Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi fod yr adroddiad hwn yn benllanw proses sydd wedi cymryd rhai blynyddoedd. Amlygwyd fod 2 flynedd wedi bod ers i’r Cabinet gytuno i fynd i drafodaeth gyda’r corf llywodraethol.  Eglurwyd mai niferoedd isel, cyson a bregus yr ysgol yw sail y pryderon sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn. Eglurwyd heddiw mai pwrpas yr adroddiad yw i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau sydd wedi ei derbyn cyn penderfynu os y bydd angen cau’r ysgol a darparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r penderfyniad sydd yn cael ei drafod yn un hawdd ac amlygwyd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i pawb sydd ynghlwm ar ysgol ac diolchwyd i bawb sydd wedi cyfrannu i’r drafodaeth. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet wedi derbyn cais i ymweld a’r ysgol ond ei fod wedi mynychu’r ysgol o’r blaen fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol ac nid yr adeilad sydd tu o’r i’r argymhelliad ond yr heriau sydd yn wynebu’r ysgol. Cyfeiriwyd at rhai gwrthwynebiadau a oedd yn cwestiynu penderfyniadau y Cyngor ac os oes gwrandawiad teg wedi ei gynnig. Pwysleisiwyd nad oes dim sail i’r pryderon yma ac fod pwyso a mesur gwrthrychol wedi ei wneud cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adran hanes yr eitem. Mynegwyd fod penderfyniad wedi ei wneud ar y Rhybudd Statudol i gau yr ysgol ym mis Mehefin 2021 ond fod y drafodaeth wedi cychwyn ôl ym Medi 2019. Eglurwyd fod tri cyfarfod gyda’r corff llywodraethol wedi eu cynnal rhwng Hydref a Ionawr 2020 a oedd yn trafod yr opsiynau posib i’r ysgol. Ym Medi 2020, bu i’r Cabinet benderfynu ymgymryd a phroses ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysol Abersoch. Cadarnhawyd y penderfyniad ar y 3 Tachwedd yn dilyn i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei alw i mewn a’i gyfeirio yn ôl i’r Cabinet gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

Amlygwyd prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol a arweiniwyd at yr adolygiad. Eglurwyd fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn gyson ers 2016 a bellach mewn sefyllfa fregus. Mynegwyd fod yr ysgol o ganlyniad i hyn yn wynebu pwysau cyllidebol gynyddol. Amlygwyd fod yn holl blant yn cael ei dysgu mewn un ystafell ddosbarth, ynghyd a fod 21 plentyn o fewn y dalgylch yn mynychu ysgol arall gyda 5 disgybl yn mynychu’r ysgol o tu hwnt i’r dalgylch.  Nodwyd fod cost fesul disgybl yn Ysgol Abersoch yn £17,404 sydd yn llawer uwch nac yr ychydig dros £4000 sydd i’w gweld ar draws y sir. Pwysleisiwyd trwy gydol y cyfnod fod Egwyddorion Addysg i Bwrpas ynghyd a Strategaeth Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd wedi bod yn rhan greiddiol o unrhyw benderfyniad. 

 

Tywysodd y Swyddog Addysg yr aelodau drwy’r gwrthwynebiadau a 2 ddeiseb a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol. Diolchwyd i bawb am eu holl sylwadau nid yn unig drwy’r cyfnod gwrthwynebu ond drwy’r cyfnod o ddwy flynedd. Nodwyd fod 211 gwrthwynebiad wedi di dderbyn ynghyd a 2 ddeiseb. Mynegwyd fod nifer o’r sylwadau a gyflwynwyd wedi ei cyflwyno o’r blaen ac felly mod y themâu yn debyg i’r hyn sydd wedi ei thrafod yn flaenorol. Ond pwysleisiwyd fod pob ymateb wedi cael sylw dyledus. 

 

Tynnwyd sylw at y prif themâu.

·         Effaith ar y gymuned – Nodwyd fod yr ysgol yn cael ei gweld fel calon y pentref ac y buasai ei gau yn cael effaith negyddol ar yr ymdeimlad o gymuned. Eglurwyd fod yr adran wedi gwneud asesiad effaith pellach a nodwyd fod nifer o blant yn mynd i Ysgol Sarn Bach ac felly fod cyswllt rhwng yr ysgol amgen a’r gymuned. Ychwanegwyd os penderfyniad yn cael ei wneud y bydd Abersoch yn rhan o dalgylch Ysgol Sarn Bach ac y bydd gofyniad i’r ysgol gynnwys Abersoch fel rhan o fywyd yr ysgol.

·         Addysgol – derbyniwyd nifer o sylwadau’n amlygu y posibilrwydd o gynnydd yn y niferoedd yn yr ysgol. Eglurwyd fod niferoedd wedi bod yn gostwng ers 2016 ac wedi yn fregus ers peth amser. Nodwyd fod rhagolygon yn rhagweld niferoedd yn parhau yn isel dros y 5 mlynedd nesaf ac na fydd effaith mawr ar y niferoedd. Tynnwyd sylw fod y cyfnod ansicr hwn yn amlwg wedi cael effaith ar niferoedd. 

·         Maint Dosbarthiadau yn Ysgol Sarn Bach – tynnwyd sylw at faint dosbarthiadau yn Ysgol Sarn Bach a nododd yr adran os y penderfyniad yn cael ei wneud fod gofyn i’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol i addasu ac i edrych ar opsiynau ar gyfer maint a staffio dosbarthiadau.

·         Ansawdd yr Addysg – derbyniwyd sylwadau yn nodi fod ansawdd addysg Ysgol Abersoch yn arbennig o dda ond pwysleisiwyd fod lefel ansawdd Ysgol Sarn bach yn un lefel ac wedi ei amlygu yn ymateb Estyn i’r ymgynghoriad.

·         Iaith – Tynnwyd sylw at yr ymatebion a oedd yn amlygu y bydd effaith negyddol ar ddiwylliant a’r iaith o gau’r ysgol. Cydnabuwyd gwaith da sydd yn cael ei wneud gan yr Ysgol i ddatblygu’r iaith yn yr ysgol ac o fewn y gymuned. Eglurwyd fod disgwyliad i bob ysgol fod yn gwneud gwaith i ddatblygu’r Gymraeg ac y bydd angen i’r ysgol amgen barhau ar gwaith da sydd yn cael ei wneud.

·         Cylch Meithrin Ti a Fi – nodwyd fod nifer o ymatebion yn nodi fod yr ysgol yn fwy cynaliadwy o ganlyniad i agor y cylch. Eglurwyd fod yn gadarnhaol ond o ystyried maint y cynnydd y buasai heriau yn parhau. Mynegwyd yr awydd i drafod gyda’r cylch am y posibilrwydd o ddefnyddio’r lleoliad presennol i’r dyfodol.

·         Proses Statudol – nodwyd anfodlonrwydd gyda’r broses statudol yn benodol drwy cyfnod y pandemig, cyfarfodydd rhithiol a’r diffyg gyfarfodydd cyhoeddus. Nododd yr adran nad oedd y Cod yn nodi y gofyn i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac fod y drefn yn gwbl dderbyniol.

·         Llwybr i’r ysgol – amlygwyd nad oedd y llwybr i’r ysgol amgen yn addas i gerddwyr ond fod yr adran yn barod yn rhoi cludiant di dal i Ysgol Sarn Bach ac y bydd lle ar y bws i’r disgyblion eraill. Nodwyd anfodlonrwydd na fydd  bws i blant meithrin ond tynnwyd sylw at Bolisi Cludiant y sir sydd yn nodi mai cyfrifoldeb rheini yw cludiant plant meithrin.

·         Effaith ar Ddisgyblion – nodwyd fod y cyfnod yma o ansicrwydd i ddisgyblion Ysgol Abersoch yn gallu arwain at straen. Eglurwyd y bydd yr adran yn cynnig pob cefnogaeth posib i’r disgyblion.

·         Effaith ar Staff – eglurwyd os yn penderfynu i gau y bydd staff yn colli eu swyddi ond y bydd camau yn cael ei rhoi mewn lle gan yr adran Adnoddau Dynol.

·         Adeilad – Eglurwyd y bydd yr adran yn dilyn polisi ôl-ddefnydd y sir os y penderfyniad i gau a fydd yn rhoi ystyriaeth lawn i ôl ddefnydd yr adeilad.

·         Dyddiad Cau – nodwyd fod anfodlonrwydd wedi bod i gau yn ganol blwyddyn ysgol. Eglurwyd fod yr adran yn credu ei fod yn ddigon o amser i’r adran weithio gyda’r ddwy ysgol ac yn rhoi amser effeithiol i baratoi’r disgyblion i ddechau yn yr ysgol amgen ym mis Ionawr.

 

Nododd yr Aelod Lleol fod effaith ddifrifol am a fod i’r pentref o ganlyniad i golli’r ysgol o ran diwylliant a Iaith. Amlygwyd balchder fod y swyddogion wedi adnabod gwaith da mae’r corff llywodraethol wedi ei wneud yn agor Cylch Meithrin a Ti a Fi. Tynnwyd sylw ar niferoedd yr ysgol sydd wedi parhau yr un peth drwy’r cyfnod sydd yn amlygu hyder y rhieni yn yr Ysgol.

 

Tynnwyd sylw at gyfraniad Abersoch i Gymru ac y sir gyda nifer uchel o arian treth wedi ei dalu drwy Dreth Trafodai Tir a Premiwm Treth Cyngor – a gofynnwyd beth mae’r adran yn ei gael yn ôl. Nodwyd fod y arian premiwm ar gyfer cael tai i drigolion Gwynedd ac fod Abersoch wir angen tai. Eglurwyd fod yr aelod yn cyd-weithio gyda’r Adran Tai ac Eiddo a y bydd tai yn cael ei adeiladau yn yr ardal, ynghyd a posibilrwydd o dai ychwanegol ar dir sydd yn eiddo Darparwr Tai Cymdeithasol. Pwysleisiwyd os tai yn cael ei codi angen sicrhau fod adnoddau addysg ar gael yn yr ardal, a gyda un ysgol yn y dalgylch dros ei gapasiti erfyniwyd i’r aelodau fod yn ofalus cyn gwneud y penderfyniad.

 

Nodwyd newyddion da fod gwesty yn cael ei godi yn Abersoch sydd yn fuddsoddiad o £15miliwn a swyddi i dros 40 o bobl. Pwysleisiwyd os swyddi ar gael i bobl leol a tai newydd, fod hyn yn ddatblygiad newydd a nad oes dim sôn wedi bod yn yr adroddiad i’r datblygiadau hyn.

 

Nodwyd anfodlonrwydd yn y broses fod gofyn iddo ymateb i adroddiadau ar fyr rybydd yn aml. Yn ogystal mynegwyd ei bod wedi bod yn her yn y cyfnod cofid ac fod yn amhosib i gynnal cyhoeddus ac felly wedi bod yn annheg ar gymdeithas. Mynegwyd nad oes newid wedi bod ers y cyfarfod cyntaf ac felly fod yr Aelod Lleol yn credu o bosib fod y penderfyniad wedi ei wneud peth amser yn ôl ac felly nad oedd y drafodaeth yn un deg.

 

Amlygwyd gyda cynlluniau yn yr ardal ar y gwell gyda tai a swyddi gofynnwyd i ohirio’r penderfyniad i edrych ar y wybodaeth newydd i sicrhau fod yr adnoddau yn ddigon da, neud i wthio’r dyddiad cau ymlaen i ddiwedd y flwyddyn addysgol i roi tegwch i’r disgyblion.

 

Mewn ymateb i’r Aelod Lleol cydnabuwyd sylwadau’r aelod ynghyd ar parch sydd wedi ei amlygu drwy’r cydweithio dros y cyfnod. Pwysleisiwyd fod yr adran wedi dilyn y Ddeddf  Safonau a’r Cod yn llawn. Ychwanegodd y Swyddog Addysg fod maint yr adroddiadau yn dangos y manylder mae’r adran wedi mynd iddi i sicrhau fod trafodaeth deg yn cael ei gynnal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fo y daith wedi bod yn un hir a  nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud o flaen llaw. Nodwyd nad oes unrhyw nodwedd ychwanegol wedi ei amlygu heddiw i newid y penderfyniad ar gau’r ysgol. Mynegwyd fod cau yr ysgol am fod a effaith ond fod angen gwneud popeth posib i geisio sicrhau fod y Cylch Meithrin a Ti a Fi yn parhau ar y safle.

¾     Tynnwyd sylw at yr elfen Ieithyddol gan dynnu sylw at y gwaith mae Ysgol Abersoch wedi ei wneud i ddatblygu sgiliau dwyieithog y disgyblion ynghyd a ennill gwobr aur y Siarter Iaith, gofynnwyd pam gefnogaeth fydd i sicrhau fod y gwaith yn parhau. Mynegwyd fod gwaith arbennig o dda wedi ei wneud ac ei fod yn anarferol gyda plant mor ifanc ond fod y cynllun wedi gweithio. Nodwyd fod disgwyliad i’r ysgol amgen barhau’r gwaith da.

¾     Nodwyd o ran effaith ar y gymuned nodwyd fod yr ysgol yn nodwedd amlwg ac  bydd y gymuned yn ehangu ac y bydd angen lliniaru’r addasiadau yma. Pwysleisiwyd y bydd rôl yr Aelod Lleol yn flaenllaw i sicrhau y gymuned i’r dyfodol.

¾     Mynegwyd fod yr adroddiad yn benllanw proses ond nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud o’r blaen. Amlygwyd fod holl ddisgyblion Abersoch yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth gyda 10 disgybl ac fod hyn yn peri pryder. Eglurwyd fod angen gofyn pam fod rheini yn anfon plant i ysgolion eraill tu hwn i’r dalgylch. Holwyd os y bydd effaith o symud y plant yn ganol blwyddyn ysgol. Nododd y Pennaeth Addysg nad oes unrhyw dystiolaeth yn nodi fod effaith andwyol ar ddisgyblion os yn symud yng nghanol blwyddyn addysgol.

¾     Mynegodd fod yr Aelod Cabinet wedi gwrando ar y drafodaeth wedi darllen yr holl wybodaeth ac o’r farn nad oes unrhyw beth wedi newid yn y mater ers mis Mehefin, ac felly gofynnwyd am gadarnhad i gau’r ysgol.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart

Dogfennau ategol: