Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 

2.             Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Penderfyniad:

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen. 

2.             Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Cofnod:

(A)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gif

1.         Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i'w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.

2.       Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) – yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan olrhain rhywfaint o hanes ein nawddsant a’i arwyddocâd i ni’r Cymry, gan hefyd bwysleisio mai diben y cynnig oedd ceisio adfer rhywfaint o hunan-barch o ran ein arwahanrwydd a’n hunaniaeth fel cenedl. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol:-

 

·         Ei bod yn llwyr gytuno â’r egwyddor, ac yn cefnogi’r alwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc yng Nghymru.

·         O ran rhan gyntaf y cynnig, pe byddai’r Cyngor yn darparu diwrnod ychwanegol o wyliau i staff, roedd yn bwysig nodi nad oedd modd i’r Cyngor ddarparu’r diwrnod hwnnw i rai staff, ac nid i staff eraill sy’n gweithio o dan yr un amodau a thelerau gwaith.  Byddai’n rhaid darparu’r diwrnod ychwanegol i’r staff hynny fyddai wrth eu gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi er mwyn ei gymryd ar ddiwrnod arall yn ystod y flwyddyn, a byddai cost ynghlwm â hynny os mai’r dymuniad oedd darparu diwrnod ychwanegol i’r pwrpas yma.  Os mai’r dymuniad oedd defnyddio un o’r 1.5 diwrnod o wyliau ychwanegol a ddarperir gan y Cyngor yn bresennol i’r perwyl hwn, byddai angen ymgynghoriad ffurfiol gyda’r undebau llafur cydnabyddedig, gyda golwg ar sicrhau cytundeb torfol cyn gallu gweithredu.

·         O ran ail ran y cynnig, roedd yn llawn gefnogi’r alwad, gan ei bod yn warthus ac yn embaras bod yr hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru, ac roedd yn barod i sicrhau bod llythyr yn cael ei gyflwyno yn ffurfiol i Lywodraeth San Steffan.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Ei bod yn sarhad arnom ers canrifoedd nad oes gennym fel gwlad yr hawl i ddathlu gŵyl ein nawddsant.  Y ddadl o hyd yw’r gost, ond mae gŵyl banc yn hwb anhygoel i economi cefn gwlad, a dylai dathlu Dydd Gŵyl Dewi fod yn rhan o raglen adfer economaidd ôl-Covid y Cyngor.

·         Bod angen gwneud yn glir y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl i’r holl genedl, ac nid i’r gweithlu’n unig.

·         Y dylai’r Llywodraeth a phob cyngor arall yng Nghymru frwydro am hyn.

·         Bod hyn yn syniad ardderchog, ond gan fod staff y Cyngor yn mwynhau telerau gwaith llawer gwell na gweithwyr yn y sector breifat, dylai’r diwrnod ychwanegol o wyliau gael ei dynnu allan o’u hawl gwyliau presennol.

·         Bod dyletswydd ar unrhyw un sy’n byw yng Nghymru i gefnogi ein nawddsant, waeth beth yw eu cefndir a’u traddodiad.

·         Bod rhaid bod yn ofalus nad ydym yn gwahaniaethu rhwng gweithwyr sy’n gweithio oddi fewn i’r Cyngor a gweithwyr eraill sydd ynghlwm â gwaith y Cyngor, ond yn cael eu cyflogi gan gwmnïau preifat, megis gofalwyr.

·         Nad yw’r ddadl bod ysgolion angen dathlu ar Fawrth y 1af yn dal dŵr.  Gall y dyddiad ddisgyn ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul ac mae’n bosib’ i’r ysgolion ddathlu ar y diwrnod ysgol agosaf at Ddydd Gŵyl Dewi.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (56) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Steve Collings, R.Glyn Daniels, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Peter Antony Garlick, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, R.Medwyn Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Elwyn Jones, Eric Merfyn Jones, Gareth Tudor Morris Jones, Huw Wyn Jones, Keith Jones, Kevin Morris Jones, Eryl Jones-Williams, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan,  Dewi Owen, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Rheinallt Puw, Dewi Wyn Roberts, Elfed P.Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Catrin Wager, Cemlyn Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams, Gethin Glyn Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams.

 

Yn erbyn (0)

 

Atal (0)

 

Nododd y Cadeirydd fod y gwelliant wedi cario.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

1.       Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i’w gweithlu er dathlu Diwrnod ein Nawddsant ar Fawrth 1af 2022 a phob blwyddyn o hynny ymlaen.

2.       Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru (drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971) - yn yr un modd ag yw’r drefn eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd yr aelodau Cabinet wedi rhagfarnu eu sefyllfa yn y Cabinet drwy bleidleisio ar y mater, gan y gofynnid i’r Cabinet ystyried y mater yn unig.

 

Holodd y Cynghorydd Dewi Roberts a ddylai aelodau sydd â theulu’n gyflogedig gyda’r Cyngor ddatgan buddiant.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro, er yn dechnegol bod ganddynt fuddiant, bod y mater wedi’i drafod a’i basio bellach, ac mai cyfrifoldeb yr aelodau oedd penderfynu a ddylent ddatgan ai peidio.