skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /

gwasanaeth.

 

Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau

ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor

wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn

ymateb i’r argyfwng.

 

Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn

parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen

arbedion.

 

Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r

Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr

Adran Plant a Theuluoedd.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u

egluro yn Atodiad 2).

• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾    Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾    Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa  Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol  sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac  ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /  

gwasanaeth. 

 

Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau  ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn 

ymateb i’r argyfwng. 

 

Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn  parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen  

arbedion. 

 

Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r  Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr Adran Plant a Theuluoedd.  

 

Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u  egluro yn Atodiad 2). 

• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:  

¾      Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. 

¾      Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa  Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol  sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw Cyngor ynghyd a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Amlygwyd fod effaith ariannol sylweddol wedi bod i’r Cyngor o ganlyniad i Covid 19 gyda cyfuniad o gostau ychwanegol ynghyd â cholledion incwm. Eglurwyd fod y Cyngor yn gwneud ceisiadau i ad-hawlio costau yn fisol o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd yn ôl ym mis Ionawr fod camau wedi ei gwneud i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer 2021/22, ond eglurwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, gyda oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion gan nodi fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran Oedolion, gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran ac fod gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod.

 

Eglurwyd yn dilyn penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau arbedion amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran. Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k ac fod yr adran wedi wynebu costau ychwanegol yn ymateb a covid, ond fod Llywodraeth Cymru eisoes oedi digolledu a fod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

 

Yn Gorfforaethol nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor. Nodwyd y penderfyniad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Eglurodd y Pennaeth Cyllid nad oedd arian grant Llywodraeth wedi ei ragdybio llynedd, ond fod hynny wedi ei wneud eleni, ac o ganlyniad ar y cyfan fod y sefyllfa yn gyffredinol foddhaol.

¾     Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod angen cyflawni arbedion, ond fod sefyllfa dau adran yn anodd eleni.

¾     Mynegwyd o ran yr Adran Oedolion fod yr adran dan bwysau o ganlyniad i achosion gofal dwys ynghyd a gweithio dan amodau Covid.  Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud llynedd i hawlio costau, ynghyd a derbyn grantiau hwyr. 

¾     Mynegwyd yn y maes Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod cynnydd yn y gwastraff sydd yn cael ei gasglu ynghyd ag addasiadau i’r gwasanaeth o ganlyniad i reoliadau Covid. Amlygwyd pryder am salwch staff, ynghyd a cholled incwm i’r adran, a nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud i ddod o hyd i swm sylweddol o arian.

¾     Diolchwyd ar ran yr Adran Plant a Theuluoedd fod y cynllun arbedion Dechrau i’r Diwedd wedi ei ddileu, ac o ganlyniad bod sefyllfa ariannol yr adran yn foddhaol eleni..

¾     Amlygwyd fod pryder yn parhau am gostau cludiant yr Adran Addysg, ac fod angen edrych ar ddarpariaeth ôl-16. 

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: