Agenda item

Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gwrthod

Rhesymau: Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos

 

Cofnod:

Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer estyniad a newidiadau i eiddo anheddol presennol . Byddai’r newidiadau’n cynnwys :

·         Estyniad llawr cyntaf dros ben modurdy presennol – byddai’r estyniad terfynol yn 7.6m o uchder, 0.7m yn is na tho’r tŷ presennol, Bydd talcen do o lechi gyda balconi “Juliette” ar flaen y llawr cyntaf.

·         Codi balconi ar hyd llawr cyntaf yr eiddo presennol, (fyddai’n gweithredu fel feranda llawr gwaelod) – bydd sgrin preifatrwydd ar ddau ben y balconi

·         Codi estyniad unllawr ar gefn yr eiddo gyda thalcen do o lechi

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

Adroddwyd bod Polisi PCYFF 2 y CDLl yn annog gwrthod cynigion fydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau eiddo lleol. Mynegwyd pryder gan gymydog y byddai creu balconi ar flaen yr eiddo yn galluogi gor-edrych a fyddai'n niweidiol i'w preifatrwydd ac yn sgil y sylwadau hynny fe ddiwygiwyd y cynlluniau i gynnwys sgriniau preifatrwydd ar ochrau’r balconi blaen. Er bydd posib gweld ychydig o erddi blaen eiddo cymdogion o’r balconi fel yr ail-ddyluniwyd, mae blaenau’r tai ar Lôn Gwydryn eisoes yn agored i'r stryd ac yn weladwy o fannau cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r balconi’n ychwanegu’n arwyddocaol at niwed i breifatrwydd yr eiddo sy'n wynebu'r stryd.

Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod adroddiad y Swyddog, sy'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig, yn mynd i'r afael â'r holl bryderon sydd wedi'u nodi yn yr ymatebion.

·         Bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi eu cynnal gyda swyddogion cynllunio a bod y sylwadau wedi eu hymgorffori'n llawn yn y dyluniad terfynol.

·         Bod rhai gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn cynnwys materion nad ydynt yn seiliedig ar faterion cynllunio ac felly yn amherthnasol

·         Bod y pryderon a godwyd mewn perthynas â sŵn ac aflonyddwch posibl o'r balconi arfaethedig yn rhagdybiaethau y bydd mwy o bobl yn byw yn y tŷ - nid yw hyn yn gywir gan nad yw nifer yr ystafelloedd yn newid. Yr un yw’r ymateb i bryderon cynnydd mewn traffig

·         Bod y gwrthwynebiadau i raddau helaeth yn nodi bod y datblygiad yn ormesol ac y byddai eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd

·         Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ddyluniad yr ychwanegiadau gan ddefnyddio'r ôl troed presennol i wella'r eiddo. Er derbyn bod y bwriad yn creu'r argraff o faint mwy, byddai’r estyniad wedi'i leoli uwchben y garej bresennol, sydd  dros 5 metr i ffwrdd o'r eiddo cyfagos

·         Bod modd ymateb i faterion goredrych drwy osod amod bod ffenestri ychwanegol ar y cefn yn lleddfu pryderon - hapus i gydymffurfio â'r amod yma

·         Ni dderbyniwyd sylwadau gan yr Uned Priffyrdd ac ni chodwyd pryderon gan yr uned AHNE

·         Bod adroddiad y swyddogion yn cadarnhau bod graddfa'r bwriad yn briodol ar gyfer y lleoliad a bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau lleol a chenedlaethol gan wella cymeriad ac ymddangosiad yr eiddo. Ni fydd y bwriad mewn unrhyw ffordd yn niweidiol - mewn gwirionedd bydd yn gwella’r strydlun.

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn ategu pryderon y Cyngor Cymuned – y bwriad yn orddatblygiad

·         Nid yw yn gweddu i’r ardal

·         Mae’n amharu ar breifatrwydd trigolion cyfagos

·         Bod pob drws llofft yn agor allan ar y balconi ac felly sŵn yn deillio o’i ddefnydd

·         Bod cais tebyg yn 2004 wedi ei dynnu yn ôl

·         Y balconi yn edrych dros neuadd  y pentref ac i lawr i’r pentref - creu teimlad dominyddol

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:

·         Bod y bwriad yn orddatblygiad

·         Yn gynsail peryglus

·         Yn creu effaith ar fwynderau cymdogion

 

d)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen ystyried yr elfen goredrych

·         Dim golygfa o’r balconi, felly beth fydd ei ddefnydd?

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â goredrych, nodwyd bod amod i sicrhau gwydr afloyw i ffenestri yng nghefn yr adeilad a bod oddeutu 22m rhwng yr eiddo a'r tŷ agosaf sydd yn cael ei ystyried fel pellter digonol.

 

            PENDERFYNIAD

Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

·         Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos

 

Dogfennau ategol: