Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn nes ymlaen yn y
flwyddyn.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu cyfeiriad y Fframwaith arfaethedig,
a’r camau sydd wedi’u gwneud yn ystod Cyfnod 1 (Gosod y Sylfeini). Rhannwyd cyflwyniad ar sgrin hefyd i
amlinellu prif agweddau’r adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Diolchwyd
i’r Gwasanaeth am eu holl waith, a nodwyd y cafwyd cychwyn cadarn a chalonogol
iawn i’r broses.
·
Cefnogwyd
cyfeiriad y gwaith a nodwyd bod y Gwasanaeth wedi adnabod nad yw pob ardal yr
un fath, a bod angen cynlluniau gwahanol sydd wedi’u teilwrio i anghenion
gwahanol yr ardaloedd hynny, a’u bod hefyd yn gweld y Cyngor yn bartner gyda’r
cymunedau lleol.
·
Croesawyd
y ffaith bod y Gwasanaeth yn gweld y broses fel un â pharhad iddi, yn hytrach
nag un digwyddiad.
·
Nodwyd
bod y datganiadau ardal yn glir, yn gryno ac yn addysgiadol, ac er yr amheuid
dilysrwydd rhai ffigurau, roeddent yn fan cychwyn deialog pellach.
·
Bod
rhaid sicrhau deialog gyson ac effeithiol rhwng y Cyngor a chymunedau a mentrau
cydweithredol gyda’r nod o adfywio’r bröydd.
·
Bod
peth pryder bod hwn eto’n un o’r adroddiadau hynny sydd ar y gweill am gyfnod,
ac yn hel llwch wedyn.
·
Y
croesaid y ffaith bod yna 48 o randdeiliaid yn Llŷn, ond awgrymwyd y
dylai’r Badau Achub gael eu cynnwys hefyd, gan eu bod yn weithgar iawn a
chanddynt gyfraniad a llais ynglŷn ag adfywio bro.
·
Nad
oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at ysgolion cynradd / uwchradd, a gwrando ar
lais yr ifanc.
·
Nad
oedd cyfeiriad at gyflogwyr mawr yn ardal Porthmadog / Penrhyndeudraeth, megis
Portmeirion a Rheilffordd Ffestiniog, na chyfeiriad chwaith at Safle
Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, fydd hefyd yn gweithio i adfywio ein
hardaloedd.
·
Bod
y cynghorau cymuned a thref yn allweddol i’r drafodaeth, a bod angen i’r Cyngor
hwn gydweithio â hwy a pheidio meddwl ei fod yn uwch na hwy, a’u bod hefyd yn
medru codi arian i wario yn eu cymunedau eu hunain.
·
Bod
y defnydd o’r matrics RACI i’w groesawu, gan ei fod yn fodd o hwyluso
ymgynghoriad lle mae yna lawer o randdeiliaid, drwy adnabod y rhanddeiliaid
allweddol ar gyfer pobl agwedd.
·
Mai
un o fanteision y Fframwaith oedd bod modd i’r cymunedau gyfeirio at y
dystiolaeth i’w cynorthwyo i ddenu nawdd a grant.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Fel
rhan o’r trefniadau ar gyfer y gwaith ymgysylltu, byddai fersiynau papur o’r
holl ddeunydd ar gael mewn gwahanol swyddfeydd.
Roedd y gwasanaeth yn awyddus hefyd i weld cyswllt gyda’r llyfrgelloedd
o ran darpariaeth a chefnogi petai aelodau o’r cyhoedd yn awyddus i gyfrannu at
y gwaith, ond yn ansicr o’r trefniadau ar y platfform digidol. Byddai angen casglu data hefyd o ran manylion
yr unigolion a’r grwpiau sy’n cyflwyno sylwadau er mwyn gwneud asesiad effaith
cydraddoldeb ar y gwaith.
·
Y
cytunid bod yr amserlen eithaf heriol a osodwyd yn wreiddiol ar gyfer y gwaith
wedi llithro rhywfaint oherwydd y pandemig.
Bwriedid ymgymryd â’r gwaith ymgysylltu rhwng hyn a Mawrth, gyda thoriad
dros y cyfnod cyn etholiad, gan ail-afael yn yr ymgysylltu o fis Mai tan fis
Mehefin. Ni fyddai’r gwaith yn cael ei
atal dros y cyfnod cyn etholiad, ac roedd tipyn o wybodaeth ar gael eisoes, fel
bod modd cychwyn siapio’r cynlluniau gweithredu. Y nod oedd cwblhau’r cynlluniau gweithredu drafft
ar gyfer yr 13 ardal erbyn diwedd yr haf.
·
Bod
prosiectau yn aml yn adlewyrchu gofynion canllawiau rhaglenni adfywio, ond yn
wahanol i hynny, roedd ymgais yma i ofyn beth yw’r anghenion a’r blaenoriaethau
lleol, a defnyddio hynny er mwyn targedu grantiau. Roedd yna nifer o ffynonellau grant ar gael,
a phe gellid profi bod yna angen yn lleol, a bod yna gefnogaeth yn lleol i
ddatblygu’r cynlluniau, byddai hynny’n gosod sail ar gyfer cynlluniau o’r
fath. Roedd yn debygol y byddai rhai o’r
blaenoriaethau yn berthnasol i adrannau’r Cyngor hefyd.
·
Y
cytunid yn llwyr na ddymunid gweld y gwaith yn hel llwch dros y blynyddoedd, a
dyna pam bod angen i hyn fod yn broses barhaus o gydweithio gyda’r mudiadau a’r
bobl yn yr ardaloedd i gyd-gynhyrchu’r atebion, yn hytrach na bod yn un
digwyddiad, gydag adroddiad ar ei ddiwedd.
·
Nad
oedd pob un o’r cynghorau cymuned a thref wedi ymateb i’r holiadur, a bod
rhagor o waith i’w wneud eto ynglŷn â hynny, gan gydnabod bod y cyfnod
ymateb wedi bod yn fyr.
·
Y
trefnwyd sesiynau drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r ysgolion i holi barn
disgyblion, e.e. drwy’r cynghorau ysgol, a gobeithid gallu adeiladu ar hynny yn
ystod Gwedd 2.
·
Yn
sgil lansio’r platfform digidol a’r pecynnau papur, bwriedid ceisio cysylltu
gyda sefydliadau lleol i ddwyn y gwaith i’w sylw, ac i wahodd sylwadau a
thrafodaeth ar y blaenoriaethau lleol.
Byddai Gwedd 2 yn dilyn patrwm eithaf tebyg i Gwedd 1, drwy ganolbwyntio
ar 3-4 cwestiwn o ran yr hyn sy’n dda, beth sydd ddim cystal a beth ydi’r
meysydd blaenoriaeth. Ceisid cysylltu
gyda phob sefydliad a adnabuwyd yn y gobaith y byddai’r rhaglen rhwng hyn a
Mai/Mehefin yn rhoi cyfle i bawb fwydo sylwadau i mewn i’r gwaith.
·
O
ran cydbwyso blaenoriaethau lleol gyda’r angen i gael tegwch ar draws Gwynedd
gyfan, y rhagwelid bod dwy ran i’r Fframwaith, sef yr ochr sirol a’r gyfres o
gynlluniau gweithredu/cynlluniau ardal.
Yn hanesyddol, byddai rhywun wedi datblygu dogfen sirol a cheisio trosi
hynny i gynlluniau lleol, ond roedd ymgais yma i wneud pethau ychydig yn
wahanol, fel bod yr anghenion lleol yn bwydo i mewn i’r darlun sirol
hefyd. O ran y cydbwysedd, credid y
byddai rhai agweddau yn aros yn lleol, ond byddai angen gogwydd sirol i
agweddau eraill, megis Trafnidiaeth, oherwydd bod y fframwaith trafnidiaeth yn
debygol o fod yn cysylltu mwy nag un ardal.
Roedd yn anodd iawn dweud sut i gael cydbwysedd, a byddai’n rhaid aros i
weld beth fyddai’n deillio o’r gwaith o ran beth sy’n gwneud synnwyr iddo fod
yn benodol ac yn lleol i ardal benodol, a beth sydd, o bosib’, yn fwy sirol ei
naws. Ni ragwelid rhaniad adnoddau,
mae’n debyg, ond byddai’n rhaid aros i weld beth ddaw yn ôl.
·
O
ran yr ymatebion, rhagwelid y byddai llunio blaenoriaethau lleol yn broses
fyddai’n galw am gonsensws. Yn amlwg,
roedd rôl bwysig i sefydliadau statudol, fel cynghorau cymuned a thref, a
byddai angen ystyried beth yw agweddau a barn y prif sefydliadau i gyd-fynd â
hynny. Roedd yn anodd cynllunio ar gyfer
sefyllfaoedd lle gallai grwpiau bychain llafar geisio gor-ddylanwadu ar
adborth, ond efallai bod angen hefyd ystyried y dystiolaeth yn y cyd-destun
hwn. Er nad yn berffaith, gallai’r data
hefyd fod o gymorth weithiau i weld os yw problem yn un sy’n cael ei diffinio
yn yr ardal honno. Gan hynny, roedd yn
debygol o fod yn gymysgedd o bethau, yn hytrach nag un ateb.
·
Bod
gan craffu rôl bwysig iawn yn natblygiad y Fframwaith Adfywio gan y byddai’n
broses barhaus i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn
nes ymlaen yn y flwyddyn.
Dogfennau ategol: