Agenda item

Estyniadau ac addasiadau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfen cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.

 

Cofnod:

Estyniadau ac addasiadau

            Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

a)    Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         Codi estyniad ochr deulawr ar safle modurdy unllawr presennol - bydd yn ymestyn tua’r dwyrain (ochr) yr un pellter a´r modurdy presennol ond yn ymestyn 1.4m o flaen y presennol a 1.8m tua’r cefn ac o’r un uchder a tho’r presennol. Bydd modurdy, iwitiliti ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod a llofft ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Bydd talcenni newydd ar flaen a chefn y gyda balconi “Juliette” ar y llawr cyntaf yn y cefn

·         Codi estyniad deulawr cefn ar ben gorllewinol yr eiddo gydag ystafell ardd ar y llawr gwaelod a llofft ar y llawr cyntaf. Bydd yr estyniad yn ymestyn 3.7m tua’r cefn ac yn creu talcen newydd yn wynebu’r cefn.

·         Bydd gan yr estyniadau deulawr doeau brig o lechi gyda’r to brig newydd ar y blaen a’r cefn yn is na lefel to’r prif .

·         Bwriedir codi porth newydd ar y blaen ynghyd a tho llechi unllethr ar draws y porth ag estyniad unllawr presennol arall.

 

Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd a oedd yn awgrymu nad oedd y dyluniad yn gweddu’r stryd ac yn orddatblygiad fyddai’n cysgodi eiddo cymdogion. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n ymwneud a'r agwedd lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol gan ddatgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion polisi PCYFF 3 y CDLl a rhestrwyd y rhesymau yn yr adroddiad.

 

Yng nghyd-destun gor-edrych a chysgodi eiddo cymdogion, ystyriwyd natur drefol y safle a’r rhyng-welededd sydd eisoes yn bodoli rhwng y tai a’r gerddi'n lleol. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau yn cael niwed arwyddocaol ychwanegol ar breifatrwydd cymdogion nac y byddai niwed arwyddocaol ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PCYFF 2 y CDLl.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Adeiladwyd Sandpiper yn 1967 fel cartref gwyliau i'w Daid.

·         Yr eiddo mewn cyflwr enbyd – dim buddsoddiadau diweddar

·         Bod 2 ystafell wely i fyny'r grisiau ac 1 ystafell wely i lawr y grisiau gydag ystafell ymolchi; y yn cael ei wresogi gan storage heaters ond heb ei insiwleiddio - hyn yn anaddas i'r amgylchedd. Angen uwchraddio systemau trydan a dwr yn llwyr gan eu bod yn beryglus ac anaddas

·         Y bwriad yw ymestyn uwchben y garej ac allan i’r cefn i mewn i'r ardd  - yn debyg iawn i estyniadau eraill yn y stryd. Bydd hyn yn darparu 4 ystafell wely i fyny'r grisiau sy'n flaenoriaeth oherwydd nifer plant a Nain sy'n aros yn rheolaidd

·         Mae’r cynsail i foderneiddio wedi ymestyn ar hyd y stryd a hyd yn oed os caniateir y cais bydd yr eiddo yn un o'r tai lleiaf o'i gymharu â maint y plot

·         Y bwriad yw defnyddio adeiladwr a masnachwr lleol

·         Bod addasu a moderneiddio’r yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda gofynion amgylcheddol cyfredol ac yn cwrdd â'r rheoliadau adeiladu cyfredol. Bydd insiwleiddio’r llofft, y waliau, y lloriau ar waliau allanol ynghyd a newid pob ffenestr yn lleihau ôl troed carbon. Bydd y system gwres canolog newydd hefyd yn cwrdd â gofynion newydd y llywodraeth

·         Trafodwyd y cynlluniau gyda chymdogion er mwyn arbed amser a derbyniwyd cefnogaeth ysgubol ganddynt. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol gyda phawb yn gytûn mai’r budd mwyaf fyddai moderneiddio’r sydd wedi ei esgeuluso dros y blynyddoedd diwethaf.

·         Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol gan yr Adran Cynllunio (Mawrth 2021) yn nodi nad oedd gwrthwynebiad i’r cais yn nhermau ystyriaethau cynllunio

·         Nid yw’r dyluniad yn mynd yn groes i unrhyw bolisïau cynllunio ac nid yw’r ardal yn cael ei ystyried yn ardal o harddwch eithriadol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn amlygu pryderon cymdogion

·         Dim gwrthwynebiad i’r estyniad ar y modurdy ond anghydweld gydag estyniad i’r cefn

·         Byddai’r addasiadau yn welliant i’r eiddo, ond estyniad i’r cefn yn cael effaith difrifol ar ardd cymydog

·         Bod yr eiddo yn dy haf ar gyfer defnydd teuluol (ar hyn o bryd)

·         Awgrym cynnal ymweliad safle neu fod ambell aelod o’r Pwyllgor yn ymweld

·         Bod y bwriad yn orddatblygiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglyn a chynnal ymweliad safle, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd nad oedd ymweliad safle yn ymarferol o dan reoliadau covid a bod tystiolaeth ddigonol yn cael ei gyflwyno drwy luniau a chyflwyniad y swyddog.

 

d)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod angen gwella a moderneiddio’r

·           Awgrym cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglŷn ag estyniadau i’r cefn

·           Angen ystyried pryderon cymdogion a Chyngor Cymuned

·           Arwydd ‘No parking’ o flaen y - angen arwydd ddwyieithog

·           Angen ystyried ail sefydlu panel ymweld - yr awgrym o gynnal ymweliad safle yn dderbyniol - gellid cymryd gofal ac ymbellhau yn unol â chanllawiau

 

f)     Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag ‘angenyr ymgeisydd am mwy; bod yr addasiadau yn gwella cyflwr y er mwyn gosod i’r dyfodol; pam bod angen newid cymeriad y ? ydi achlysurol ei ddefnyddangenestyniad?, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd cyfiawnhad o’rangen’ am estyniad yn ystyriaeth o dan  Polisi Cyff 3. Ategwyd bod yr estyniad i’r cefn yn ymestyn 1.8m allan i’r ardd o’r presennol ac y byddai effaith gysgodol yn debygol ar ddiwedd y dydd.

 

g)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu y cais.

 

Disgynnodd y cynnig

 

h)    Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.

 

Dogfennau ategol: