skip to main content

Agenda item

Dymchwel modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gwrthod

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol

 

 

Cofnod:

Dymchwel modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol.

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi adeilad deulawr yn ei le gyda modurdy dwbl ar y llawr gwaelod ac  anecs anheddol yn gysylltiedig â’r prif . Lleolir y safle o fewn gardd Derwen Deg sydd yn eiddo ar wahân o fewn ffin datblygu Llanbedrog

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gynnwys un gan y Cyngor Cymuned yn datgan pryder fod y bwriad yn orddatblygiad, bod y safle yn anaddas ac y byddai cael ffenestri ar y llawr cyntaf yn goredrych eiddo preifat gan greu effaith niweidiol ar gymdogion cyfagos

 

Nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar y cyfan er bod y bwriad yn sylweddol fwy o faint na’r hyn sydd yn bodoli yn barod. Er hynny, ystyriwyd bod y bwriad yn gweddu gyda’r ardal drefol sydd  o natur wasgaredig ac yn parchu cyd-destun y safle. Ategwyd bod y dyluniad yn dderbyniol ac nad oedd yn niweidiol i gymeriad yr ardal nac yn creu effaith arwyddocaol ar gymdogion - gellid gosod amod i sicrhau bod y ffenestri sy’n goredrych yn cael eu cadw’n afloyw yn barhaol ac y gellid rheoli’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio drwy amod cynllunio priodol

 

Defnydd y bwriad yw fel modurdy ac anecs anheddol ac fe ellid rheoli’r defnydd drwy osod amod i sicrhau mai dim ond at ddefnydd atodol i’r prif y defnyddir yr anecs ac nid at unrhyw ddiben arall. Byddai angen caniatâd cynllunio ychwanegol ar gyfer unrhyw newid defnydd materol o’r anecs.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Nifer o bryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol

·         Bod yr eiddo wedi ei leoli ar odrau Mynydd Tir y Cwmwd

·         Bod y system garthffosiaeth ar y lleoliad yn anaddas

·         Bod yr anecs yn bell o’r tŷ - potential i’r uned fod yn hunangynhaliol i’r dyfodol

·         Gosod cynsail beryg o greu ail dy yn yr ardd

·         Estyniad fuasai’r syniad gorau os am gael un stafell wely ychwanegol

·         Materion croesi'r ffordd yn achosi pryder – y ffordd yn anaddas i’r tai

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais

·         Y bwriad yn orddatblygiad

 

c)    Cynigiwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am y rhesymau canlynol:

·         Bod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Byddai estyniad ar y yn fwy naturiol

·         Er o fewn y ffin datblygu, y bwriad yn ymddangos fel tŷ newydd yng nghanol cefn gwlad

·         Wedi ei leoli mewn safle amlwg o fewn y pentref

 

PENDERFYNWYD

 

Gwrthod

Rhesymau:

 

Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol

 

Dogfennau ategol: