Talybont Uchaf Farm, Talybont, Bangor, Gwynedd LL57 3YW.
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Gohirio gwneud
penderfyniad llawn ar y cais hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno a derbyn
caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo fel a ragwelir gan y cais
trwydded eiddo.
Os a phan bydd caniatâd cynllunio priodol, bydd yr
Is-bwyllgor hwn yn ailymgynnull i ystyried y cais ymhellach, yn ogystal â
gwneud penderfyniad llawn
Cofnod:
CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – TALYBONT UCHAF FARM, TALYBONT, BANGOR
Ymgeisydd Simon a Caroline Higham
Aelod Lleol Cynghorydd Dafydd Meurig
Preswylwyr Lleol Liz Watkins,
Meinir Jones, David Pritchard, Grace Crowe, Peter Green, Geraint Hughes a Jên
Morris
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Nigel Pegler, Haf Jones a Tina Moorcroft (preswylwyr lleol) ac Aneurin Rhys
(Swyddog Rheolaeth Datblygu - Gwasanaeth Cynllunio)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai
gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer adeilad rhestredig gradd 2 sydd wedi ei drawsnewid i gynnwys
buarth, ystafell barti a man adloniant dan do. Gwnaed y cais mewn perthynas â
gwerthu alcohol ar yr eiddo yn unig; cerddoriaeth byw ac wedi recordio, ar ac
oddi ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos oedd yn
berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a
phryderon o gynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffordd oedd yn arwain at yr
eiddo
Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf
Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
· Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
· Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadauôGwahodd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeiswyr:
·
Mai’r bwriad oedd creu man cyfarfod (venue)
fyddai’n cynnig digwyddiadau unigryw, moethus
safonol gyda lle i aros
·
Nad oes eiddo o’i fath yn lleol – nid yw’n cynnig
yr un gwasanaeth a Hendre Hall
·
Buasai’n rhoi sicrwydd busnes i gwmnïau lleol e.e.,
glanhawyr, siopau blodau
·
Bod dwy lôn yn arwain at yr eiddo gyda bwriad
cyfeirio traffig i ddefnyddio un lôn yn benodol. Y ffordd benodol yma yn addas gyda
mannau pasio gydag arwyddion a chyfarwyddiadau yn cael eu rhannu gydag ymwelwyr
i hyrwyddo’r
defnydd
·
Eu bod yn byw yn yr eiddo gyda theulu ifanc - dim
eisiau ysgogi problemau sŵn
·
Eu bod eisiau cydweithio gyda’r gymuned
·
Eu bod wedi gwahodd y preswylwyr cyfagos i fynychu
cyfarfod i rannu gwybodaeth am y bwriad
ond neb wedi troi fyny
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag amlder derbyn hyd ar 150 o bobl ar y safle, nodwyd nad
oeddynt yn gwybod beth fydd y galw, ond yn rhagweld cynnal hyd at 15 priodas
mewn blwyddyn ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr.
Yr Aelod Lleol:
Cynghorydd Dafydd Meurig
·
Bod teimladau lleol cryf yn erbyn y cais
·
Byddai sŵn yn aflonyddu bywydau pob dydd
cymdogion lleol a thrafnidiaeth ychwanegol yn creu problemau - trafnidiaeth i’r
eiddo eisoes wedi cynyddu ers i fusnes trwsio peiriannau cychod sefydlu ar y
safle
·
Bod dwy lôn i’r safle ond bod y lôn fwyaf cyfleus/
dewisol yn gul iawn
·
Bod angen gwirio os oedd caniatâd cynllunio ar
gyfer y gweithgaredd – caniatâd eisoes ar gyfer Gwely a Brecwast ond y fenter
yma yn sylweddol fwy
·
Nad oedd gan y cwmni barch at drigolion lleol
·
Bod sŵn eisoes yn treiddio o Hendre Hall sydd
wedi ei leoli ochr draw i’r A55 - byddai’r fenter yma yn creu'r un math o sŵn
·
Apelio i’r Is-bwyllgor ohirio gwneud penderfyniad
hyd nes bydd caniatâd cynllunio yn cael ei ystyried
Liz
Watkin
·
Ei bod wedi gweld cynnydd traffig sylweddol ar y
lôn ers iddi ymgartrefu yn yr ardal yn 1992 -
y lôn yn gul iawn gyda chorneli cudd
·
Byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at gynnydd
pellach mewn traffig
·
Nad oedd palmant na golau stryd ar hyd y lôn. Y gwrychoedd yn uchel
·
Nad oedd rhagrybudd o’r cais wedi ei rannu na
bwriad y defnydd wedi ei arddangos mewn lle cyhoeddus
·
Bod gweinyddu alcohol hwyr yn y nos yn debygol o
arwain at ddamweiniau
Meinir Jones
·
Bod y cais yn amlygu amharch llwyr tuag at y
gymuned - mwyafrif o’r preswylwyr cyfagos wedi gwrthwynebu
·
Bod anerchiad yr ymgeisydd yn anghywir - nid yw’r
lôn yn addas. Y lôn yn lôn wledig gul gydag un man pasio ‘swyddogol’ -
mynedfeydd i gaeau yw’r gweddill.
·
Nad yw gosod arwyddion yn lleddfu’r broblem - nid
yw’r arwyddion yn effeithiol - rhaid ystyried diogelwch y gymuned
·
Bod cynnydd sylweddol mewn traffig oherwydd
datblygiadau diweddar – hyn yn achosi niwsans cyhoeddus
·
Loriau danfoniadau i’r busnesau yn cau'r ffordd ar
adegau ac yn malu coed
·
Methu mwynhau mynd am dro gyda beic na phram
oherwydd y traffig. Byddai caniatáu’r drwydded ar gyfer cynnal digwyddiadau ar
y penwythnos yn gwneud hi’n amhosib i rywun gerdded ar hyd y ffordd ar unrhyw
adeg – dydd a nos
·
Busnes yw unig flaenoriaeth yr ymgeisydd - erfyn ar
yr Is-bwyllgor i flaenoriaethu diogelwch cymunedol.
Dafydd Pritchard
·
Sŵn eisoes yn cario o Hendre Hall – byddai
caniatáu’r drwydded yn arwain at greu mwy o sŵn o safle Fferm Talybont
·
Y mesuriadau sŵn a gyflwynwyd yn gamarweiniol
– angen mesur sŵn pobl ac nid sŵn natur a pheiriannau
·
Rhybudd wedi ei osod y funud olaf ar giât - hyn yn
amheus iawn
Peter Green a
Grace Crowe
·
Byddai caniatáu'r drwydded yn uchafu traffig a sŵn
·
Bod mynediad i’r eiddo ar hyd lôn gul iawn
·
Wedi byw yn yr ardal ers 1999 - ardal a oedd yn
llonydd a thawel hyd ddyfodiad busnes trwsio cychod a busnes gwely a brecwast
Fferm Talybont. Byddai cynnig priodasau yn gam rhy bell
·
Y traffig yn pasio eu tŷ - nid yw’r lôn
ddewisol yn ymarferol - dim mannau pasio
·
Bod traffig cyfredol i’r busnesau yn anwybyddu
arwyddion a chanllawiau defnyddio’r lôn a argymhellir - yn annhebygol o gymryd
y lôn anuniongyrchol
·
Byddai caniatáu cerddoriaeth tu allan yn ychwanegu
at gerddoriaeth sydd eisoes yn cario o Hendre Hall – sŵn dyrnu ac ail
adroddus – nid yw cynnig gwneud rhywbeth yn wrthsain yn gwbl bosibl
·
Nad oedd y prawf mesur sŵn a gynhaliwyd yn
ddigon trylwyr – nid oes ystyriaeth i gerddoriaeth ac fe’i cymerwyd ar amser
tawel o’r diwrnod.
Geraint Hughes
·
Yr ardal yn ardal braf – derbyn hynny a bod angen
‘dathlu hynny’
·
Tystiolaeth barn sydd yma – siomedig gydag argymhelliad
y Rheolwr Trwyddedu. Angen ystyried tystiolaeth preswylwyr hefyd
·
Ffawd oedd gweld y rhybudd a oedd wedi ei osod ar
giât ar lôn breifat – nid mewn man cyhoeddus
·
Sail gwrthod y cais fyddai cynnydd mewn sŵn a
thraffig - angen diystyru adroddiad mesur sŵn - nid yw’n adroddiad
annibynnol
·
Bydd cynnydd sylweddol mewn traffig yn ystod y nos
ac ar y penwythnosau (dyma’r unig gyfnodau tawel ar hyn o bryd)
·
Debyg bydd mwy na 15 priodas mewn blwyddyn
·
Adran Priffyrdd heb wrthwynebu cais cynllunio
diweddar ar gyfer y busnes cychod ond gwnaed addewidion yn y cyfnod hwnnw gan
yr ymgeisydd i gyfeirio traffig - nid yw hyn wedi digwydd
·
Llawer o yrwyr yn mynd ar goll wrth geisio cyrraedd
y safle ac felly’n gorfod eu hail gyfeirio. O ganlyniad, defnyddir mynedfa ei eiddo
i droi - hyn yn niwsans cyhoeddus
·
Byddai caniatáu y cais yn newid cymeriad yr ardal
·
Angen cyfiawnder i drigolion
Jên Morris
Nifer
wedi cysylltu gyda Chyngor Cymuned yn amlygu pryderon:
·
Yr effaith bydd y bwriad diweddaraf yn cael arnynt
·
A oes caniatâd cynllunio priodol ar gyfer y bwriad?
·
Natur y drafnidiaeth i’r eiddo - faniau a lorïau
danfoniadau
·
Natur pobl ddieithr i’r ardal yn ymddwyn yn wahanol
– diffyg parch at gefn gwlad
Yn manteisio ar y
cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeiswyr y pwyntiau canlynol:
·
Eu bod yn derbyn sylwadau ac adborth y trigolion ac
yn ategu eu dymuniad i gydweithio gyda’r gymuned leol i leddfu problemau
traffig ac aflonyddwch
·
Eu bod wedi creu grŵp whatsapp i rannu
gwybodaeth a chyfeirio traffig – hyn wedi lleihau’r broblem, ond eu bod yn addo
gwneud mwy
·
Bod bwriad creu lleoliad cyfeillgar (intimate) a
phreifat
·
Yn byw ar y safle ac felly yn bresennol i reoli'r
safle drwy’r amser - yn ystyried lles eu teulu a’r gymuned
·
Bod yr adroddiad mesur sŵn a gyflwynwyd wedi ei
gwblhau ar gyfer y busnes trwsio cychod - ystyriwyd bod sŵn peiriant cwch
yn gymhariaeth dda gyda sŵn band byw
·
Eu bod eisiau bod yn rhan o’r gymuned ac felly yn
parchu pob sylw
Ymneilltuodd yr ymgeiswyr, yr ymgynghorwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r
cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y
gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn
yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD
Gohirio
gwneud penderfyniad llawn ar y cais hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno a
derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo fel y rhagwelir
gan y cais trwydded eiddo. Os a phan fydd caniatâd cynllunio priodol, bydd yr
Is-bwyllgor hwn yn ailymgynnull i ystyried y cais ymhellach, yn ogystal â
gwneud penderfyniad llawn
Diolchwyd i bawb am gyflwyno
sylwadau ar y cais. Rhoddodd
yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a
ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Derbyniwyd sylwadau gan aelodau
o’r cyhoedd, nifer ohonynt yn breswylwyr cyfagos, yn gwrthwynebu’r cais gan
gyfeirio at yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch
cyhoeddus. Yn gryno, mynegwyd pryderon y byddai caniatáu’r drwydded yn debygol
o arwain at gynnydd mewn sŵn a phroblemau traffig. Er sylw, ni chyflwynwyd
gwrthwynebiadau gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub, Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor nac Adran
Priffyrdd y Cyngor.
Wrth
ystyried y sylwadau, daeth i’r amlwg bod pryderon difrifol am ddiogelwch y
ffordd. Y pryderon yn cyfeirio yn benodol at y ffaith bod y lôn sydd yn arwain
i’r eiddo yn gul, gyda llefydd pasio cyfyngedig, heb balmant, heb olau stryd ac
yn gwasanaethu tai eraill. Daeth hefyd i’r amlwg nad oedd gan yr eiddo dan sylw
ganiatâd cynllunio priodol ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo.
Dymuniad
yr Is-bwyllgor oedd gofyn i’r ymgeisydd wneud cais am ganiatâd cynllunio
priodol gan ystyried canlyniad y broses honno cyn gwneud penderfyniad ar gais
am drwydded eiddo. Amlygwyd mai'r rheswm dros hyn oedd bod y broses cynllunio
yn fodd o asesu yn fanwl goblygiadau
diogelwch ffordd fyddai’n codi o ddefnydd bwriedig yr eiddo. Byddai cael
penderfyniad ar ddiogelwch y ffordd yn deillio o ganiatâd cynllunio yn
cynorthwyo’r Is-bwyllgor i ddod i benderfyniad cadarn, ar sail tystiolaeth, bod
y cais yn gydnaws â’r amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus.
Am y rhesymau hyn, roedd yr
Is-bwyllgor o’r farn y byddai’n gynamserol gwneud penderfyniad llawn ar y cais.
Adroddodd
y Cyfreithiwr, gan nad oedd yr Awdurdod
Trwyddedu wedi pennu’r cais, nid oedd hawl gwneud apêl i’r Llys Ynadon.
Dogfennau ategol: