
Materion
Ariannol
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol at y ffigyrau
oedd yn nodi cymariaethau a throsolwg, ond nododd nad oedd wedi mynd i fanylder
yn y ffigyrau oedd yn mynd hyd at ddiwedd Chwefror. Tynnwyd sylw penodol at y canlynol, gan roi
eglurhad fel yn briodol:
Mae gorwariant o ran Eiddo (£19,261), gan ei fod yn
cynnwys costau trydan
Mae trafnidiaeth yn cynnwys cychod, hoist a thractor.
Nodwyd na chaniateir defnydd disel coch yn yr hoist o’r 1af Ebrill ymlaen.
Golygai hyn bydd angen gosod tanc disel newydd ar y safle fel bydd bosib storio
disel gwyn ar y safle ar gyfer yr hoist.
Nodwyd y bydd y sefyllfa yn siŵr o newid cyn diwedd
y flwyddyn ariannol.
Cadarnhawyd bod Harbwr Pwllheli gyda chyllideb llawer is
na’r Hafan yn dangos gwelliant £17,000 yn well na’r targed yn y gyllideb.
Yn ychwanegol, adroddwyd ar £750,000 o elw o’r Hafan, a
theimlwyd ei bod yn bwysig bod arian o’r
math yn aros o fewn y Cyngor ac yn cael ei ddefnyddio er budd trigolion
Gwynedd. Pwysleisiodd byddai adroddiad pellach i ddilyn unwaith bydd y flwyddyn
ariannol gyfredol wedi dod i ben.
Cyfeiriwyd at y daenlen Ffioedd a chadarnhawyd bod y
Gwasanaeth yn parhau i ddisgwyl cadarnhad o’r ffioedd ac yn disgwyl sylwadau y
Swyddog Statudol cyn rhyddhau’r ffioedd yn gyhoeddus. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn argymell
peidio a chodi ffioedd angori blwyddyn. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i gwsmeriaid
ffyddlon, a chwsmeriaid newydd, ac er bod argymhelliad i beidio a chodi ffi
angori blwyddyn nid oedd modd rhewi costau trydan.
O ganlyniad i’r tir a roddwyd i’r Bad Achub, mae llai o
dir ar y lan ar gyfer storio cychod dros y gaeaf. Mae nifer o’r cychod sydd ar y tir ar hyn o
bryd yn perthyn i unigolion nad ydynt yn dal angorfeydd. Nodwyd y bwriad i annog perchnogion y cychod
hyn i’w symud, gan eu hysbysu y bydd y
ffi am y gwasanaeth hwn yn cael ei gynyddu, ac y bydd blaenoriaeth ar y tir yn
cael ei roi i gychod sydd gyda chytundeb blwyddyn ar bontŵn. Cadarnhawyd y bydd hyn yn cael ei ddatblygu
ymhellach maes o law.
Nododd y Cadeirydd a Chynrychiolydd y Gymdeithas
Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli eu balchder bod cytundeb
i adael y ffioedd ar yr un raddfa.
Cwestiynwyd pam fod costau i rai ymwelwyr yn fwy nag eraill (e.e. pris
cwch fodur yn uwch na chwch hwylio). Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod
nifer o gychod yn gwneud defnydd ond ddim yn cyfrannu cymaint, na hyd yn oed
gofrestru gyda’r Cyngor ac mae hyn yn creu anawsterau. O ganlyniad, y cysyniad oedd os nad oeddynt
yn dod i gytundeb hir dymor, eu bod yn cyfrannu mwy mewn ffi ymwelydd. Cadarnhaodd Rheolwr Hafan bod y Cyngor yn
cadw llygaid ar farinas eraill hefyd, gan gadarnhau bod cyfraniad y cychod
pŵer yn llai.
Trafodwyd y gwasanaeth parcio a lansio, a rhagwelwyd
sefyllfa o 100% llawn yn 2022. Nodwyd
bod incwm sydd yn deillio o gychod sydd yn ymweld yn fychan iawn, gyda rhai
cychod angen angorfa ddal neu rhywle i gysgodi rhag storm yn unig. Roedd y Pwyllgor yn ei gweld yn galonogol
clywed y drafodaeth, a nodwyd pryder nad oedd unrhyw angorfeydd gwag, er bod
angorfeydd gwag ym Mhlas Heli. Nodwyd
bod Pwllheli yn harbwr agored heb hawl i droi cwch i ffwrdd.
Adroddodd un aelod o’r Pwyllgor am ei bryder nad oedd
llefydd gwag, gan gyfeirio at incwm o £1.6 miliwn 2021 a tharged o £1.4 miliwn,
oedd yn golygu bod arian dros ben.
Nododd ei ddymuniad cryf i’r arian gael ei fuddsoddi mewn ehangu neu
wneud gwelliannau, megis ansawdd tir neu hyd yn oed gwneud rhywbeth
gwahanol. Erfyniodd ar aelodau y
Pwyllgor i rannu y neges nad oes cynnydd wedi bod yn y ffioedd a nododd ei
obaith fod y dyfodol yn ddisglair.
Roedd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned yn
croesawu y cynnydd mewn niferoedd a nododd ei ddymuniad y byddai y cynlluniau
buddsoddi ar gael maes o law. Nododd
hefyd pan fo’r Hafan yn llwyddiannus ei fod yn dangos nid yn unig ei botensial
ond yn cadarnhau ei fod yn ased economaidd pwysig. Serch hyn, nododd nad oedd yn siŵr a
fyddai modd cadw'r elw i gyd ym Mhwllheli, ond rhoddodd sicrhad y byddai yn
cyflwyno achosion i fuddsoddi. Nododd
aelod arall o’r Pwyllgor fod yr adnodd hwn (Hafan) yn allweddol bwysig a bod
eisiau edrych ar ei ôl ac y dylai unrhyw gynllun hir dymor alluogi y Cyngor i
wneud pethau eraill i wella a datblygu’r safle.
Cyflwynwyd Taenlen III o’r atodiadau i’r Pwyllgor oedd yn
cyfeirio at faterion yn ymwneud a chwyddiant a sgil effeithiau chwyddiant. Nododd aelod o’r Pwyllgor ei anfodlonrwydd
gyda derbyn y ffigyrau chwyddiant mor hwyr yn y dydd, a nodwyd mai sgil effaith
hyn oedd nad oedd modd rhoi cyfle teg i’w hystyried. Ategodd y Cadeirydd y sylw hwn gan nodi
pwysigrwydd derbyn y ffigyrau mewn da bryd, ac aeth ymlaen i holi tybed fyddai
modd cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor yn ystod yr Haf?
Cadarnhawyd gan y Rheolwr Morwrol y byddai galw cyfarfod
yn yr Haf yn anodd gan y byddai angen cyfarfod yn yr haf ar gyfer Harbwr
Pwllheli, hefyd yn gofyn, o ran cysondeb, am gyfarfod ar gyfer harbyrau
Porthmadog, Aberdyfi ac Abermaw ac nad oedd hyn yn ymarferol. Atgoffwyd y Pwyllgor i beidio â chadw
materion o bryder nes y cyfarfod nesaf ac atgoffwyd aelodau y bod modd cysylltu
â’r Swyddogion unrhyw adeg, megis cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar rhwng
cynrychiolydd y Gymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli
a’r Rheolwr Gwasanaethau Morwrol ble trafodwyd nifer faterion oedd yn achosi
pryder i’r Gymdeithas. Nid oes angen
disgwyl tan y Pwyllgor i drafod materion neu i gyflwyno materion sydd o
bryder.
Adroddodd Rheolwr Hafan ar yr Eitemau Gweithredol
fel a Ganlyn :
Cadarnhawyd bod
holl gymhorthydd mordwyo ar ei safle priodol a bod yr holl lusernau a goleuadau
mordwyol yn gweithio. Nid oedd rhybudd i morwyr mewn grym ym Mhwllheli.
Cei Tanwydd
Cadarnhawyd bod y
pwmp tanwydd yn ddeg oed erbyn hyn, ac y bydd pwmp newydd yn cael ei osod yn ei
le yn ystod Mai/Mehefin 2022. O’r 1/4/22
ymlaen bydd bob peiriant neu gerbyd sydd yn gweithredu ar y tir yn gorfod
defnyddio disel gwyn. Mae disel coch yn parhau i gael ei werthu ar gyfer
defnydd gan cwch ar hyn o bryd, ond nid oedd sicrwydd am ba hyd fyddai hyn yn
parhau. Cwestiynwyd argaeledd petrol ar
y pontŵn, a chadarnhawyd bod peipen i’r pwmp wedi ei wasgu a’i bod wedi
bod yn anodd cael peiriannydd allan i roi sylw i’r mater, ond fod y digwyddiad
wedi ei ddatrys erbyn hyn.
O ran y pryder am
y ramp droed i lawr at y cei tanwydd, cadarnhawyd bod pris wedi ei dderbyn am
ramp newydd, ac y bydd y gwaith o eu gosod
yn cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Storio ar y Lan
Adroddodd Rheolwr
Hafan bod 25 cwch wedi ei storio ar y tir ac wedi bod yno ers amser maith ac
nad ydynt yn ymddangos fel eu bod am gael ei lansio i’r dŵr yn y dyfodol
agos. Nodwyd mai yr unig ateb i leihau
niferoedd yw cynyddu y ffi storio ar y tir, yn y gobaith o ryddhau y llefydd
hyn i’r rhai hynny sydd â chytundeb angorfa blwyddyn.
Mewn ymateb i sylw
am y prinder lle, cyfeiriwyd at y cynlluniau o ran Glan y Don, gan nodi bod
mannau arbennig o’r math mor bwysig, a rhaid bod yn fyw i beidio â cholli y
rhain.
O ran trefniadau
maes parcio, cwestiynwyd a fyddai modd cael man caled i barcio neu a fyddai
bosib rhannu maes parcio Plas Heli?
Cadarnhaodd Rheolwr Hafan y
bwriad i geisio gweithio o gwmpas beth sydd ar gael gan efallai edrych yn fwy
manwl ar y compownd. Cadarnhawyd bod
maes parcio Plas Heli ar gael, a bod trefniadau wedi ei gwneud i roi rhwystrau
ar y mynedfeydd. Awgrymwyd efallai nad
oedd y neges wedi treiddio bod y maes parcio ar gael i ddefnyddwyr yr Hafan, ac
o bosib bod angen mwy o drafod ar y mater rhwng y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol
a Rheolwr Plas Heli.
Ystadegau’r Harbwr
Cadarnhawyd bod
410 o gytundebau cychod wedi ei dyrannu, gyda 63 ar y rhestr aros, a’i bod yn argyhoeddi
i fod yn dymor llwyddiannus yn 2022.
Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol am yr angen i gofrestru cychod
a Badau Dŵr Personol, gan nodi bod hyn yn cynnwys y cychod heb angorfa
flynyddol/angorfa pontŵn hefyd.
Adroddodd bod nifer o achosion yn ystod 2021 ble roedd cychod o’r math
heb gofrestru, er ei bod yn angenrheidiol gwneud hyn.
Cadarnhaodd bod
trefniant cofrestru mewn lle ym mhob man arall, ac mae sgil effaith peidio â
chofrestru byddai codi y ffi i gwmnïau parcio a lansio neu gosod rhwystr er
gorfodi cwmnïau i gydymffurfio a materion diogelwch. Cytunwyd i wneud apêl drwy y Cynrychiolydd
Cymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli am yr angen i gychod fod wedi eu cofrestru
ar lein, ac yna dewis o ble maent yn lansio.
Adroddodd Cynrychiolydd
Cymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli bod codiad o 5% ar ffi wasanaeth parcio
a lansio yn dderbyniol, a bod pedwar cwmni sydd yn ymwneud a’r maes gyda eu
henwau da yn y fantol os nad oes cydymffurfiaeth o ran cofrestru. Cadarnhaodd eu bod yn weithredol yn hysbysu
eu cwsmeriaid, gan gynnwys yr angen iddynt gael eu sticeri, ac nid oeddynt yn
teimlo bod mwy y gallent ei wneud.
Cyfeiriwyd at y broblem o ran diffyg argaeledd sticeri a chwestiynodd a
yw Harbyrau eraill yn cael eu gwylio mor agos â Harbwr Pwllheli? Yn ychwanegol, nododd hefyd yr angen i gadw
llygaid ar fadau dwr sydd yn defnyddio llithrfeydd bychain cyfagos. Cyfeiriodd at yr angen am giât newydd i’r
pontŵn gan fod y giât bresennol yn pydru.
Diolchwyd am y
sylwadau a nodwyd y byddai Rheolwr Hafan yn edrych ar y materion a godwyd. Adroddodd Rheolwr Hafan, o ran y pryder am y
badau dwr, bod dau Awdurdod wedi gwahardd badau dwr rhag lansio, ond nid yw
Gwynedd wedi mynd lawr y lon hon hyd yma.
Diolchodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol am y gwaith gan gwmnïau y Gymdeithas Masnachwyr
Morwrol, gan gadarnhau mai Rheoliadau yr
Harbwr yw yr uchod, a nodi ei ddiolchiadau am yr holl ymdrechion wrth gadw at y
Rheoliadau.
Adolygiad yr Harbwr
Hysbyswyd y
Pwyllgor am benodiad Gerwyn Owen i swydd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli a bydd yn ymgymryd â’r swydd ar y tir o 1/6/22. Cadarnhawyd y bydd Hafan/Harbwr yn Uned ar ei
phen ei hun wedyn, ac y bydd newidiadau ar y gweill o ganlyniad. Cadarnhawyd na fydd y Rheolwr Gwasanaethau
Morwrol yn arwain ar y Pwyllgor hwn o’r cyfarfod Hydref 2022 ymlaen.
Gobeithiwyd y bydd
perthnasau yn cael eu gwella yn enwedig yn dilyn sylwadau y Cynrychiolydd
Cymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli eu bod yn teimlo wedi eu dieithrio, gan
honni na fu unrhyw gyfathrebu ynglŷn â’r problemau lansio.
Diolchodd Y
Cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol am ei holl waith a’i gefnogaeth yn y
cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD :
(1) Nodi
a derbyn yr adroddiad.
Unrhyw Fater Arall
Adroddodd y Cynrychiolydd
Clwb Hwylio Pwllheli y bydd rasus hwylio RYA Prydeinig yn cael ei gynnal yn yr
ardal ddechrau Ebrill 2022, ac mae hon yn ddigwyddiad pwysig iawn, ble
disgwylir dros 300 o gystadleuwyr.
Nododd bod llawer o waith cynllunio er mwyn gwneud yn siŵr ei fod
yn ddigwyddiad llwyddiannus, a bod croeso cynnes i bawb ddod draw.
Diolchwyd i bawb
am eu cyfraniadau gwerthfawr.
1.
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
Nodwyd y bydd y
cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 18 Hydref, 2022 am 6.00 pm
Dechreuodd y cyfarfod am
6.00 pm a daeth i ben am 7.45 pm.
CADEIRYDD |
Dogfennau ategol:
- 16025-Adroddiad_Harbwr_Hafan-15-03-22-S-CY, eitem 5. PDF 363 KB
- Chwyddiant Incwm - 2022-23 Pwyllgor Morwrol, eitem 5. PDF 191 KB
- Ffioedd Morwrol 2022-23 - Holl Ffioedd Drafft, eitem 5. PDF 630 KB
- Pwyllgor Morwrol - Sefyllfa - 28-02-22, eitem 5. PDF 176 KB