Agenda item

 

Cais ar gyfer codi ty deulawr gyda modurdy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Owain Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gwrthod

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad yw’r bwriad yn cydweddu a phatrwm adeiladu’r ardal.

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y safle.

 

Cofnod:

 Cais ar gyfer codi tŷ deulawr gyda modurdy

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod safle’r cais o fewn ffin datblygu pentref Clynnog Fawr ar lecyn o dir gwag wedi ei leoli yn gyfochrog a mynedfa gerbydol safonol sydd yn arwain at dai preswyl sydd i gefn ac ochr lleoliad y datblygiad arfaethedig hwn.

Eglurwyd bod cais blaenorol ar gyfer y bwriad wedi ei wrthod o dan C20/1049/34/LL oherwydd maint, graddfa, dyluniad a’i effaith ar eiddo gerllaw. Cydnabuwyd fod y bwriad oddeutu 0.5m yn is na’r hyn a wrthodwyd o dan y cais blaenorol, ac mae asiant y cais wedi darparu cynlluniau ychwanegol sy’n cynnwys strydlun a chynllun lefelau presennol.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

 

Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor 12.07.2021 er mwyn cywiro cyfeiriad y safle ac ail-ymgynghori er mwyn sicrhau fod ymgynghorwyr a chymdogion yn ymwybodol o safle’r cais.

 

Wrth ystyried mwynderau cyffredinol, gweledol a  phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda’r brif ffordd i mewn ac allan o’r pentref ac wedi ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint, dyluniad ac edrychiadau.

 

Nid yw swyddogion wedi eu hargyhoeddi yn yr achos yma bod maint a dyluniad yr  adeilad yn addas ar gyfer y safle. Ystyriwyd fod angen ystyried ei leoliad a’r lefelau tir yn well  er mwyn galluogi’r datblygiad i gyfrannu tuag at gymeriad yr ardal yn ogystal â’i alluogi i integreiddio i batrwm a chymeriad yr ardal leol mewn modd derbyniol. Ni ystyriwyd fod y dyluniad yn cyfleu hyn ac felly ni ellid cefnogi’r datblygiad yn y ffurf y’i cyflwynwyd. Ystyriwyd fod y bwriad yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 a PS5 o’r CDLl.

 

Nodwyd bod y bwriad yn osgoi cynnwys ffenestri o ffurf a nifer (ar yr edrychiad gogleddol) a fyddai’n debygol o amharu ar drigolion yr eiddo cyfochrog. Er hyn mae’r cynllun yn arddangos y byddai rhai o’r ffenestri wedi eu cymylu ond ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith gwaeth na’r hyn a gymeradwywyd yn y gorffennol gan gyfleu teimlad o oredrych (oherwydd nifer a’u huchder) o safbwynt yr eiddo drws nesaf.

 

Yn ogystal, adroddwyd bod y safle yn sylweddol uwch na’r eiddo drws nesaf a byddai’r bwriad o godi eiddo deulawr llawn ar y lefel tir yma yn achosi nodwedd anghydnaws yn yr ardal ynghyd ac achosi effaith ormesol sylweddol ar yr eiddo drws nesaf. Ategywd y byddai’r lefel tir hefyd yn cynyddu’r elfen o oredrych i mewn i ardd gefn yr eiddo drws nesaf - er bod yr ardd yn weladwy yn bresennol o’r safle, nid oes defnydd o’r safle ac felly mae unrhyw oredrych presennol yn achlysurol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn nhermau graddfa, dyluniad, lleoliad a lefelau tir/llawr ar gyfer y safle hwn. Yn ogystal, ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd a mwynderau'r eiddo drws nesaf o ran maint, uchder, lleoliad a nifer ffenestri sy’n ystyriaethau perthnasol sy’n ffurfio rhan o’r ystyriaethau dros argymell gwrthod y cais. Er bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu a bod hanes cynllunio yn dangos fod eiddo preswyl wedi ei gymeradwyo ar y safle yma yn y gorffennol, ni ystyriwyd fod y bwriad yn addas i gyfiawnhau caniatáu’r datblygiad yn y ffurf a gyflwynwyd.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y cais y pwyntiau canlynol gan gyflwyno fideo oedd wedi ei gymryd o’i ystafell wely mewn eiddo gyferbyn a’r safle:

·         Bod y bwriad i adeiladu annedd deulawr ar dir ger Plas Beuno yn creu effaith  sylweddol ar eu heiddo gan ddifetha’r olygfa o du blaen eu eiddo. Yn bendant ni fydd y golygfeydd a oedd yn cael eu brolio yn y pamffledi yn ystod cyfnod gwerthu’r eiddo mewn bodolaeth

·         Bydd effaith y datblygiad ynghyd a cholli golygfeydd yn creu ymdeimlad o oredrych a chael eincau i mewn

·         Wedi symud o Telford i'r ardal wledig hon yng Ngogledd Cymru i chwilio am fywyd gwell, gan ddewis y lleoliad yma yn benodol oherwydd bod ganddo olygfeydd hyfryd ac nad oedd goredrychiad gan dai cyfagos

·         Wedi ymdrechu i ymgartrefu yn y gymuned leol, dysgu siarad Cymraeg ac adeiladu ein cartref am byth, nid ydym am gael ein gorfodi allan

·         Pe buasem yn ymwybodol pan dderbyniwyd ein cynnig ar y (plot 1 Plas Beuno) bod bwriad adeiladu annedd deulawr ar dir ger Plas Beuno, byddwn yn bendant heb fod wedi bwrw ymlaen â'r pryniant. Wythnosau lawer ar ôl i'n cynnig gael ei dderbyn ac wedi ymrwymo'n ariannol i'r pryniant ac yn methu â thynnu allan, yr hysbysebwyd fod bwriad adeiladu ar y tir ger yr eiddo yr oeddem wedi'i brynu.

·         Credaf fod amseriad y cais cynllunio diwygiedig diweddar C21/0376/34/ LL yn weithred bwrpasol er mwyn peidio â pheryglu gwerthiant y tai eraill sy'n cael ei datblygu ar safle ger Plas Beuno.

·         Bod yr holl ddeunyddiau marchnata a hyrwyddo oedd yn gysylltiedig â gwerthu eiddo ym Mhlas Beuno yn dangos yn glir bod yr ardal arfaethedig ar gyfer cynllunio yn ymddangos fel llecyn gwyrdd

·         Bod caniatâd cynllunio wedi cael ei wrthod ar y safle ar ddau achlysur blaenorolnid oes unrhyw resymeg na seiliau rhesymol dros  ganiatáu y tro hwn o ystyried y byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar dai cyfagos

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod wedi ei fagu ac yn byw yng Nghlynnog ac yn aelod gweithgar o’r gymuned

·         Bod y cais yn un i adeiladu cartref yn y pentref iddo ef a’i deulu

·         Wedi prynu y safle 2017 yn ymwybodol bod caniatâd wedi rhoi ar y safle yn 2008 i godi teulu

·         Ei fod wedi trafod y bwriad gyda Rheolwr Cynllunio yn 2016 gan dderbyn sicrwydd y bydd hawl cynllunio yn cael ei ganiatáu ar y safle cyn belled a bod y dyluniad yn addas a thebyg i’r un a ganiatawyd yn 2008

·         Yn 2020, comisiynwyd pensaer i gynllunio addas gan addasu cynlluniau blaenorol fel bod y cynllun yn cyd-fynd a thai cyferbyn yn unol ag argymhelliad y Rheolwr Cynllunio

·         Bwriad yw symud tunelli o bridd fel bod modd suddo’r i ddilyn patrwm strydlun a lleihau goredrych

·         Siomedig mai’r argymhelliad yw gwrthod y cais - dim gohebiaeth wedi ei dderbyn. Teimlo ei fod wedi cael ei gamarwain gan y Rheolwr Cynllunio a awgrymwyd  bod codi yn dderbyniol cyn belled a bod y dyluniad yn drawiadol

·         Yr adroddiad yn gamarweiniol yn nghyd-destun patrwm tai - ystyrir bod y dyluniad presennol yn asio yn well gyda thai gyferbyn 

·         Ni fydd goredrychbwriad yw gosod ffenestri wed eu cymylu i osgoi hyn

·         Ffens 6 troedfedd y cael ei godi i greu preifatrwydd

·         Perchennog y drws nesaf wedi cyflwyno llythyr o gefnogaeth yn datgan ei fod yn hapus gyda mesurau lleihau goredrych

·         Siomedig nad oedd llythyrau cefnogaeth eraill a gyflwynwyd gan gymdogion y safle wedi eu crybwyll yn yr adroddiad

·         Diffyg tai yn  lleol a dim ar werth yng Nghlynnog - ei ddymuniad yw adeiladu cartref addas iddo ef a’i deulu fel ei fod yn gallu aros yn y pentref a pharhau i gyfrannu i’r gymuned leol

·         Caniatáu y cais yn sicrhau y byddai fforddiadwy yn cael ei ryddhau i bobl leol yn yr ardal

 

d)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Awgrym gan wrthwynebwyr bod trefniadau gweinyddol gan yr ymgeisydd yn gamarweiniol

·         Rhai wedi prynu tai gan ddeall nad oedd bwriad adeiladu ar y llecyn gwyrdd

·         Cais am lythyrau gohebiaeth gan yr Adran Cynllunio i’r ymgeiswyr i’w rhannu gyda’r Aelod Lleol

·         Awgrym i ohirio penderfyniad – anghytundeb ar y ddwy ochr

 

ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr ymgeisydd yn cyfeirio at y canllawiau cynllunio blaenorol

·         Nad yw’r dyluniad yn cydweddu’r ardal

·         Bod y math o dy a dyluniad yn anghywir ac anaddas

·         Effaith andwyol gormesol ar y tai cyfagos

·         Y tŷ yn llenwi’r plot – yn orddatblygiad

·         Maint y tŷ yn ormod i’r safle

 

            PENDERFYNWYD

 

Gwrthod y cais am y rhesymau canlynol:

 

 

1.         Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad yw’r bwriad yn cydweddu a phatrwm adeiladu’r ardal.

 

2.         Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y safle.

 

Dogfennau ategol: