Agenda item

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau perthnasol sy’n ymwneud a:-

  1. Cyfnod dechrau’r gwaith
  2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.
  3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).
  4. Mynediad a pharcio
  5. Tirweddu a thirlunio.
  6. Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.
  7. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
  8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr hwyneb.
  9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.
  10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n    hysbysu ac     yn hyrwyddo 'r datblygiad

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Cofnod:

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod ardal y cais erbyn hyn wedi ei ddynodi’n statudol gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Er y dynodiad ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o’i ganiatáu yn tanseilio’r dynodiad gan ystyried sylwadau CADW.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid amod 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif C17/0438/18/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl. Eglurwyd, fel yn flaenorol, bod y manylion sy’n ymwneud a graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa i’r safle wedi eu cadw’n ôl i’w hystyried yn y dyfodol trwy gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl. Nodwyd bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai (gan gynnwys 5 fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol), creu mynedfa newydd ynghyd a darparu llecyn amwynder. Ategwyd bod y  cais gwreiddiol (C09A/0396/18/AM) yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn darparu elfen o dai fforddiadwy a bod y cytundeb cyfreithiol sydd wedi ei arwyddo yn wreiddiol gan yr ymgeisydd yn parhau i fod yn ddilys.

 

Adroddwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn boed hynny yn 2014 a 2017, ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol. Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais amlinellol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r cais i ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd rhannol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol a rhannol ar sail y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn - Fersiwn Cyfansawdd.  Erbyn hyn, y ddogfen polisi cynllunio lleol mabwysiedig yw’r CDLL ac fe gyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr adroddiad.

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Deiniolen dros gyfnod y Cynllun yw 45 uned gyda disgwyl i’r cyflenwad dangosol gael ei gyfarch trwy safle dynodiad tai T65 a trwy safleoedd ar hap – o ganlyniad mae modd cefnogi’r bwriad o dan Polisi TAI3. Bydd 5 tŷ fforddiadwy yn cael eu cynnwys yn y bwriad sy’n gyfystyr ag 18% o’r datblygiad. I’r perwyl hyn, mae’r bwriad yn parhau i gwrdd â throthwy tai fforddiadwy a nodwyd o fewn Polisi TAI15.

 

Bydd y bwriad yn darparu cymysgedd ac amrywiaeth eang o dai i gyfarch yr angen am y fath dai yn Deiniolen yn unol ag Asesiad Angen Tai Gwynedd ac asesiad ar gyfer pentref Deiniolen sy’n dangos yr angen am dai fforddiadwy 2 a 3 llofft a thai marchnad agored 2, 3 a 4 llofft.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad o ymestyn yr amser a roddir o dan ganiatâd rhif C17/0438/18/LL er mwyn cyflwyno materion a gadwyd yn ôl yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Nifer o dai eraill wedi eu hadeiladu yn ystod y cyfnod - pryder am gapasiti yr ysgol gynradd

·         Awgrym i’r Cyngor brynu darn o dir gerllaw'r ysgol a’r safle bwriadedig ar gyfer estyniad i’r ysgol i’r dyfodol

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganatau’r cais

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau :-

 

1.         Cyfnod dechrau’r gwaith

2.         Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.         Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.         Mynediad a pharcio

5.         Tirweddu a thirlunio.

6.         Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.         Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.         Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr hwyneb.

9.         Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

10.       Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: