Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Catrin Wager

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Catrin Wager

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn edrych yn ôl dros gyfnod cofid a diolchwyd yn fawr i’r staff am eu gwaith. Eglurwyd bellach fod yn adran yn edrych i symud yn ôl i weithio ar gynlluniau strategol ac amlygwyd y cynlluniau sydd i’w gweld yng nghynllun y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at gynllun Cymunedau Glan a Thaclus gan amlygu fod y cynllun cyffroes hwn yn cydweithio a thrigolion a chymunedau i ddatblygu Cynllun Gwireddu. Pwysleisiwyd yr angen i weithio gyda unigolion a grwpiau sydd yn awyddus i chwarae rhan megis grwpiau codi ysbwriel neu grwpiau plannu blodau fel bod modd cydweithio i uchafu’r cymunedau. Amlygwyd y pedwar ffrwd gwaith sy’n  rhan o’r cynllun gan nodi mae’r cam cyntaf fydd i ymgysylltu a rhan ddeiliaid a thrigolion Gwynedd a gychwynnwyd y gwaith yn ôl yn Gorffennaf 2021.

 

Eglurwyd fod Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn un o flaenoriaethau eraill yr adran sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Mynegwyd ei bod yn hynod bwysig fod y trigolion yn hyderus yng ngwasanaethau’r adran ac fod pryderon ac ymholiadau yn cael ei trin yn effeithiol.

 

Nodwyd fod y gwaith o newid goleuadau stryd ac arwyddion i dechnegol LED yn parhau. Eglurwyd fod y lampau stryd yn pylu yn ystod y nos ac fod hyn yn gymorth i fywyd gwyllt yn ogystal gan nad oes pryfaid a gwyfynod yn hedfan tuag atynt. Amlygwyd fod prosiect adolygu rheolaeth fflyd y Cyngor yn parhau ac nodwyd fod yr adran wedi ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon. Eglurwyd fod yr adran newydd  archebu cerbyd casglu ysbwriel cyntaf trydan a fydd yn cyrraedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol a fydd yn gam mawr tuag at leihau carbon yn y gwasanaeth.

 

Nodwyd fod gwaith yn yr Adran Ymgynghoriaeth yn mynd yn ei flaen. Amlygwyd fod gwaith yr adran gyda llifogydd yn cynyddu yn ei bwysigrwydd gan fod amddiffyn trigolion Gwynedd yn holl bwysig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod yr adran yn denu llawer o arian ar gyfer cadw safonau y ffyrdd a nodwyd fod yr arian hwn yn dod i ben a holwyd beth fyddai’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod yr adran yn manteisio ar yr arian grant ac ei fod yn aml yn ariannu gwelliannau i Ffyrdd Dosbarth 1 a 2 ac felly fod arian yr adran yn ariannu gwaith ar ffyrdd Dosbarth 3 a di-ddosbarth. Eglurwyd y bydd safonau dosbarth 2 a di-ddosbarth yn disgyn os arian grant yn dod i ben ond fod yr adran yn y broses o lunio cynllun asedau ffyrdd a fydd yn rhoi syniad o safon a blaenoriaethau’r adran.

¾    Pwysleisiwyd yr angen i fyw mewn cymunedau glan a thaclus, ac yn dilyn blynyddoedd o doriadau ac arbedion ei bod yn braf gweld datblygiad yn yr adran.

¾    Holwyd ble yn union mae gwastraff o fewn y sir yn mynd gan fod mwy o sôn bellach am wastraff Prydain yn cael ei weld ar draws y byd. Eglurwyd fod gwastraff Gwynedd yn cael ei drin yn ofalus ac o fewn Prydain. Eglurwyd fod twf wedi bod mewn gwastraff gweddilliol ac ailgylchu gan fod llawer yn gweithio o adref, tra fod lleihad wedi bod mewn gwastraff masnachol.

¾   Diolchwyd i’r adran am eu gwaith caled dros yr haf ond amlygwyd fod nifer o gwynion wedi ei amlygu am chwyn mewn lleoliadau dros yr ardal. Pwysleisiwyd fod yr adran am ail ymweld a lleoliadau gyda chwyn ac y bydd i’w gweld yn y Cynllun Asedau Ffyrdd.

Awdur:Steffan Jones a Huw Williams

Dogfennau ategol: