Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu cyfeiriad y Fframwaith arfaethedig, a’r camau sydd wedi’u gwneud yn ystod Cyfnod 1 (Gosod y Sylfeini).  Rhannwyd cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Gwasanaeth am eu holl waith, a nodwyd y cafwyd cychwyn cadarn a chalonogol iawn i’r broses. 

·         Cefnogwyd cyfeiriad y gwaith a nodwyd bod y Gwasanaeth wedi adnabod nad yw pob ardal yr un fath, a bod angen cynlluniau gwahanol sydd wedi’u teilwrio i anghenion gwahanol yr ardaloedd hynny, a’u bod hefyd yn gweld y Cyngor yn bartner gyda’r cymunedau lleol.

·         Croesawyd y ffaith bod y Gwasanaeth yn gweld y broses fel un â pharhad iddi, yn hytrach nag un digwyddiad.

·         Nodwyd bod y datganiadau ardal yn glir, yn gryno ac yn addysgiadol, ac er yr amheuid dilysrwydd rhai ffigurau, roeddent yn fan cychwyn deialog pellach.

·         Bod rhaid sicrhau deialog gyson ac effeithiol rhwng y Cyngor a chymunedau a mentrau cydweithredol gyda’r nod o adfywio’r bröydd.

·         Bod peth pryder bod hwn eto’n un o’r adroddiadau hynny sydd ar y gweill am gyfnod, ac yn hel llwch wedyn.

·         Y croesaid y ffaith bod yna 48 o randdeiliaid yn Llŷn, ond awgrymwyd y dylai’r Badau Achub gael eu cynnwys hefyd, gan eu bod yn weithgar iawn a chanddynt gyfraniad a llais ynglŷn ag adfywio bro.

·         Nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at ysgolion cynradd / uwchradd, a gwrando ar lais yr ifanc.

·         Nad oedd cyfeiriad at gyflogwyr mawr yn ardal Porthmadog / Penrhyndeudraeth, megis Portmeirion a Rheilffordd Ffestiniog, na chyfeiriad chwaith at Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, fydd hefyd yn gweithio i adfywio ein hardaloedd.

·         Bod y cynghorau cymuned a thref yn allweddol i’r drafodaeth, a bod angen i’r Cyngor hwn gydweithio â hwy a pheidio meddwl ei fod yn uwch na hwy, a’u bod hefyd yn medru codi arian i wario yn eu cymunedau eu hunain.

·         Bod y defnydd o’r matrics RACI i’w groesawu, gan ei fod yn fodd o hwyluso ymgynghoriad lle mae yna lawer o randdeiliaid, drwy adnabod y rhanddeiliaid allweddol ar gyfer pobl agwedd.

·         Mai un o fanteision y Fframwaith oedd bod modd i’r cymunedau gyfeirio at y dystiolaeth i’w cynorthwyo i ddenu nawdd a grant.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Fel rhan o’r trefniadau ar gyfer y gwaith ymgysylltu, byddai fersiynau papur o’r holl ddeunydd ar gael mewn gwahanol swyddfeydd.  Roedd y gwasanaeth yn awyddus hefyd i weld cyswllt gyda’r llyfrgelloedd o ran darpariaeth a chefnogi petai aelodau o’r cyhoedd yn awyddus i gyfrannu at y gwaith, ond yn ansicr o’r trefniadau ar y platfform digidol.  Byddai angen casglu data hefyd o ran manylion yr unigolion a’r grwpiau sy’n cyflwyno sylwadau er mwyn gwneud asesiad effaith cydraddoldeb ar y gwaith.

·         Y cytunid bod yr amserlen eithaf heriol a osodwyd yn wreiddiol ar gyfer y gwaith wedi llithro rhywfaint oherwydd y pandemig.  Bwriedid ymgymryd â’r gwaith ymgysylltu rhwng hyn a Mawrth, gyda thoriad dros y cyfnod cyn etholiad, gan ail-afael yn yr ymgysylltu o fis Mai tan fis Mehefin.  Ni fyddai’r gwaith yn cael ei atal dros y cyfnod cyn etholiad, ac roedd tipyn o wybodaeth ar gael eisoes, fel bod modd cychwyn siapio’r cynlluniau gweithredu.  Y nod oedd cwblhau’r cynlluniau gweithredu drafft ar gyfer yr 13 ardal erbyn diwedd yr haf.

·         Bod prosiectau yn aml yn adlewyrchu gofynion canllawiau rhaglenni adfywio, ond yn wahanol i hynny, roedd ymgais yma i ofyn beth yw’r anghenion a’r blaenoriaethau lleol, a defnyddio hynny er mwyn targedu grantiau.  Roedd yna nifer o ffynonellau grant ar gael, a phe gellid profi bod yna angen yn lleol, a bod yna gefnogaeth yn lleol i ddatblygu’r cynlluniau, byddai hynny’n gosod sail ar gyfer cynlluniau o’r fath.  Roedd yn debygol y byddai rhai o’r blaenoriaethau yn berthnasol i adrannau’r Cyngor hefyd.

·         Y cytunid yn llwyr na ddymunid gweld y gwaith yn hel llwch dros y blynyddoedd, a dyna pam bod angen i hyn fod yn broses barhaus o gydweithio gyda’r mudiadau a’r bobl yn yr ardaloedd i gyd-gynhyrchu’r atebion, yn hytrach na bod yn un digwyddiad, gydag adroddiad ar ei ddiwedd.

·         Nad oedd pob un o’r cynghorau cymuned a thref wedi ymateb i’r holiadur, a bod rhagor o waith i’w wneud eto ynglŷn â hynny, gan gydnabod bod y cyfnod ymateb wedi bod yn fyr. 

·         Y trefnwyd sesiynau drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r ysgolion i holi barn disgyblion, e.e. drwy’r cynghorau ysgol, a gobeithid gallu adeiladu ar hynny yn ystod Gwedd 2.

·         Yn sgil lansio’r platfform digidol a’r pecynnau papur, bwriedid ceisio cysylltu gyda sefydliadau lleol i ddwyn y gwaith i’w sylw, ac i wahodd sylwadau a thrafodaeth ar y blaenoriaethau lleol.  Byddai Gwedd 2 yn dilyn patrwm eithaf tebyg i Gwedd 1, drwy ganolbwyntio ar 3-4 cwestiwn o ran yr hyn sy’n dda, beth sydd ddim cystal a beth ydi’r meysydd blaenoriaeth.  Ceisid cysylltu gyda phob sefydliad a adnabuwyd yn y gobaith y byddai’r rhaglen rhwng hyn a Mai/Mehefin yn rhoi cyfle i bawb fwydo sylwadau i mewn i’r gwaith.

·         O ran cydbwyso blaenoriaethau lleol gyda’r angen i gael tegwch ar draws Gwynedd gyfan, y rhagwelid bod dwy ran i’r Fframwaith, sef yr ochr sirol a’r gyfres o gynlluniau gweithredu/cynlluniau ardal.  Yn hanesyddol, byddai rhywun wedi datblygu dogfen sirol a cheisio trosi hynny i gynlluniau lleol, ond roedd ymgais yma i wneud pethau ychydig yn wahanol, fel bod yr anghenion lleol yn bwydo i mewn i’r darlun sirol hefyd.  O ran y cydbwysedd, credid y byddai rhai agweddau yn aros yn lleol, ond byddai angen gogwydd sirol i agweddau eraill, megis Trafnidiaeth, oherwydd bod y fframwaith trafnidiaeth yn debygol o fod yn cysylltu mwy nag un ardal.  Roedd yn anodd iawn dweud sut i gael cydbwysedd, a byddai’n rhaid aros i weld beth fyddai’n deillio o’r gwaith o ran beth sy’n gwneud synnwyr iddo fod yn benodol ac yn lleol i ardal benodol, a beth sydd, o bosib’, yn fwy sirol ei naws.  Ni ragwelid rhaniad adnoddau, mae’n debyg, ond byddai’n rhaid aros i weld beth ddaw yn ôl.

·         O ran yr ymatebion, rhagwelid y byddai llunio blaenoriaethau lleol yn broses fyddai’n galw am gonsensws.  Yn amlwg, roedd rôl bwysig i sefydliadau statudol, fel cynghorau cymuned a thref, a byddai angen ystyried beth yw agweddau a barn y prif sefydliadau i gyd-fynd â hynny.  Roedd yn anodd cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd lle gallai grwpiau bychain llafar geisio gor-ddylanwadu ar adborth, ond efallai bod angen hefyd ystyried y dystiolaeth yn y cyd-destun hwn.  Er nad yn berffaith, gallai’r data hefyd fod o gymorth weithiau i weld os yw problem yn un sy’n cael ei diffinio yn yr ardal honno.  Gan hynny, roedd yn debygol o fod yn gymysgedd o bethau, yn hytrach nag un ateb.

·         Bod gan craffu rôl bwysig iawn yn natblygiad y Fframwaith Adfywio gan y byddai’n broses barhaus i’r dyfodol.  

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Dogfennau ategol: