Vaynol
Arms, Pentir, Bangor, Gwynedd
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais
Cofnod:
CAIS
AM DRWYDDED EIDDO VAYNOL ARMS, PENTIR, BANGOR
Ymgeisydd David
Hughes
Aelod Lleol Cynghorydd
Menna Baines
Swyddogion: Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Wyn James a Dr Caroline Lamers (preswylwyr
lleol)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai
gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a) Adroddiad
yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Vaynol Arms, Pentir, Bangor sy’n
dŷ tafarn a bwyty gydag ardal allanol i’r cefn o’r eiddo. Gwnaed y cais
mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo, chwarae
cerddoriaeth byw, lluniaeth hwyr y nos a gwerthu alcohol ar, ac oddi ar yr
eiddo.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn berthnasol i’r amcanion
trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion sŵn a chynnydd mewn traffig a
materion parcio ac awgrymwyd cwtogi oriau gwerthu alcohol hyd 23:00 yn ystod yr
wythnos a Dydd Sul, a hyd 00:00 ar ddyddiau Gwener a Sadwrn. Derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Gwarchod y
Cyhoedd yn amlygu pryder ynglŷn ag oriau chwarae cerddoriaeth byw y tu
allan. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i dynnu’r cais yma yn ôl a gofyn
am gerddoriaeth byw/recordio ar gyfer tu mewn yr eiddo yn unig.
Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn caniatau’r cais yn unol â sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn
ganlynol-:
• Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor
a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
• Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
• Rhoi
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
• Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
• Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded.
• Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr
ymgeisydd:
·
Bod y busnes wedi bod yn defnyddio rhybuddion
digwyddiadau dros dro, ond erbyn hyn eisiau osgoi eu defnyddio
·
Eu bod yn canolbwyntio ar redeg busnes o fwyty yn
hytrach na thafarn
·
Bod trwydded flaenorol y dafarn yn caniatau agor hyd at 01:00 – dim bwriad agor hyd 01:00 –
staff eisiau mynd adre
·
Gweini bwyd yn gorffen am 20:30
·
Bod yr oriau ar gyfer defnydd achlysurol megis
cynnal priodasau a/ neu hybu a chefnogi digwyddiadau cymunedol
·
Wedi cytuno tynnu chwarae cerddoriaeth tu allan o’r
cais
·
Ei fod eisiau cydweithio gyda’r gymuned
Mewn ymateb i
gwestiwn sut y byddai deilydd y drwydded yn tawelu
pryderon y gymuned, nododd bod tafarn wedi bod ar y safle ers blynyddoedd.
Ategodd bod ffenestri newydd wedi eu gosod ynghyd ag arwyddion yn gofyn i
ymwelwyr barchu cymdogion a thawelu wrth ymadael a’r dafarn. Nododd hefyd ei
fod wedi bod yn defnyddio rhybuddion dros dro am dair wythnos heb achos o godi
twrw.
Cadarnhaodd y
Rheolwr Trwyddedu bod yr ymgeisydd wedi diddymu chwarae cerddoriaeth tu allan
oddi ar y cais ac wedi cytuno i amodau Gwarchod y Cyhoedd i reoli sŵn.
Ategodd bod gofynion y drwydded yn is na’r drwydded flaenorol.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr.
Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)
·
Pryderon cychwynnol ynglŷn â sŵn tu allan
bellach wedi eu diwallu yn dilyn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i
addasu’r cais
·
Derbyn bod yr ymgeisydd eisiau canolbwyntio ar
redeg bwyty
·
Cais i’r ymgeisydd ystyried yr amodau sŵn
Aelod Lleol
Cynghorydd Menna Baines
· Croesawu gweld y
dafarn yn ail agor, ond bod pryderon ymysg y gymuned ynghylch a’r oriau agor,
niwsans sŵn a chynnydd mewn traffig. Pwysleisio nad oedd dymuniad gweld y
lle yn cau ar ôl ail agor, ond bod angen trafod y pryderon
· Pryder bod agor yn hwyr yn mynd i fod yn
rhywbeth rheolaidd – derbyn digwyddiadau achlysurol ond a fyddai modd ystyried
lleihau’r oriau?
Mewn ymateb i’r
sylw ynglyn a’r oriau, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod
oriau’r cais yn dderbyniol o fewn ardal gymunedol a bod yr ymgeisydd yn ceisio
am oriau yn fwy na’r bwriad oherwydd hyblygrwydd i wneud defnydd o’r
‘achlysurol’
Yn manteisio ar y
cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Nad yw oriau’r cais dim hwyrach na’r cais blaenorol
·
Ei fod yn fodlon cydweithio gyda Adran Gwarchod y
Cyhoedd i’r dyfodol
·
Cadarnhaodd ei fod yn fodlon derbyn yr amodau
sŵn
·
Ei fod yn rhedeg cwmni bychan oedd yn ceisio gwneud
busnes - bod ganddo ddwy dafarn arall yn yr ardal
Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymgynghorwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r
cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y
partïon â diddordeb ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar
pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn
yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais
Rhoddwyd
trwydded fel a ganlyn:
1.
Oriau agor
Suliau: 11:00 - 00:30
Gwener-Sadwrn: 11:00 – 01:30
2.
Cerddoriaeth fyw
tu mewn
Suliau: 11:00 - 23:00
Gwener-Sadwrn: 11:00 – 00:00
3.
Cerddoriaeth wedi
recordio tu mewn
Suliau: 11:00 - 23:00
Gwener-Sadwrn: 11:00 – 00:00
4.
Lluniaeth hwyr yn
nos
Sul-Sadwrn: 23:00 – 00:00
5.
Cyflenwi alcohol i
yfed ar ac oddi ar yr eiddo
Suliau: 11:00 - 00:00
Gwener-Sadwrn: 11:00 – 01:00
6.
Ymgorfforir y
materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau
ar y drwydded.
7.
Ymgorfforir fel amodau'r drwydded yr amodau rheoli
sŵn a argymhellwyd gan Warchod y Cyhoedd.
Diolchwyd i bawb
am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth
i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu
Rhoddwyd
ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Derbyniwyd
sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd (preswylwyr cyfagos) yn gwrthwynebu’r cais gan
gyfeirio at yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch
cyhoeddus. Yn gryno, mynegwyd pryderon y byddai rhoi'r drwydded yn debygol o
arwain at gynnydd mewn sŵn a thraffig yn yr ardal. Cyflwynwyd hefyd
sylwadau oddi wrth Adran Gwarchod y Cyhoedd yn argymell amodau rheoli sŵn
a chadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno i ddiddymu cais i chwarae
cerddoriaeth fyw tu allan.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth
i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu.
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Amlygodd yr
Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod rhai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r
cais yn rhai diffuant. Fodd bynnag, nid oedd yr Is bwyllgor o’r farn bod
tystiolaeth ddigonol wedi dod i law i brofi bod y problemau hyn yn debygol pe
byddai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, ac y byddai’n groes i’r amcanion
trwyddedu.
Amlygwyd pryder y
byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn problemau sŵn ac o
ganlyniad yn tanseilio’r amcan drwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Er hynny, ni
chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r honiad tu hwnt i honiadau cyffredinol y
gellid eu priodoli i unrhyw eiddo trwyddedig cyfagos, ac ni eglurwyd pam y
byddai’r eiddo hwn yn benodol yn debygol o achosi problem sŵn yn fyw nag
eraill. Ni chyflwynwyd tystiolaeth o’r nifer, dwysedd, amledd o’r digwyddiadau
tebygol o sŵn pe rhoddwyd y drwydded a heb y data hwnnw mae’n amhosib i’r
Is-bwyllgor ddod i benderfyniad bod y problemau a ragwelir yn debygol o
gyrraedd rhiniog ystyriaethau niwsans cyhoeddus o dan gyfraith gwlad. Ymddengys
bod y sylwadau wedi cael eu cyflwyno ar sail dyfalu ac nid tystiolaeth - nid yw
hyn yn sail gyfreithiol i wneud penderfyniad - yn ôl yr Uchel Lys yn R (on the application of Daniel Thwaites Plc) v Wirral Corough Magistrates Court [2008] EWHC 838 (Admin). O
ganlyniad, nid oedd yr Is-bwyllgor yn gweld sail caniatáu trwydded, yn unol â
sylwadau’r preswylwyr, am oriau byrrach na’r hyn y gofynnwyd amdanynt gan yr
ymgeisydd.
Cadarnhaodd yr
ymgeisydd ei fod wedi tynnu ei gais gwreiddiol am drwydded i chwarae
cerddoriaeth fyw tu allan yn ôl a'i fod yn fodlon gyda’r amodau rheoli
sŵn a argymhellwyd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd. O dan yr amgylchiadau,
roedd yr Is-bwyllgor yn trin y materion hyn fel diwygiadau i’r cais.
Wrth ystyried
pryderon diogelwch ffordd, diffyg llefydd parcio a chynnydd mewn traffig,
derbyniwyd y gallai’r pryderon hyn mewn egwyddor fod yn berthnasol i’r amcan o
sicrhau diogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd y pryderon hyn yn seiliedig ar
ddyfalu yn hytrach na thystiolaeth a heb eu cefnogi gan yr Heddlu, y Gwasanaeth
Tân ac Achub, Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Priffyrdd y Cyngor. Petai
caniatáu y cais yn debygol o greu cynnydd traffig fyddai’n peri risg i
ddiogelwch y ffordd, byddai’r Is-bwyllgor wedi disgwyl y byddai sylwadau gan yr
asiantaethau swyddogol yn amlygu hynny. Yn wyneb diffyg tystiolaeth a diffyg
sylwadau oddi wrth arbenigwyr yn y maes, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei
berswadio y byddai caniatáu’r cais yn debygol o danseilio’r amcan o sicrhau
diogelwch cyhoeddus.
Tra bo’r
Is-bwyllgor yn deall a derbyn pryderon trigolion ar y cais, rhaid gwneud
penderfyniad ar sail gyfreithlon ac ar dystiolaeth gadarn sydd yn berthnasol i
un neu fwy o’r amcanion trwyddedu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu.
Caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r
cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr
Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r
Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod
gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: