Derbyn
adroddiad ar lafar gan Swyddog Network Rail.
Cofnod:
Croesawyd Sam
Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe
gyflwynodd yntau Kevin Collins (Cyfarwyddwr Cyflenwi Llwybrau (Cymru) Network Rail) i ymateb yn uniongyrchol ar faterion gwaith
i’r wal derfyn ar y A493 rhwng Llwyngwril a’r Friog
Dymuniad Cyngor
Cymuned Llangelynnin oedd cael gwybod pryd roedd y gwaith hir ddisgwyliedig o
osod rhwystrau damweiniau a thrwsio wal derfyn ar yr A493 rhwng Llwyngwril a
Friog yn dechrau. Adroddwyd bod y mater wedi ei gyflwyno i Cyngor Gwynedd yn
Ionawr 2015, ond trosglwyddwyd y mater at Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn Mai
2015 gan mai CNC oedd yn gyfrifol am y wal derfyn a'r rhwystr damweiniau.
Daethpwyd â’r gŵyn i sylw Cynhadledd Cyswllt Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn Mawrth 2017 ar mater wedi ei drafod sawl gwaith
ers hynny ond yn parhau heb ddatrysiad.
Nododd KC bod y
gwaith bellach ar restr blaenoriaethau Network Rail gyda chyllideb ac adnoddau wedi eu clustnodi ar ei
gyfer. Gwnaed addewid y byddai gwell cyfathrebu gyda thrigolion lleol ac y
byddai ymweliad safle gyda Chynghorwyr lleol yn cael ei drefnu. Ategwyd bod
angen cysuro rhanddeiliaid bod y gwaith yn cael ei
flaenoriaethu ac er nad oedd amserlen ar gyfer y gwaith, byddai’n fodlon
cyflwyno diweddariad yn y cyfarfod nesaf.
·
SH i drefnu
llythyru trigolion lleol o’r bwriad.
·
Diweddariad i’w
gyflwyno i’r cyfarfod nesaf
Mewn ymateb,
diolchodd y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Llangelynnin) bod cyflwr y wal
bellach yn drychinebus ac ei bod yn gefnogol iawn i’r ymateb Network Rail. Pan ofynnwyd am
ddyddiad posib, nododd KC na allai osod dyddiad pendant ond unwaith y byddai
amserlen yn ei lle, y dyddiadau i’w rhannu gyda SH a LHE. Roedd yn derbyn bod
problemau wedi bod yn y gorffennol ond yn ffyddiog bod yr ymateb yn amlygu
bwriad Network Rail o
wella’r sefyllfa.
·
Dyddiadau amserlen
y gwaith i’w rhannu gyda SH a LHE.
Diolchwyd i Mr
Collins am fynychu’r cyfarfod ac am y diweddariad.
Prosiect Glandulas (Black
Bridge) ger Machynlleth
Bod y gwaith o
godi'r bont, sy'n rhedeg dros yr Afon Dulas wedi ei gwblhau. Codwyd y bont un
metr yn uwch er mwyn lleihau effaith llifogydd ac atal cau’r lein o ganlyniad i
lefel yr afon yn codi yn ystod stormydd a glaw trwm. Nodwyd bod y Cynghorydd
Michael Williams a’r Cynghorydd Trevor Roberts wedi
bod yn ymgyrchu ers peth amser am hyn. Croesawyd y gwaith fydd yn arbed oedi
difrifol ar wasanaethau Reilffordd y Cambrian
Gorsaf Amwythig
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a chynllun gwella gorsaf Amwythig ar cyfle i gynyddu nifer
platfformau ar gyfer gwasanaeth Rheilffordd y Cambrian,
nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn a
dod a phlatfformau yn ôl i ddefnydd yn yr Amwythig Y bwriad yw cynyddu’r nifer
platfformau fel bod modd cynnig mwy o wasanaethau. Awgrymwyd i BG gysylltu yn uniongyrchol gyda SH a LJ i dderbyn
gwybodaeth bellach
Diolchwyd am y diweddariadau