skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

(1)  Nodi a derbyn yr adroddiad.

(2)  Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

·         Bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.

·         Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a phersonol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.

 

Gan gyfeirio at ran 2 o’r adroddiad – Angorfeydd Porthmadog a Chofrestru Cychod – nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y cafodd 1,302 o Fadau Dŵr Personol (Jetskis) ac 1,308 o Gychod Pŵer eu cofrestru ar-lein ac mewn person, gan roi cyfanswm o 2,610 o gofrestriadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am garthu’r harbwr, eglurodd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         O dan ddeddfwriaeth harbwr Porthmadog, nad oedd yna bwerau i’r Cyngor garthu heb fynd drwy brosesau, a bod Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir wedi tynhau cryn dipyn ar warchod yr amgylchedd, a hefyd wedi tynhau ar allu harbyrau i garthu heb fynd drwy brosesau statudol.

·         Bod harbwr Porthmadog yn harbwr sy’n siltio’n araf deg, gyda’r defnydd yn dod yn ôl i mewn i’r harbwr yn araf deg.

·         Yr amharwyd ar brosesau naturiol yn sylweddol pan adeiladwyd y Cob a Phont Glaslyn.

·         Y rhybuddiwyd ar adeg caniatáu’r pontwns y byddai hynny’n creu ardal o ddŵr distaw, ac y byddai popeth sy’n cael ei gario i lawr yr afon yn cael ei adael ar ôl yn yr harbwr, gan na fyddai yna ddigon o lif i’w gario allan i’r môr.

·         O safbwynt ardal y pontwns, yn sicr ni fyddai’r Cyngor yn carthu ardal lle nad oes ganddo gyfrifoldeb na les drosti.

·         Y byddai’n anodd iawn cael gwared â llaid o harbwr Porthmadog.  Byddai’n rhaid ei sugno a’i bwmpio allan i’r môr, ond byddai’n rhaid ei brofi yn gyntaf, a chael trwydded morol, mae’n debyg, cyn y gellid cychwyn ar y broses.

·         Er ar raddfa dipyn gwahanol, bod cynlluniau i garthu Doc Fictoria, Caernarfon a Hafan Pwllheli yn werth £280,000.

·         Y byddai’n cymryd amser i wneud asesiadau rheoliadau cynefinoedd.

·         Y byddai’n hapus i edrych i mewn i’r mater, ond na ellid rhoi unrhyw addewid y byddai’n bosib’ carthu harbwr Porthmadog yn y dyfodol.

 

Cytunodd aelod â’r sylwadau hyn gan nodi:

 

·         Na chredai fod pwrpas carthu’r harbwr, gan nad oedd y sianel o fewn yr harbwr wedi newid fawr ddim mewn 45 mlynedd.

·         Pe dymunid cynyddu niferoedd yr angorfeydd, y byddai’n llawer gwell gosod pontwns i lawr canol yr harbwr, fel y gallai’r dŵr lifo bob ochr iddynt, ac efallai cael system i gludo pobl at eu cychod.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 i 31/3/21 ac 1/4/21 i 30/9/21 wedi’u hanfon at yr aelodau yn ddiweddar iawn, a manylodd ar y sefyllfa gyfredol gan nodi:-

 

·         Y penodwyd nifer mwy o staff eleni i ymdopi â’r niferoedd a ragwelwyd fyddai’n ymweld â’r arfordir dros yr haf, a’i bod yn braf gweld cymaint yn mwynhau'r hyn sydd gan yr ardal hon i’w chynnig.  Er hynny, mynegwyd siomedigaeth bod rhai pobl wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at y staff.

·         Bod yr angen i chwistrellu dŵr i galedu tywod meddal ger y fynedfa i gerbydau i draeth Morfa Bychan wedi cael effaith ar y niferoedd oedd yn gallu cael mynediad at y traeth ar rai adegau yn ystod yr haf.

·         Oherwydd y pandemig, ein bod £22,500 yn brin o’n targed incwm yn 2020/21, a bod hynny wedi arwain at orwariant o £23,000 yn yr harbwr yn ystod y flwyddyn. 

·         Y rhagwelid gorwariant o ychydig llai na £18,000 yn ein cyllideb eleni.

·         Bod y targed incwm am eleni yn £65,000.  Llwyddwyd i gyrraedd £64,000 hyd yma, a rhagwelid y byddem yn cyrraedd ein targed incwm am y flwyddyn.

·         O ran cynnal a chadw’r harbwr, roedd y gyllideb yn £10,000, ond roedd y gwariant hyd yma wedi bod yn £25,000.  Gan hynny rhagwelid y byddai yna o leiaf £5,000 o wariant ychwanegol, a olygai £20,000 o orwariant ar y pennawd offer a chelfi yn yr harbwr eleni. 

·         Y byddai’n rhaid gwneud popeth sy’n bosib’ yn y gaeaf i leihau costau i’r trethdalwyr.

·         Y byddai’r gyllideb forwrol yn ei chyfanswm yn gallu ymdopi gyda’r £18,000 o orwariant ym Mhorthmadog, ac roeddem yn ffodus hefyd bod 2,610 o gychod wedi cofrestru eleni ac y byddai hyn yn hwb i’r gyllideb incwm.  Hefyd, roedd cynnydd yn niferoedd y cychod yn Harbwr a Hafan Pwllheli (378 o gymharu â’r 280 a ragwelwyd) wedi cynorthwyo’r ffrwd incwm i gyfrannu at y gyllideb.

·         Y byddai’r buddsoddiadau yn parhau ym Mhorthmadog, ond bychan iawn oedd y gyllideb ar eu cyfer.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Morwrol mai ychydig iawn o incwm cofrestru Badau Dŵr Personol oedd yn dod i mewn i gyllideb harbwr Porthmadog, a bod yr incwm yn mynd i’r gyllideb traethau, oni bai bod y badau yn cael eu lansio yn uniongyrchol i mewn i’r dŵr yn Harbwr Porthmadog.  Nodwyd y gellid edrych ar y sefyllfa, ond mae’n debyg bod y maes parcio bychan yng nghefn yr harbwr yn dod â thipyn mwy o incwm i mewn na lansio’r cychod.  Nodwyd hefyd y byddai’r £18,000 o orwariant ym Mhorthmadog yn cael ei sybsideiddio drwy benawdau cyllidebau morwrol eraill.  Holwyd a fyddai’n bosib’ ymestyn y maes parcio er mwyn creu mwy o incwm.  Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Morwrol i wneud archwiliad o’r maes parcio dros y gaeaf er mwyn gwerthuso’r opsiynau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gorwariant ar y gyllideb ‘offer a chelfi’, eglurodd y Rheolwr Morwrol y bu’n rhaid pwrcasu nifer o gadwyni ar gyfer angorfeydd a chymorthyddion mordwyo.  Hefyd, gwariwyd tua £13,000 – £14,000 ar waith cynnal a chadw i ddod â’r cwch ‘Dwyfor’ i safon y Cod Mordwyo. 

 

(2)     Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021, gan gynnwys materion cynnal a chadw, sefyllfa sianel fordwyo a chymhorthydd mordwyo, rhaglen waith y gaeaf ac ardal Borth y Gest.

 

Gan gyfeirio at ran 4 o’r adroddiad, atgoffodd y Rheolwr Morwrol yr aelodau o’r ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â sicrhau bod Badau Dŵr Personol (sy’n cynnwys jetskis), yn dod dan ddeddfwriaeth.  Nodwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar 1 Tachwedd, 2021. 

 

Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cynnig 4 opsiwn, sef:-

 

·         Opsiwn 1 – gwneud dim

·         Opsiwn 2 – cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol o’r newydd (fyddai’n cymryd blynyddoedd)

·         Opsiwn 3 – deddfu dan y Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 (opsiwn sy’n cael ei ffafrio)

·         Opsiwn 4 – newid y diffiniad o ‘long’ dan Ddeddf Llongau Masnach 1995

 

Gofynnwyd am gefnogaeth y pwyllgor i opsiwn 3.  Cefnogwyd yr opsiwn hwn gan yr aelodau, a gofynnwyd hefyd am gynnwys cynffon yn yr ymateb yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr, a hefyd yn galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a phersonol.

 

Diolchodd y Rheolwr Morwrol i Robert Owen, Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol, am y cyfleoedd mae’n roi, fel gwerthwr Badau Dŵr Personol a chychod pleser, i bobl dderbyn hyfforddiant.  Nodwyd bod y niferoedd sy’n cymryd rhan yn y cyrsiau hyfforddiant ar gynnydd, a gofynnwyd iddo gyfleu diolchiadau’r pwyllgor harbwr i’w hyfforddwyr yn ogystal.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol ymhellach mai ychydig iawn o gwynion oedd yn cael eu derbyn ynglŷn â Badau Dŵr Personol yn ardal Porthmadog / Morfa Bychan, a bod pobl yn cydymffurfio â’r rheoliadau ar y cyfan.  Nododd yr Harbwrfeistr fod y symudiad tuag at gofrestru cychod pŵer a Badau Dŵr Personol ar-lein wedi tynnu llawer o waith oddi ar yr Adran a’r staff ar y traethau.

 

Awgrymodd Robert Owen, Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol, y gallai eu prif hyfforddwr, sy’n rhedeg busnes o’r iard gychod, wneud cyfraniad gwerthfawr i waith y pwyllgor harbwr.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol fod yna un sedd wag ar y pwyllgor, ond, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r cynrychiolwyr ffitio i mewn i’r categorïau aelodaeth sy’n bodoli eisoes.  Cytunodd i drafod ymhellach gyda’r Cadeirydd a’r aelod er mwyn mapio’r ffordd ymlaen.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Nodi a derbyn yr adroddiad.

(b)       Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

·         Bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.

·         Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a phersonol.

 

 

Dogfennau ategol: