Agenda item

Siop Traeth Becws Islyn, Lon Gam, Nefyn, LL53 6ED

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO SIOP TRAETH BECWS ISLYN, LON GAM, NEFYN

 

Ymgeisydd                             Geraint Jones                                   

 

Lleol    David Robinson

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jane Spencer a Neil Cookson (preswylwyr lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Siop Traeth Becws Islyn, Lôn Gam, Nefyn sy’n gwerthu cynnyrch lleol ar gyrion traeth yn Nefyn. Gwnaed y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo a gwerthu alcohol, ar ac oddi ar yr eiddo. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion trosedd ac anrhefn, ysbwriel yn casglu ar lan y môr a phryderon o gynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffordd a diffyg mannau parcio.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu

           Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Bydd y bwriad yn cefnogi busnesau lleol – yn gwerthu cynnyrch lleol

·         Bydd y bwriad yn creu cyflogaeth leol

·          

·         Wedi rhedeg Becws Aberdaron ers 10 mlynedd heb unrhyw helynt

·         Bod gwerthiant alcohol mewn archfarchnadoedd yn dderbyniol

·         Bod staff yn gwirfoddoli i gasglu sbwriel oddiar y traeth – sbwriel nad yw’n dod yn uniongyrchol o’r siop

·         Bod y siop yn cyfrannu at yr economi leol

·         Bod y busnes yn cael ei redeg yn drefnus a chyfrifol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen i werthu alcohol o 8am, nodwyd, o’r hyn sydd yn cael ei weld yn Aberdaron, bod ymwelwyr yn dueddol o brynu anrhegion o gynnyrch lleol cyn ymadael ar ardal.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddo drwy lythyr.

 

David Robinson

·         Bod ganddo bryderon ynglyn a’r cais – ei fod yn byw 50m o’r eiddo

·         Pryder ynglŷn â gwerthu alcohol ar y traeth a materion diogelwch

·         Bod meinciau wedi eu gosod ar ffordd gyhoeddus yn atal traffig

·         Bod y meinciau yn creu awyrgylch bar

·         Bod yr ymgeisydd yn defnyddio biniau cyhoeddus ar gyfer gwastraff masnachol - angen cadw at weithdrefnau cywir

·         Bod staff yn defnyddio mannau parcio ar gyfer yr anabl

·         Dim palmant ar y lôn sydd yn arwain at y caffi

·         Bod y drwydded yn agored i broblemau newydd

·         Bod y cynnyrch yn arbennig – ni fydd gwerthu alcohol yn ychwanegu at hyn – os rhywbeth yn niweidiol i’r ardal

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod y sbwriel yn dod o’r traeth ac felly cael ei roi mewn biniau sbwriel cyhoeddus

·         Bod angen cadw at ofynion y drwydded neu byddai’n cael ei ddiddymu

·         Bod mater a lleoliad y meinciau wedi ei drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd a bod eu lleoliad yn dderbyniol

·         Nad oedd problemau traffig

·         Codi safon yw’r bwriad nid creu trafferth

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd, y preswylyd lleol a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad. Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.                 Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddwyd trwydded fel a ganlyn:

 

1. Oriau agor

Sul-Sadwrn: 08:00 – 20:00

 

2. Cerddoriaeth wedi recordio tu mewn

Sul-Sadwrn: 08:00 – 20:00

 

3. Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo

Sul-Sadwrn: 08:00 – 20:00

 

4. Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Derbyniwyd sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd (preswylwyr cyfagos) yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at yr amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch cyhoeddus. Yn gryno, mynegwyd pryderon y byddai rhoi'r drwydded yn debygol o arwain at gynnydd mewn troseddu, ysbwriel yn casglu ar lan y môr, traffig a diffyg llefydd parcio. Er sylw, ni chyflwynwyd gwrthwynebiadau gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub, Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor nac Adran Priffyrdd y Cyngor.

 

Amlygodd yr Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r cais yn rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd yr Is bwyllgor o’r farn bod tystiolaeth ddigonol wedi dod i law i brofi bod y problemau hyn yn debygol pe byddai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, ac y byddai’n groes i’r amcanion trwyddedu.

 

Amlygwyd pryder y byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn troseddu gyda’r cais yn tanseilio’r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn. Er hynny, ni chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r honiad tu hwnt i honiadau cyffredinol y gellid eu priodoli i unrhyw eiddo trwyddedig cyfagos, ac ni eglurwyd pam y byddai’r eiddo hwn yn benodol yn debygol o achosi problem sŵn yn fyw nag eraill. Ymddengys bod y sylwadau wedi cael eu cyflwyno ar sail dyfalu ac nid tystiolaeth - nid yw hyn yn sail gyfreithiol dros wneud penderfyniad - yn ôl yr Uchel Lys yn R (on the application of Daniel Thwaites Plc) v Wirral Corough Magistrates Court [2008] EWHC 838 (Admin). Ystyriwyd hefyd na dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan yr Heddlu. Er nad yw absenoldeb gwrthwynebiadau gan yr Heddlu yn pennu’r mater, mae’n safbwynt perthnasol. Petai problem troseddol yn debygol o godi, cyfrifoldeb yr Heddlu fyddai amlygu hyn. O dan yr amgylchiadau, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan o atal trosedd ac anhrefn.

 

Wrth ystyried pryderon ysbwriel, derbyniwyd sylwadau ar sail dyfalu yn hytrach na thystiolaeth gadarn ac ni dderbyniwyd sylwadau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd. O dan yr amgylchiadau, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai problem sbwriel yn codi o ganlyniad i ganiatáu’r drwydded, heb sôn am un fyddai’n cyrraedd trothwy o achosi niwsans cyhoeddus.

 

Wrth ystyried pryderon diogelwch ffordd, diffyg llefydd parcio a chynnydd mewn traffig, derbyniwyd y galla’r pryderon hyn mewn egwyddor fod yn berthnasol i’r amcan o sicrhau diogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd y pryderon hyn yn seiliedig ar ddyfalu yn hytrach na thystiolaeth a heb eu cefnogi gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Priffyrdd y Cyngor. Petai caniatáu y cais yn debygol o greu cynnydd traffig fyddai’n peri risg i ddiogelwch y ffordd, byddai’r Is-bwyllgor wedi disgwyl y byddai sylwadau gan yr asiantaethau swyddogol yn amlygu hynny. Yn wyneb diffyg tystiolaeth a diffyg sylwadau oddi wrth arbenigwyr yn y maes, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r cais yn debygol o danseilio’r amcan o sicrhau diogelwch cyhoeddus.

 

Tra bo’r Is-bwyllgor yn deall a derbyn pryderon trigolion ar y cais, rhaid gwneud penderfyniad ar sail gyfreithlon ac ar dystiolaeth gadarn sydd yn berthnasol i un neu fwy o’r amcanion trwyddedu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu. Caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: